Mae Rhaglen Athletau Iau Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi bod yn cefnogi a hyfforddi pobl ifanc ers dros 13 mlynedd.
Dywed Donna Welsh, cydlynydd Cambria Heini, fod y cynllun wedi mynd o nerth i nerth ac y gallai 2025 fod eu blwyddyn brysuraf eto.
Mae’r rhaglen wedi bod yn “gonglfaen” i blant rhwng pump a 10 oed yn ystod y cyfnod hwnnw, gan ddarparu sesiynau hwyliog a difyr sy’n canolbwyntio ar redeg, neidio a thaflu.
“Mae’r gweithgareddau hyn nid yn unig yn hybu ffitrwydd corfforol ond hefyd yn meithrin datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, gan osod sylfeini cadarn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol ar y trac ac oddi arno,” meddai Donna.
“Mae ein rhaglen wedi bod yn garreg gamu hollbwysig i Glwb Athletau Amatur Glannau Dyfrdwy (DAAC), gan helpu plant i ddatblygu o fod yn ddechreuwyr swil a thrwsgl i fod yn athletwyr hyderus a medrus.
“Ymhlith ein llwyddiannau mwyaf balch oedd y canlyniadau a’r cynnydd eithriadol i Jacob Welsh a Lily Noble, ein hathletwyr iau cyntaf i gynrychioli eu gwlad a chael gwisgo fest o fri Cymru.”
Ychwanegodd: “Mae ein hetifeddiaeth o lwyddiant yn parhau gyda rhai o’r athletwyr mwy newydd yn symud ymlaen i DAAC o’r sesiynau.
“Mae’r efeilliaid Gwen ac Ella Hayes, a ddaeth yn gyntaf ac yn ail ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Cymru, Gil Jung Fook, sydd yn y trydydd safle yng Nghymru am Daflu Gwaywffon (Grŵp Oedran Is 40m) a’i chwaer Libby Anne Fook sydd yn y nawfed safle yng Nghymru am Daflu’r Ddisgen (Grŵp Oedran Is) i enwi dim ond rhai.
“Maen nhw’n dystiolaeth o effaith y rhaglen ar feithrin talent ar y lefel uchaf.”
Mae’r coleg yn cynnal sesiynau athletau iau bob dydd Llun a dydd Mercher rhwng 6pm a 7pm yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, Cei Connah.
Er bod cyflawniad ac ymdrechu i gyflawni perfformiad elît yn hanfodol, i Donna a’r tîm mae datblygu talent a sicrhau bod pobl ifanc yn mwynhau’r gamp mewn amgylchedd diogel a chroesawgar yn hollbwysig.
“Rydyn ni’n angerddol dros feithrin arweinyddiaeth a thwf personol,” meddai.
“Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr ysgol uwchradd a choleg, gan eu helpu i fagu hyder, gwella cyflogadwyedd, a chefnogi eu teithiau academaidd.
“Mae’r rolau hyn yn cyfrannu at Wobrau Dug Caeredin (DofE), yn cryfhau ceisiadau UCAS, ac yn agor drysau i gyfleoedd gwaith.
“Ac er eu bod yn bwysig i’r unigolion a’r sefydliadau dan sylw, mae’r sesiynau hefyd wedi cefnogi elusennau lleol, gan godi dros £1000.
“Wrth i ni ddathlu 13 mlynedd o gyflawniadau, rydyn ni’n parhau i fod yn ymroddedig i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr, arweinwyr a phencampwyr.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i Cambria Heini < Coleg Cambria.
Ewch i Glwb Athletau Amatur Glannau Dyfrdwy am ragor o wybodaeth am y clwb athletau.