Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A COLLEGE nursery had an ‘Excellent’ start to the academic year with an outstanding inspection result

Cafodd Meithrinfa Toybox, sydd wedi’i lleoli yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, ei nodi’n Rhagorol mewn tri chategori – Llesiant, Gofal a Datblygiad, ac Arwain a Rheoli, mewn adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn.

Daeth y newyddion ar ôl i’r cyfleuster poblogaidd gyrraedd rownd derfynol categori Lleoliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru y llynedd. Mae ei hardal chwarae awyr agored wedi cael ei ailwampio hefyd, ac yn cynnwys arwynebau diogel, ffensio, dodrefn ac offer pren.

Gyda dros 90 o blant a 35 o staff ar y safle, Toybox yw un o’r meithrinfeydd mwyaf poblogaidd ar draws y gogledd ddwyrain.

Dywedodd y rheolwr Ann Johnson: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad wrth gwrs ac mi fyddwn ni’n ceisio codi ein safonau hyd yn oed yn rhagor dros y blynyddoedd nesa’.”

“Dwi eisiau dweud diolch yn fawr i’n tîm anhygoel, ac i’r holl rieni a gofalwyr sy’n ein cefnogi ni, fydden ni byth wedi gallu cyflawni hyn hebddo’ch chi.”

Ychwanegodd hi: “Yr her rŵan ydy cynnal ac adeiladu ar yr adborth cadarnhaol, a’r awgrymiadau, a fydd yn sicrhau amgylchedd hyd yn oed yn fwy diogel, hapus ac ysbrydoledig i’r plant.”

Cafodd Toybox ei nodi’n ‘Dda’ mewn tri chategori gan yr arolygwyr hefyd – Dysgu, Addysgu ac Asesu, a’r Amgylchedd – ac mae’r feithrinfa wedi cael ei gwahodd gan AGC ac Estyn i baratoi astudiaeth achos ar ei gwaith a’i hymrwymiad i greu cysylltiadau agos gyda rhieni a gofalwyr a chyd-weithio gyda nhw.

Ychwanegodd yr adroddiad: “Mae plant o bob oed yn cyfathrebu’n llwyddiannus yn eu ffordd eu hunain ac mae ymarferwyr yn ymateb iddynt yn arbenigol. Mae ganddynt berthnasoedd cynnes, agos gyda’r ymarferwyr, ac maent yn cael lefel uchel o gymorth a chysur os oes angen, sy’n eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

“Mae ymarferwyr yn garedig, gofalgar a chefnogol, ac yn rhyngweithio gyda’r plant heb gynhyrfu. Maent yn defnyddio strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol, sy’n hynod effeithiol. Mae hyn yn creu awyrgylch cadarnhaol, hapus, digynnwrf a deniadol.

“Mae’r ymarferwyr yn llawn cymhelliant ac maent yn deall eu swyddi a’u cyfrifoldebau yn dda. Mae arweinwyr yn hynod effeithiol yn eu swyddi ac wedi creu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar, sy’n sicrhau bod plant yn cael gofal da.

“Mae ymgysylltiad y lleoliad gyda rhieni yn rhagorol. Maent yn cynnal sesiynau chwarae ac aros rheolaidd ac mae rhieni’n cael eu cynnwys yn llawn yn nhrefniadaeth y lleoliad.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Meithrinfa Toybox: Meithrinfa Toybox, Eich Meithrinfa Leol (cambria.ac.uk) neu eu tudalen Facebook: www.facebook.com/ToyboxNurseryDeeside.

Fel arall, ffoniwch 01978 267159 neu anfonwch e-bost at toybox@cambria.ac.uk.

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld rhagor am Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost