Nid yw Cneifio Llysfasi wedi cael ei gynnal ers 2019 oherwydd pandemig Covid-19 ond mae’n dychwelyd eleni ac yn fwy nag erioed.
Bydd cystadleuwyr o bob cwr o’r DU yn mynd benben â’i gilydd am wobrau ariannol mewn categorïau sy’n cynnwys Cneifio â Gwellau i Ddechreuwyr, Gwlân Prydain i gystadleuwyr iau, cystadleuaeth Allflex i gystadleuwyr hŷn a chystadleuaeth Agored o fri Heiniger.
Bydd y gystadleuaeth, a gynhelir gan Goleg Cambria Llysfasi, yn dechrau am 8.30am ddydd Sadwrn 11 Mehefin a bydd yn ganolbwynt diwrnod sy’n llawn o weithgareddau, arddangosfeydd a gweithdai.
Bydd yna hefyd far wedi’i gyflenwi gan dafarn Y Plu, Rhuthun, bwyd a lluniaeth; ac mae’r cefnogwyr yn cynnwys Gwlân Prydain, CFfI Clwyd, Heiniger, Allflex ac NFU Cymru.
Dywedodd y darlithydd amaeth Joe Mault fod y coleg yn falch iawn o groesawu cyfranogwyr, beirniaid a’r cyhoedd yn ôl ar ôl absenoldeb mor hir.
“Mae Cneifio Llysfasi yn llawer mwy na chystadleuaeth, mae’n denu pobl o bob cwr o’r wlad ac yn achlysur nostaljic iawn,” ychwanegodd.
“Mae hwn yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a gweld y cneifwyr medrus anhygoel hyn wrth eu gwaith, yn ogystal â dal i fyny â hen ffrindiau, rhwydweithio ac er mwyn i ddarpar fyfyrwyr weld beth sydd gan y coleg i’w gynnig.
“Bydd hufen amaethyddiaeth yr ardal hon yno ac mae’r cyffro eisoes yn cynyddu, yn enwedig gan i’r digwyddiad orfod cael ei ohirio oherwydd y pandemig.
“Allwn ni ddim aros i gael y gystadleuaeth yn ôl ar y safle a hoffem ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â hi, ein staff a’n noddwyr am eu holl gefnogaeth – rydyn ni’n gobeithio eich gweld chi yno.”
I gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cneifio Llysfasi, ffoniwch 01978 267931 neu anfonwch e-bost at joe.mault@cambria.ac.uk.
Gallwch hefyd ymweld â’r dudalen Cneifio Llysfasi Shearing ar Facebook.