Home > Canolfan Brifysgol Cambria
Yn Cambria, mae ein cyrsiau lefel prifysgol wedi’u llunio gyda chyflogaeth mewn golwg i gynyddu eich potensial gyrfa. Bob blwyddyn, mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn dewis astudio cyrsiau lefel gradd gyda ni.
Rydym wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i’n cyfleusterau a’n safleoedd, ac mae ein myfyrwyr wedi elwa o hynny, gan gyflawni canlyniadau rhagorol a rhagolygon cyflogaeth gwell i raddedigion. Mae mewnbwn gan y cyflogwr yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn eich gyrfa ddelfrydol.
Isod mae rhai o’r nifer o resymau y dylech chi astudio gyda Chanolfan Brifysgol Cambria:
Mae uchafbwyntiau’r datganiad sicrwydd ansawdd diweddaraf a gyhoeddwyd i’w gweld yma.
Mae Addysg Uwch (AU) yn golygu unrhyw lefel astudio tu hwnt i Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol Lefel 3.
Gall hyn gynnwys:
Rydym yn dyfarnu lleoedd yn seiliedig ar sgiliau bywyd a phrofiad cymaint ag yr ydym ar gymwysterau sy’n gysylltiedig â phynciau. O ganlyniad, mae gennym gymuned myfyrwyr amrywiol sy’n cynnwys y rhai sy’n gadael y coleg yn ogystal â myfyrwyr hŷn sy’n dymuno symud ymlaen neu newid eu gyrfaoedd.
Mae ein union ofynion mynediad wedi’u rhestru yn amlinelliad y cyrsiau unigol.
Mae holl gyrsiau lefel gradd Cambria yn cael eu dilysu gan rai o brifysgolion gorau’r DU. Ein partneriaid presennol yw Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol John Moores Lerpwl, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Pearson.
Mae safle Ffordd y Bers wedi cael ailddatblygiad gwerth £8.5 miliwn i greu canolfan sy’n arwain y sector ar gyfer Peirianneg a Thechnolegau Adeiladu. Mae’r Ganolfan Technoleg Peirianneg yn Ganolfan Peirianneg bwrpasol o’r radd flaenaf gyda 2 lawr o gyfleusterau modern, rhyngweithiol. Mae’n gartref i rai o’r offer peirianneg mwyaf modern yng Nghymru.
Mae’r Ganolfan Brifysgol, sy’n werth miliynau o bunnoedd, wedi’i lleoli ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy, mae wedi’i datblygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Mae’r Ganolfan Brifysgol yn darparu cyfleusterau addysgu tra modern i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar ein cyrsiau lefel prifysgol ac mae’n gweithredu fel canolfan i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe sydd ar leoliadau gwaith yn British Aerospace ym Mrychdyn.
Mae gan Cambria Iâl enw da am ragoriaeth ers amser maith ac mae’n gartref i Chweched Iâl, llawer o gyrsiau a phrentisiaethau galwedigaethol. Mae gan Iâl ystod ardderchog o gyfleusterau gydag adnoddau helaeth, a chafodd ailddatblygiad gwerth
£20 miliwn yn ddiweddar. Mae’r cyfleusterau addysgu arbenigol yn cynnwys labordai gwyddoniaeth llawn cyfarpar, ystafelloedd cyfrifiaduron a stiwdios celf. Mae pob myfyriwr yn gallu defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac maent yn cael eu hannog i ddefnyddio’r llyfrgell dri llawr arddull prifysgol sydd â lle ar gyfer astudiaethau preifat.
Buddsoddwyd yn helaeth yn safle Cambria Llaneurgain i greu ysgol fusnes flaenllaw ar gyfer dysgu lefel uwch. Mae gan yr Ysgol Fusnes newydd 2 lawr o gyfleusterau modern a rhyngweithiol ac mae’n gartref i rai o’n cyrsiau datblygu proffesiynol, cyrsiau lefel gradd a hyfforddi cyflogwyr.
Mae’r cyfleusterau trawiadol yng Nghanolfan Anifeiliaid Llaneurgain wedi’u lleoli yng nghefn gwlad. Mae’r coleg yn gartref i gasgliad amrywiol o rywogaethau i roi hwb i’ch gyrfa gydag anifeiliaid. Mae safle Llaneurgain yn adnabyddus am ei awyrgylch cynhwysol a chroesawgar ac mae ein myfyrwyr yn datblygu ac yn ffynnu yn yr amgylchedd hwn.
Mae Canolfan Brifysgol Cambria yng Nglannau Dyfrdwy yn gartref i’n myfyrwyr addysg ac astudiaethau plentyndod. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yng nghanol safle Glannau Dyfrdwy mewn parth dysgu Addysg Uwch pwrpasol gyda chyfleusterau llyfrgell ac astudio sy’n hawdd i’w cyrchu.
Mae nifer o ffynonellau cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr Addysg Uwch. Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cynnig benthyciadau a grantiau ar gyfer astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Cambria. Mae bod yn gymwys i gael benthyciad neu grant yn dibynnu ar y math o gwrs a ble rydych chi’n byw.
Yn gryno:
Bwrsari AU Cambria
I’r rhai sy’n mynd i’r afael â gradd yng Nghanolfan Brifysgol Cambria efallai eich bod chi’n gymwys ar gyfer cymorth ariannol anad-daladwy trwy Fwrsari AU Cambria.
Pwy sy’n gymwys*?
Sut mae’n cael ei dalu?
