Background Splash

Gan Alex Stockton

cambriavet2

Cafodd dysgwyr ar y cwrs Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol – Anifeiliaid Bach yng Ngholeg Cambria Llaneurgain cyfradd lwyddo o 100% yn eu harholiadau cyntaf.

Yn eu plith roedd Hannah Williams a Katherine Oldham, sy’n gweithio mewn practisau yng Ngogledd Cymru ac yn gobeithio symud ymlaen i gael gyrfaoedd yn y sector, lle mae galw mawr am weithwyr.

Mae’r Darlithydd a’r Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol, Ellie Woodcock, yn rhagweld y bydd rhaglen Cambria yn parhau i dyfu wrth i fwy o fyfyrwyr gofrestru ym mis Medi. Mae’r cyfleuster hyfforddi sydd wedi cael ei greu yn un unigryw sy’n efelychu lleoliad meddygol go iawn, sy’n cyfoethogi’r modiwlau theori ac asesu.

“Mae hwnnw’n Bwynt Gwerthu Unigryw i ni yn ogystal ag ansawdd yr athrawon sydd ar y rhaglen, sydd yn nyrsys milfeddygol cymwysedig,” meddai Ellie.

“Mae galw am ragor o weithwyr ym maes milfeddygaeth, ac mae llawer o swyddi eraill yn y maes hwn, felly dyma’r amser i ymuno â ni.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’r cyfleuster sydd gennym ni yma yn un o’r radd flaenaf, gyda ‘chŵn ffug’, modelau anatomeg anifeiliaid, diagnosteg, cyfarpar pelydr-x, offer diheintio a rhagor.

“Mae gennym ni Canolfan Anifeiliaid Bach ar y safle ac mae ein hystafelloedd dosbarth yn unigryw gan ein bod ni’n gallu cynnig cymorth gydag elfennau theori ac yn ymarferol.

“Rydyn ni wedi ei osod i efelychu eu hamgylchedd gwaith ac rydyn ni wedi cael cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd ac arbenigwyr mewn gwahanol feysydd milfeddygaeth a llawfeddygaeth, sydd yn cyfrannu at sicrhau bod y myfyrwyr yn barod ar gyfer byd gwaith wrth iddyn nhw symud ymlaen i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Mae Hannah, o Fae Colwyn, yn gweithio yn Conway Road Veterinary Surgery yn y dref. Yn dilyn cyfnod yn gwirfoddoli gyda’r RSPCA, penderfynodd Hannah mai gweithio gydag anifeiliaid fyddai ei swydd ddelfrydol.

Dywedodd: “Roeddwn i wedi mynd ar drywydd gwahanol ond rydw i wastad wedi caru anifeiliaid a gwnes i’r penderfyniad i ddilyn y llwybr hwnnw. Dyna’r peth gorau y gwnes i erioed.

“Mae’r amser dwi’n ei wario yma yn y coleg yn ogystal â fy swydd fel nyrs filfeddyg dan hyfforddiant, wedi fy helpu i ddatblygu a magu hyder – dyma’n bendant beth rydw i eisiau ei wneud gyda fy mywyd, rydw i wrth fy modd, ac mae’r cwrs yn rhoi boddhad mawr i mi.”

Mae Katherine, sy’n dod o Fanceinion yn wreiddiol ac yn byw yn Fflint erbyn hyn, yn gweithio yn Rhianfa Veterinary Centre yn Rhyl. Roedd hi hefyd wedi newid cyfeiriad cyn ymuno â choleg Cambria.

“Roeddwn i wastad wedi bod wrth fy modd gydag anifeiliaid ond doeddwn i erioed wedi’i weld fel rhywbeth y gallwn i’w wneud gan fy mod i wedi gweithio mewn diwydiant arall am 10 mlynedd,” dywedodd.

“Penderfynais gymryd naid ac ymuno â chwrs Cymhorthwyr Nyrsio Anifeiliaid yna yn Llaneurgain ac yna symud ymlaen i’r cwrs lefel 3, sydd wedi bod yn wych.

“Mae cael defnyddio’r offer sydd yma yn ogystal â dysgu gan y tiwtoriaid profiadol, sy’n uchel eu parch ac mor adnabyddus yn y maes hwn wedi bod o fudd mawr i ni. Mae’r canlyniadau yn dangos hyn.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost