Mae myfyrwyr Coleg Cambria yn ennill profiad gwaith hanfodol ar y llwyfan rhyngwladol
Dros y misoedd diwethaf, mae dysgwyr o safle Glannau Dyfrdwy y coleg wedi bod i ymweld â gwledydd ar draws Ewrop i gynyddu eu sgiliau ac archwilio’r gwahanol yrfaoedd ar y cyfandir. Yn eu plith oedd grŵp o’r rhaglen lewyrchus E-chwaraeon, sydd wedi teithio i Barcelona, a grŵp o’r cwrs Trin Gwallt a Harddwch poblogaidd, […]
Bydd rhaglen coleg newydd yn helpu i ddiogelu sawl diwydiant yn y dyfodol trwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr digidol
Bydd Coleg Cambria yn lansio ei Academi Arweinyddiaeth Ddigidol newydd ym mis Medi eleni. Wedi’i gynnal yn Medru, sef ffatri sgiliau o’r radd flaenaf y coleg yng Nglannau Dyfrdwy, bydd yr Academi yn darparu datrysiad hyfforddiant sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer diwydiant. Ac mae’r cyrsiau’n rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n gymwys […]
Mae myfyrwyr sy’n cael eu pweru gan raglen cerbyd trydanol arloesol yn annog eraill i ymuno â nhw i fodloni’r galw am filoedd o dechnegwyr ledled y wlad
Mae’r cymwysterau Trwsio Cerbydau Hybrid/Trydan 2 a 3 yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda hyd at 100 o ddysgwyr yn cwblhau cyrsiau dros yr 18 mis diwethaf. Erbyn hyn mae’r coleg wedi datgelu cwrs newydd sef Dyfarniad Lefel 4 mewn Gwneud Diagnosis Namau mewn Cerbydau Trydan a Hybrid a’u Cywiro, […]
Gwobr arall ar gyfer coridor bywyd gwyllt a hafan i fyfyrwyr mewn seremoni wobrwyo
Mae’r ardd llesiant ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria wedi ennill gwobr fawreddog gan yr elusen Cadwch Gymru’n Daclus a hynny’n dilyn eu llwyddiant diweddar yng nghategori Busnes y Gwobrau Bionet cyntaf. Cafodd y wobr Busnes, Caru Cymru (Love Wales), ei chyflwyno i’r tîm Twf Swyddi Cymru+ sy’n gyfrifol am gynnal yr ardal yn ystod […]
Mae Coleg Cambria wedi lansio cwrs ymladd trosedd newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arch dditectyddion.
Mae’r Diploma Cymhwysol Lefel 3 BTEC mewn Troseddeg yn cyfateb i Safon Uwch a bydd yn cael ei addysgu yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy’r coleg. Gan ddechrau ym mis Medi, mae’r rhaglen yn cynnwys modiwlau ar gyfansoddiad cymdeithasol trosedd, datblygu polisi, gwerthuso damcaniaethau trosedd, trosedd a chosb, o safleoedd troseddau i’r llysoedd a chymharu […]
Bu dysgwyr o Goleg Cambria yn helpu swyddogion i dragedu troseddwyr mewn diwrnod o weithredu trawsffiniol gan yr heddlu
Fel rhan o raglen a drefnwyd gan Heddlu Gogledd Cymru, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Chwnstabliaeth Swydd Gaer, fe wnaeth myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai (UPS) gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig ag ymgyrch ar y cyd Ymgyrch Crossbow, oedd yn canolbwyntio ar aflonyddu ar droseddeddoldeb trawsffiniol. Dechreuodd y diwrnod gyda gosgordd o gerbydau gweithredol yr heddlu, […]
Mae meithrinfa boblogaidd wedi cael gradd ‘Rhagorol’ ym mhob agwedd
Mae Meithrinfa Toybox – sydd wedi’i lleoli ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria – wedi cael adroddiad rhagorol gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Cafodd y lleoliad gradd ‘Rhagorol’ ym mhob un o’r pedwar categori – Llesiant, Gofal a Datblygu, Arwain a Rheoli, a’r Amgylchedd – a doedd dim awgrymiadau oherwydd bod y safonau mor uchel. Mae’r […]
Mae cwrs coleg o’r radd flaenaf wedi gwibio trwy’r lefelau ers lansio llynedd
Mae’r rhaglen E-chwaraeon poblogaidd yng Ngholeg Cambria wedi dod yn fwy poblogaidd ac yn denu dysgwyr o bob rhanbarth i gyfleuster wedi’i deilwra, o’r radd flaenaf yng Nglannau Dyfrdwy. Yn ogystal â chwblhau modiwlau mewn meysydd fel Dylunio Gemau, Darlledu Ffrydio’n Fyw, Cynhyrchu Brand E-chwaraeon, a Chynhyrchu Fideos fel rhan o’r Diploma Lefel 2, mae […]
Mae gardd bywyd gwyllt lewyrchus a ddadorchuddiwyd yn gynharach eleni eisoes wedi ennill gwobr am gadwraeth
Mae’r coridor bywyd gwyllt a’r ardd lesiant newydd yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi derbyn gwobr yn y categori Busnes yng ngwobrau agoriadol Bionet, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno. Canmolwyd y coleg gan Bionet, y bartneriaeth natur leol ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru, am greu ardal fioamrywiol sy’n cynnwys dros 2000 o fylbiau cynhenid, […]
Mae saith prentis ymhlith y rhai cyntaf i raddio o gydweithrediad arloesol rhwng cwmni peirianneg sifil a choleg
Mae’r cyflogwr Jones Bros Civil Engineering UK a Choleg Cambria wedi moderneiddio’r dull o gyflwyno prentisiaethau uwch mewn peirianneg sifil. Yn draddodiadol, byddai myfyrwyr yn cael eu rhyddhau o’r gwaith am y diwrnod yn ystod y rhaglen, gan dreulio pedwar diwrnod o’r wythnos ar safle gyda’u cyflogwr, gyda’r pumed diwrnod yn y coleg. Yn lle […]