*Mae Telerau ac Amodau llawn yn berthnasol a bydd taliad yn cael ei ddal yn ôl os bydd y myfyriwr yn methu â bodloni’r amodau gofynnol
—
Bwrsarïau eraill
Gall Coleg Cambria gynnig taliad bwrsari o £1000 i chi os ydych chi’n symud ymlaen o Goleg Cambria (hynny yw lefel 3 a Mynediad i AU) i un o’r cyrsiau canlynol:
Caiff y bwrsari ei dalu mewn dau randaliad o £500:
Er mwyn cael y bwrsari, mae’n rhaid cadw at y telerau canlynol:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth ariannol ychwanegol drwy glicio ar y canlynol:
Sefydlwyd ym 1839 fel y coleg pwrpasol cyntaf i hyfforddi athrawon yn y wlad, mae Prifysgol Caer wedi darparu rhagoriaeth addysgu am 180 o flynyddoedd ac mae’n rhagflaenu bron pob darparwr addysg uwch yn Lloegr.
Gan ennill statws Prifysgol yn 2005, mae Prifysgol Caer heddiw yn brifysgol yr 21ain ganrif ac mae wedi ennill bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr uwch na chyfartaledd y sector ar gyfer chwe blynedd ddiwethaf (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr). Y brifysgol hon yw’r sefydliad Addysg Uwch sy’n perfformio orau yng Ngogledd Orllewin Lloegr am wrando ar Lais y Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr), ac ennill sawl safle yn y 10 uchaf yng Ngwobrau Myfyrwr Whatuni 2020: 2il ar gyfer Rhyngwladol; 8fed ar gyfer Bywyd Lleol; 9fed ar gyfer Rhagolygon Swyddi; a 10fed ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr
Mae’r Brifysgol, sydd â’i safle yng nghanol Aberystwyth, tref gosmopolitaidd rhwng Mynyddoedd Cambria a Bae Ceredigion yng Nghanolbarth Cymru. Mae myfyrwyr yn Aberystwyth yn cael budd o fod ymysg poblogaeth o fyfyrwyr amrywiol a rhyngwladol, yn ogystal â mynediad rhwydd i lan y môr a thraethau, mynyddoedd gwyrdd, bywyd cymdeithasol a diwylliannol bywiog, ac addysg ardderchog. Gwnaeth ‘Good University Guide’ The Times enwi Prifysgol Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Dysgu am ddwy flynedd yn olynol yn 2018 a 2019, ac yna’r Brifysgol Orau yng Nghymru yn 2020, a dyma pam maent ar frig tablau cynghrair ‘Good University Guide’ The Times yn 2021 ar gyfer Addysgu a Phrofiadau Myfyrwyr.
Wedi’i sefydlu ym 1884, mae Prifysgol Bangor heddiw yn sefydliad ffyniannus, blaengar sy’n cynnig cyfleoedd rhagorol.
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu, ac yn cynnig cyrsiau ar draws y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau. Mae ein staff wedi bod yn gwneud gwahaniaeth, gydag ymchwil amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol am fwy na 130 o flynyddoedd.
Mae gofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi yn flaenoriaeth. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd a chyflogadwyedd a materion o arian a thai i gymorth anabledd, cwnsela, a sgiliau astudio. Mae Bangor yn lle ysbrydoledig i fyw a dysgu – y lle delfrydol i dyfu, datblygu doniau a chynllunio ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein dinas a’n prifysgol yn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd. Rydym wedi tyfu o wreiddiau hyderus, uchelgeisiol Lerpwl ac mae gennym hanes gyda’n gilydd sy’n seiliedig ar weithio’n galed, gofalu am gefnogi pobl a chymunedau a bod yn falch o bwy ydym ni.
Mae gennym le unigryw yn y ddinas fywiog hon gyda’n pobl groesawgar, gyfeillgar ac agored. Rydym yn rhannu awch am antur gyda chymuned sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth a rhoi rhywbeth yn ôl. Ein staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yw calon guro’r brifysgol hon, gydag effaith sy’n mynd y tu hwnt i fesurau academaidd, economaidd a chymdeithasol.
Gosodwyd Prifysgol Abertawe yn gyntaf yng Nghymru ac yn 24ain yn y Deyrnas Unedig – ei safle uchaf erioed – gan Ganllaw Prifysgol Guardian 2021. Mae’r safle diweddaraf hwn yn gosod Prifysgol Abertawe yn 25 sefydliad gorau’r Deyrnas Unedig a’r brifysgol orau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cyflawnodd Prifysgol Abertawe sgôr aur, y sgôr uchaf bosibl, yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (TEF) ac mae ymhlith 10 prifysgol uchaf y DU am foddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ar gyfer 2020.
Mae Cymwysterau Cenedlaethol Uwch BTEC yn gymwysterau addysg uwch a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a ddatblygwyd gan Pearson ar lefel 4 a 5 sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn gradd prifysgol, gan ddarparu dilyniant i brifysgol a chyflogaeth.
Mae cymwysterau Cenedlaethol Uwch BTEC yn cael eu darparu mewn prifysgolion a cholegau mewn 60 o wledydd ledled y byd. Maent yn ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy’n chwilio am lwybr fforddiadwy a pherthnasol i radd neu gyflogaeth.
Gan gyflwyno addysg ers 1887, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gymuned ddysgu gyfeillgar a chynhwysol, sy’n canolbwyntio ar ysbrydoli pob myfyriwr a’u rhoi wrth wraidd popeth a wnawn.
Cynigiwyd cyrsiau gradd am y tro cyntaf ym 1924 a dod yn Brifysgol Glyndŵr yn 2008, dyfarnwyd sgôr arian i’r Brifysgol am ragoriaeth addysgu gan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ac mae’n cael ei chydnabod ac yn enwog am ddarparu lefelau uchel o foddhad, cefnogaeth a chyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr.