Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam, cafodd ei gynnal wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers pandemig Covid-19.
Kimberly Wyatt oedd y gwestai arbennig, sef seren rhaglenni Got to Dance, Celebrity Masterchef, Dancing on Ice, ac aelod o’r grŵp pop merched Pussycat Dolls.
“Mae’n anrhydedd ac yn fraint i fod yma gyda chi,” meddai Kimberly, sydd hefyd yn llysgennad ar gyfer Youth Sport Trust.
“Mae’r coleg yn rhyfeddol; mae’r cyfleusterau yn anhygoel, a dwi wedi cael fy syfrdanu drwy’r dydd.”
Siaradodd am ei bywyd ei hun yn y diwydiant cerddoriaeth, dawns, adloniant a’i bod hi wedi symud i’r DU o’r UDA, roedd y sgwrs yn ysbrydoledig. Ychwanegodd hi: “Byddwch yn chi’ch hunain, byddwch yn ddewr, byddwch yn wreiddiol a llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni canlyniadau mor rhyfeddol – da iawn pawb.”
Roedd Pennaeth Cambria Sue Price yn canmol y myfyrwyr addysg bellach am eu hymroddiad a’u gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf yr heriau o ddysgu o bell a hunanynysu yn ystod y cyfnod clo.
“Mae’n wych gweld pawb yn ôl mewn ystafell gyda’i gilydd, i ddathlu eich cyraeddiadau arbennig ac i edrych ymlaen at eich dyfodol yn hyderus wrth i chi nesáu at eich gyrfaoedd dymunol,” meddai Mrs Price.
“P’un ai ei fod yn ganlyniadau arbennig, rhagori o fewn diwydiant neu ddangos dewrder ac ysbrydoliaeth wrth wynebu adfyd. Unwaith eto mae bob un ohonoch chi wedi dangos rhinweddau anhygoel ac ysbrydoledig sy’n gwneud i ni fod yn falch iawn ohonoch chi.
“Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn, a dwi’n gwybod y byddwch chi’n llwyddo i wneud beth bynnag rydych chi’n dewis ei wneud.
“Rydyn ni’n falch iawn am yr angerdd a’r ymrwymiad rydych chi wedi’u dangos yn ystod eich cyfnod yng Ngholeg Cambria.”
Ychwanegodd hi: “Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i glodfori ein staff anhygoel am barhau i wneud eu gorau glas i gyflawni rhagoriaeth wrth ganolbwyntio ar lesiant ein dysgwyr, eu teuluoedd, a’r gymuned – diolch.”
Mae’r gwobrau myfyrwyr yn dathlu cyrhaeddiad ar draws pob safle Cambria – Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Ffordd y Bers ac Iâl yn Wrecsam.
Roedd y dysgwyr ar y noson yn cynnwys:
Myfyriwr y Flwyddyn – Chweched Glannau Dyfrdwy– Sky Cooper
Myfyriwr y Flwyddyn – Chweched Iâl– Evie Huhtala
Myfyriwr y Flwyddyn – Mynediad – Bridie Benson
Myfyriwr y Flwyddyn – Addysg Uwch – Charlotte Lee
Myfyriwr y Flwyddyn – Chwaraeon Elît – Ella Wall
Myfyriwr y Flwyddyn – Y Gymraeg – Mirain Gwyn
Myfyriwr y Flwyddyn – Busnes – Tara Threadgold
Myfyriwr y Flwyddyn – Cyrsiau’r Tir Llaneurgain – Amy Ellis
Myfyriwr y Flwyddyn – Sgiliau Sylfaen – Harry Hallam Prydderch
Myfyriwr y Flwyddyn – Cyrsiau’r Tir Llysfasi – Amelia Bailey
Cafodd seremoni wobrwyo ei chynnal ar gyfer myfyrwyr a phrentisiaid Dysgu yn y Gwaith hefyd.
Jack Sargeant AS Alun a Glannau Dyfrdwy oedd y gwestai arbennig, roedd yn llongyfarch pawb a oedd yn bresennol am eu doniau a’u hunan gymhelliant dros y 12 mis diwethaf.
Roedd y dysgwyr yn cynnwys:
Dysgwr y Flwyddyn – Proffesiynol – Lorraine Morgan
Dysgwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn – Sydney Ellis
Prentis y Flwyddyn – Awyrennau – Jack Tudball
Prentis y Flwyddyn – Cerbydau Modur – Jessica Hunt
Dysgwr y Flwyddyn yn y Gwaith – Trin Gwallt a Harddwch – Jordan Elwell
Ewch i www.cambria.ac.uk/studentawards2022 i weld rhagor o wybodaeth a’r rhestr lawn o enillwyr yn y seremonïau Addysg Bellach a Dysgu yn y Gwaith.