Roedd yr adroddiad QAA yn mynegi hyder bod ‘safonau academaidd yn ddibynadwy, yn cyrraedd gofynion y DU, ac yn gymharol debyg i safonau sy’n cael eu gosod a’u cyflawni gan ddarparwyr eraill yn y DU’.
Hefyd fe wnaeth y tîm adolygu – a aeth i ymweld â’r coleg ddwywaith, gan gynnwys ym mis Mai y llynedd – fynegi hyder bod ‘ansawdd profiad academaidd myfyrwyr yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol’.
Mae’r canlyniadau’n rhoi barn arbenigol i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am barodrwydd y darparwr i ymuno â’r sector AU, neu barhau i weithredu ynddo.
Dim ond un maes wnaeth y tîm adolygu nodi bod angen ei wella: Parhau i ddatblygu ei brosesau sicrhau ansawdd mewnol fel y gall adolygiadau rheolaidd o’i arferion safonau ac ansawdd ysgogi gwelliannau a rhagor o ddatblygiadau.
Ni chafodd unrhyw feysydd penodol i’w gwella, eu nodi.
Dywedodd Deon Addysg Uwch Coleg Cambria, Emma Hurst: ‘Rydyn ni’n falch bod y QAA wedi cydnabod a mynegi hyder yn safonau’r ddarpariaeth AU a’r profiad academaidd yng Nghanolfan Brifysgol Cambria a diolch i’r adolygwyr am eu harweiniad, eu cefnogaeth a’u hadborth drwy gydol y broses.
‘Mae’n galonogol nad oedd y QAA wedi dod o hyd i unrhyw feysydd sydd angen eu gwella’n benodol ond bydd y coleg yn parhau i weithio’n galed i godi safonau ar gyfer ein dysgwyr ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y perthnasoedd sydd gennym ni gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid yn y sector.’
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Ganolfan Brifysgol Coleg Cambria.