Dychwelodd canwr-gyfansoddwr talentog i’r coleg i ddathlu diwylliant Cymru

Roedd Megan Lee yn arwain y digwyddiad Culture Collective diweddaraf a gynhaliwyd yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ger Rhuthun. Yn raddedig o Cambria Iâl, dechreuodd Megan berfformio yn 11 oed gyda’i theulu ac erbyn hyn mae’n aml-offerynnwr medrus a fydd yn ymddangos mewn gwyliau mawr yr haf nesaf, gan gynnwys Roadhouse Weekender ac In It Together. […]

BYDD DATBLYGIAD O’R RADD FLAENAF MEWN COLEG ASTUDIAETHAU’R TIR yn agor yn ystod yr wythnosau nesaf.

A STATE-OF-THE-ART land-based college development will open in the coming weeks.

Mae’r adeilad amaethyddiaeth ac addysg newydd gwerth £10 miliwn yng Ngholeg Cambria Llysfasi ar fin cael ei gwblhau. Gyda chefnogaeth gwerth dros £5.9 miliwn gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae Read Construction, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, yn adeiladu cyfleuster carbon niwtral, dwy lawr, 1,095 metr sgwâr. Mae’r cyfleusterau arloesol yn cynnwys llyfrgell, […]