Ymwelodd arweinydd PLAID CYMRU, Rhun ap Iorwerth AS, â Llysfasi yr wythnos hon i weld drosto’i hun effaith buddsoddiad mawr gwerth miliynau o bunnoedd mewn addysg amaethyddol a sgiliau gwledig.

Ymunodd Llyr Gruffydd AS, llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, ag ef ar y safle diwydiannau tir. Ar yr ymweliad, cafodd weld Hwb Arloesi (Canolfan Arloesi) y coleg, gwerth £10 miliwn, sef canolfan amaethyddol o’r radd flaenaf sy’n cefnogi arloesedd, cynaliadwyedd a datblygu sgiliau ar draws y sector. Gan adeiladu ar y buddsoddiad hwn, mae […]
Mae Llysfasi yn dathlu cydnabyddiaeth genedlaethol am ei Hwb Arloesi gwerth £10 miliwn wrth i adeiladu ddechrau ar lety 50 ystafell i fyfyrwyr, gan nodi buddsoddiad mawr arall yn nyfodol y coleg

Mae’r hwb o’r radd flaenaf wedi’i enwi’r Adeilad Cymunedol neu Gyhoeddus Orau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC, gan gydnabod cyflawniad rhagorol mewn dylunio, cynaliadwyedd ac ansawdd adeiladu. Wedi’i gefnogi gan dros £5.9 miliwn gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, cafodd yr adeilad ei adeiladu gan gwmni Read Construction o Wrecsam a chafodd […]
Mae gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar adeiladu llety 50 llofft i fyfyrwyr ar ein safle yn Llysfasi

Ar ôl derbyn caniatâd cynllunio a chwblhau’r holl asesiadau amgylcheddol mae’r timau adeiladu bellach ar y safle’n gosod sylfeini i’r prosiect gwerth sawl miliwn a fydd yn gwella enw da’r coleg ymhellach fel un o’r darparwyr sy’n arwain ar addysg astudiaethau’r tir yn y DU. Mae’r datblygiad – sydd wedi cael ei ddylunio gan gwmni […]
Mae partneriaeth â chynhyrchydd cael gwared ar garbon wedi creu dull cynaliadwy o wneud y mwyaf o’r defnydd o goetiroedd a gwella ansawdd y pridd ar ein safle yn Llysfasi

Mae Coleg Cambria Llysfasi a BionerG o Langollen wedi dechrau “cydweithrediad arloesol” i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio malurion coed fel adnodd hanfodol ar gyfer cael gwared ar garbon yng Nghymru. Mae’r coleg wedi cyflenwi’r ‘malurion’ – canghennau a dail sydd fel arfer yn cael eu taflu o ganlyniad i waith coedwigaeth a thywydd […]
Cafodd ein canolfan arloesi amaethyddol gwerth £10M ei lansio gyda seremoni wobrwyo fawreddog ar gyfer ein dysgwyr sy’n astudio cyrsiau’r tir

Mae’r Hwb Arloesi o’r radd flaenaf yng Ngholeg Cambria Llysfasi wedi derbyn mwy na £5.9m gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Adeiladwyd yr adeilad carbon-niwtral deulawr gan Read Construction o Wrecsam ac mae’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, labordai, siop goffi, wal ddringo, mannau cyfarfod, atriwm, canolfan Addysg Uwch a chanolfan lles. Dywedodd Pennaeth Llysfasi, […]
Mae technoleg monitro fideo 3D newydd chwyldroadol yn darparu buddion economaidd ac amgylcheddol ac yn cefnogi lles anifeiliaid ar ein safle yn Llysfasi

Mae Coleg Cambria Llysfasi wedi gosod HerdVision ar ei fferm weithredol ac mae’n elwa o’r manteision yn barod. Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar gyllid a chynaliadwyedd, mae gan y system Amaethyddiaeth Glyfar – sy’n defnyddio technoleg camera is-goch 2D a 3D, ynghyd ag algorithmau clyfar a phrosesu ymyl, i gasglu data sy’n cael […]
Bydd cymwysterau NEWYDD gan Ganolfan Brifysgol Cambria yn Llysfasi yn cefnogi dyfodol ffermio yng Nghymru

Datgelodd Coleg Cambria raglenni Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) a Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) wedi’u hanelu at y genhedlaeth nesaf o reolwyr fferm, bugeiliaid, ffermwyr, ac arweinwyr yn y sector. Wedi’i leoli ar safle Llysfasi’r coleg, ger Rhuthun – lle’r agorwyd yr Hwb Arloesi gwerth £10m yn ddiweddar a chyflwyno cynlluniau ar gyfer adeilad llety myfyrwyr […]
Cyfleusterau Newydd, Cyfleoedd Newydd: Sut ydyn ni’n bodloni’r galw gan fyfyrwyr yn Llysfasi gyda hwb gwerth £10m

Dadorchuddiodd Coleg Cambria Llysfasi yr Hwb Arloesi arloesol radd flaenaf – gyda nawdd o dros £5.9m o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru – dros gyfnod y Nadolig. Adeiladwyd y cyfadeilad 1,095 metr sgwâr, deulawr, carbon-niwtral gan gwmni Read Construction o Wrecsam ac mae’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, labordai, siop goffi, wal ddringo, […]
Mae cynigion wedi’u cyflwyno ar gyfer adeilad llety myfyrwyr 50 ystafell wely mewn coleg tir blaenllaw

Mae Coleg Cambria yn bwriadu datblygu ei gampws Llysfasi ymhellach ar ôl cwblhau canolfan amaethyddiaeth ac addysg gwerth £10m, sy’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, wal ddringo, labordai, siop goffi, mannau cyfarfod, atriwm, a hybiau llesiant ac AU. Wedi’i ddylunio gan TACP Architects, byddai’r datblygiad newydd yn cael ei adeiladu gan Read Construction – dau gwmni […]
Myfyriwr Diploma Tilhill Forestry a wnaeth berfformio orau yn dathlu gyda gwobr

Mae Armon Edwards wedi ennill y wobr ‘Myfyriwr sydd wedi Perfformio Orau’ ar Ddiploma Estynedig Lefel 3 Tilhill Forestry mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth yng Ngholeg Cambria Llysfasi, am adroddiad prosiect gorau’r flwyddyn a oedd yn edrych ar y potensial i bweru peiriannau coedwig gyda batris, a thanwydd amgen eraill. Ers dechrau’r cwrs, mae Armon, enillwr […]