Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl

A agriculture student standing in the middle of a crop field holding one of the leaves

Hoffech chi ymuno ag un o’r diwydiannau pwysicaf a mwyaf dynamig yn y byd? Hoffech chi helpu bwydo poblogaeth byd eang sy’n cynyddu? Yna Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl yw’r cwrs i chi. Bydd ein rhaglenni yn eich ysbrydoli chi i fod yn llwyddiannus wrth ennill y sgiliau technegol, gwyddonol ac ymarferol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gyrfa ddelfrydol yn y maes hwn.

Ni waeth pa yrfa yr hoffech chi ei chael ar ôl eich cyfnod gyda ni, bydd ein tiwtoriaid yn defnyddio eu profiad a’u hangerdd i’ch helpu i gyflawni hynny. Mae Amaethyddiaeth yn ddiwydiant eang a diddorol, ac mae galw mawr am bobl sydd wedi’u hyfforddi’n dda mewn ystod eang o feysydd.

Michael Savage

Michael Savage

Astudiodd – Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth

Erbyn hyn – Hyfforddai prynwr da byw ar gyfer ABP UK

“Roedd fy nghyfnod yn Llysfasi wedi fy ngalluogi i gael dealltwriaeth well o’r diwydiant mewn meysydd na fyddwn i wedi’i chael adref ar y fferm. Yn Llysfasi fe gefais gyfle i ddefnyddio’r ddealltwriaeth theori y gwnaethon ni ei dysgu, ar fferm gynhyrchiol a oedd dafliad carreg o’r bloc addysgu, rhywbeth nad yw’n bosib mewn colegau eraill. Roedd y ddealltwriaeth ymarferol a gefais yn Llysfasi yn hanfodol i fy ngwaith dysgu yn y brifysgol gan fy mod i’n gallu defnyddio’r gwaith theori ar fferm y coleg. Gall profiad ymarferol yn y brifysgol fod yn gyfyngedig.  

“Ar ôl ennill y ddealltwriaeth a gefais yn Llysfasi, gwnaeth hyn alluogi i mi symud ymlaen i brifysgol Harper Adams i ehangu fy astudiaethau amaethyddiaeth a dwi wedi bod yn hynod o lwcus o gael lle fel hyfforddai prynwr da byw yn ABP Amwythig. Dwi wrth fy modd yn fy swydd newydd ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb yr addysg a’r profiadau a gefais yn y coleg a’r gefnogaeth a gefais ar hyd y daith.”

Dangos Rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!

Dangos Rhagor
Play Video about Two agriculture students crouched down with a tutor whilst he's holding grass and talking to them
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost