Home > Canolfan Brifysgol > Gweld Pob Maes Pwnc > Technolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG
TECHNOLEGAU DIGIDOL, CYFRIFIADURA A TG
Technolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG
Ydych chi’n angerddol am gyfrifiaduron a’r byd digidol? Hoffech chi ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y meysydd diddorol hyn? Yna astudiwch Dechnolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG yng Nghanolfan Brifysgol Cambria a dewch yn rhan o’r chwyldro technolegol parhaus.
Byddwch yn gweithio gyda chynnyrch arloesol a thechnoleg sy’n newid yn y sector sy’n tyfu cyflymaf yn y byd. Byddwch yn y lle gorau posibl i wneud y mwyaf o’r amgylchedd digidol, gan wthio ffiniau a mynd y tu hwnt i’ch gallu.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
A oes gennych chi gwestiwn?
Ymweld â'n Galeri
Dewch i gael cip o amgylch y safle a gweld sut beth yw astudio gyda ni yng Nghanolfan Brifysgol Cambria neu dysgwch ragor am Ganolfan Brifysgol Cambria a’n cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Astudiaethau Achos
Peter Griffiths
Wedi Astudio – BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Eryn Hyn – Prentisiaeth Gradd Ddigidol
“Helo, Peter Griffiths ydw i. Dwi’n gweithio yn Ysgol Maelor ac yn astudio cwrs Peirianneg Meddalwedd.
Mae’r cwrs yn ymwneud ag agweddau amrywiol ym maes peirianneg meddalwedd gan gynnwys rhaglennu, dylunio gwefannau, rheoli cronfeydd data, systemau cyfrifiadurol a modelu data. Dwi wir wedi mwynhau’r cwrs hyd yn hyn. Mae wedi rhoi cyfle i mi lenwi bylchau yn y wybodaeth oedd gen i’n flaenorol yn ogystal â mynd a fi ar drywydd posibiliadau newydd ar gyfer prosiectau a chyflogaeth yn y dyfodol.
Dwi’n gweithio fel Rheolwr TG mewn ysgol uwchradd ar hyn o bryd. Yn wreiddiol roeddwn i wedi dechrau’r cwrs fel ffordd o newid gyrfa o weinyddu systemau i swydd lle’r oeddwn i’n codio’n unig. Roeddwn i wedi mwynhau’r modiwlau rhaglennu y gwnes i ar gwrs HND rai blynyddoedd yn ôl ac roeddwn i eisiau gwneud rhagor o hynny. Ers dechrau’r cwrs rydw i wedi dod ar draws nifer o ffyrdd y gall fod o gymorth i mi yn fy swydd bresennol ac mae’n gwneud i mi ystyried aros ym maes gweinyddu systemau. Rydw i wedi sylweddoli bod y gallu i godio rhaglenni sydd wedi’u hawtomeiddio yn cynyddu effeithiolrwydd a symleiddio’r hyn rydw i’n ei wneud yn fy swydd bresennol. Yn ogystal â hyn rydw i wedi cael hyd i waith sy’n mynd â fi ar drywydd newydd sef “DevOps”. Mae’n gymysgedd o’r gwaith rydw i’n ei wneud yn fy swydd bresennol wedi’i gyfuno ag egwyddorion peirianneg meddalwedd. “
Frankie McCamley
Wedi astudio – Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg Safon Uwch
Erbyn Hyn – Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ar gyfer y BBC.
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd gen i eisiau ei wneud yn y dyfodol felly fe wnes i ddewis amrywiaeth o bynciau Safon Uwch i’w hastudio. Fe ges i’r hyder a’r sgiliau oedd eu hangen arna’ i, i symud ymlaen i’r brifysgol wrth astudio yn Chweched Iâl a dwi’n Gyflwynydd a Gohebydd Newyddion erbyn hyn. Mi wnes i ffrindiau arbennig yno, roedd gen i athrawon gwych y bydda’ i’n eu cofio am byth ac fe ges i amser gwych yn Wrecsam!
Mae gen i atgofion hyfryd o fy amser yn Iâl y gwna i fyth eu hanghofio!”