main logo

Mae Coleg Cambria yn cynnal cystadleuaeth sy’n ysbrydoli gweithwyr metel y dyfodol

Bydd Coleg Cambria – sydd newydd ennill statws Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK – yn arddangos sgiliau gweithwyr metel ifanc dawnus o bob rhan o’r DU pan fyddant yn cynnal Rownd Derfynol Genedlaethol Technoleg Gwaith Llenfetel y Cystadlaethau Sgiliau Peirianneg Mae’r gystadleuaeth flynyddol hon yn dod ar ddiwedd y rhagbrofion rhanbarthol lle’r oedd 35 o gystadleuwyr […]

Fel rhan o ddathliadau 30 mlynedd Ffatri Injans Toyota Glannau Dyfrdwy, maent wedi rhoi cerbyd Hybrid arall i safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.

Rhoddodd Natalie Morris, Arbenigwr Uwch Toyota yr allweddi i’r Adran Beirianneg / Cerbydau Modur yn y Coleg yn ystod digwyddiad lle’r oedd Elfyn Evans yn bresennol, sef gyrrwr Ralio’r Byd Toyota – daeth gyda’i gerbyd Yaris GR, a Jason Stanley, Rheolwr Cyffredinol Marchnata Toyota GB. Gwnaeth Nick Tyson, Is-bennaeth y Coleg gymryd y rhodd a […]

Cafodd plant ysgol gynradd haf o chwaraeon wrth eu boddau yng Ngholeg Cambria

A group of primary school students who completed

Cynhaliodd rhaglen Cambria Heini’r coleg sesiynau rhad ac am ddim i bobl ifanc ledled gogledd ddwyrain Cymru, wedi’i hariannu gan gynllun Haf o Hwyl £7m Llywodraeth Cymru a rhaglen Fit and Fed StreetGames. Cynhaliodd Cambria chwe wythnos o weithgareddau oedd yn cynnwys athletau, ymarferion iechyd a ffitrwydd, pêl-droed, celf a chrefft, a dawns. Gyda bron […]

Mae partneriaeth lewyrchus rhwng coleg blaenllaw ac elusen amgylcheddol wedi cael ei chlodfori gan wleidydd o Ogledd Cymru wedi ymweliad i ardd byd natur sydd yn ei blodau

Roedd MS Alun a Glannau Dyfrdwy Jack Sargeant yng Ngholeg Cambria ddoe i brofi’r ‘coridor bywyd gwyllt’ a’r ardd llesiant sydd wedi dod yn boblogaidd iawn gyda myfyrwyr a staff Glannau Dyfrdwy. Dechreuodd dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, staff ac aelodau o’r Academi Hyfforddeion Adeiladu weithio ar y safle 40 metr sgwâr flwyddyn yn ôl, gyda […]

Bydd Canolfan Brifysgol o fri Coleg Cambria yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio dros yr haf ar gyfer darpar fyfyrwyr

Mae gan y coleg ystod eang o gyrsiau addysg uwch ar gael mewn partneriaeth â sefydliadau blaenllaw fel Prifysgolion Bangor, Glyndŵr Wrecsam, John Moores Lerpwl, Abertawe ac Aberystwyth. Yn ogystal maent yn cynnal rhaglenni ochr yn ochr â Pearson, y corff dyfarnu cenedlaethol. Mae pynciau yn cynnwys Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu, Rheolaeth Anifeiliaid, Cynhyrchu Cyfryngau […]

Daeth mwy na 200 o fyfyrwyr, busnesau ac ymwelwyr i Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy ar gyfer dathliad sgiliau a pheirianneg o’r radd flaenaf

Cafodd yr Arddangosfa Sgiliau Gweithgynhyrchu Digidol gyntaf ei chynnal yn Medru – Y Ffatri Sgiliau a chroesawodd goreuon diwydiant y DU. Yn eu plith nhw oedd cwmnïau fel Universal Robots, Manchester Metrology, Alpha 3 Manufacturing, KUKA, Innovative Physics, Broetje Automation, RARUK Automation, Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC Cymru), Croft Additive Manufacturing Ltd, WHM-Robotics, Omnia-NW Ltd, […]