Aeth 25 o ddysgwyr o Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy i Dysgani a Fflorens am bythefnos ar ymweliad addysg a chyflogaeth.
Treuliodd y grwpiau – o gyrsiau Gofal Plant, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol – amser gyda sefydliadau, ysgolion a busnesau gan fwynhau golygfeydd a synau’r wlad ar yr un pryd.
Treuliodd carfan Chwaraeon amser yn Yr Eidal dros yr haf hefyd.
Dywedodd y tiwtor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Steph Garrett, fod y daith yn ehangu gorwelion dysgwyr ac yn rhoi blas iddyn nhw ar systemau’r Eidal, tra’n annog datblygiad proffesiynol.
“Roedd y profiad yn gyfle i’r dysgwyr feithrin ystod o sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a meddwl dadansoddol, ynghyd â’u hyder a’u gwydnwch hyder unigol,” ychwanegodd.
“Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn ac yn ogystal ag ochr gyrfaoedd a diwydiant eu hamser yn y wlad, roedden nhw’n gallu dysgu mwy am y diwylliant, y bwyd a’r ffordd o fyw, yn ogystal â theimlo’n fwy annibynnol a mentro o’u mannau cysurus.”
Ychwanegodd y darlithydd gofal plant, Sian Parry: “Roedd yn daith ardderchog gan i’r dysgwyr brofi gofal plant mewn gwlad wahanol a datblygu eu sgiliau ymarferol eu hunain.
“Fe wnaethon nhw hefyd ddatblygu ystod ehangach o briodoleddau personol fel rheoli cyllideb, cadw amser, teithio, coginio drostyn nhw’u hunain, gweithio mewn tîm agos, gwydnwch a hyder.
“I rai, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fod dramor erioed, ac fe wnaethon nhw fwynhau dychwelyd i Ogledd Cymru i rannu eu profiadau wrth werthuso’r gwahaniaethau rhwng ein system addysg ni a’r Eidal.”
Ategodd y tiwtor chwaraeon Karen Trevor y geiriau hynny a dywedodd: “Bydd y myfyrwyr yn cario’r atgofion hyn gyda nhw am weddill eu hoes.
“Maen nhw wedi cael profiad o weithio gyda phlant tramor a’u hyfforddi gan oresgyn anawsterau rhwystr iaith.
“Fe wnaethon nhw ffrindiau da gyda gweithwyr Eidalaidd ac maen nhw’n bwriadu dychwelyd i ymweld â nhw y flwyddyn nesa’ – roedd yn brofiad amhrisiadwy, ac roedden nhw wrth eu boddau gyda phob munud ohono.”
Mae’r coleg wedi trefnu cyfres o ymweliadau addysg dramor yn ystod y blynyddoedd diwethaf â gwledydd fel Cambodia, Sbaen, Fietnam, a’r Eidal.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwricwlwm Astudiaethau Technegol, Sean Regan, fod rhagor o ymweliadau rhyngwladol ar y gweill ar gyfer y blynyddoedd nesaf wrth i’r coleg barhau i greu a thyfu partneriaethau yn Ewrop, Asia a thu hwnt.
“Mae ymweliadau addysgol fel y rhain nid yn unig yn darparu gwerth academaidd ond yn ehangu gorwelion y myfyrwyr go iawn,” meddai.
“Maen nhw’n dangos pa gyfleoedd sydd ar gael, bod gan y sectorau y mae’r dysgwyr hyn yn gobeithio gweithio ynddyn nhw rolau cyffrous, ysbrydoledig ledled y byd, nid yn y DU’n unig.
“Dyna sydd wrth wraidd Cambria, helpu pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion byd-eang a rhoi llwyfan iddyn nhw lwyddo, ac roedd hon yn enghraifft wych o hynny.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.