BLODEUWRIAETH

Myfyriwr Blodeuwriaeth yn creu tusw o flodau

Un diwrnod gall eich trefniadau blodau fod yn osodiad canol achlysuron mwyaf arbennig eich cleientiaid. Mae blodeuwriaeth yn yrfa hynod o werthfawr lle byddwch yn cael eich amgylchynu gan blanhigion prydferth y gallwch eu plethu gyda’i gilydd i greu rhywbeth gwell.

Mae’r diwydiant yn ffynnu ar draws y DU a chleientiaid yn chwilio am elfen broffesiynol a phersonol ar gyfer eu digwyddiadau. Ar ein cyrsiau Blodeuwriaeth, byddwch yn dysgu sgiliau safon diwydiant lefel uchel, gan eich galluogi i greu tuswau ac arddangosiadau blodau pwrpasol syfrdanol ar gyfer achlysuron teulu, cyflwyniadau corfforaethol a llawer rhagor.

Cyfleusterau Blodeuwriaeth

Blodau Iâl

Play Video
Emma Howells

Emma Howells

Astudiodd –  Lefel 2 a 3 mewn Blodeuwriaeth

Erbyn hyn – Gwerthwr blodau yn The Potting Shed a The Little Potting Shed 

“Gwnes i ddewis ailhyfforddi a chwblhau cyrsiau Lefel 2 a 3 yn hytrach na chwrs dwys, er mwyn cael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o’r deunydd ffres yr ydym yn gweithio â nhw yn y diwydiant. 

“Mae’r cyrsiau City & Guild yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys gofal blodau, deiliant a phlanhigion mewn manylder, cyflyru, technegau, rheoli a theorïau dylunio penodol. Mae’r cyfle i ymarfer a datblygu eich arddull eich hunain yn werthfawr dros ben ac yn cael ei gydnabod gan gyflogwyr. 

“Dwi wedi dysgu cymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy ngyrfa. Mae Amanda a Jenny yn diwtoriaid gwych sydd â llawer iawn o brofiad a gwybodaeth ddefnyddiol.”

Dangos Rhagor
Floristry

Bethan Owen

Astudiodd – Blodeuwriaeth Lefelau 2 a 3

Erbyn hyn – Perchennog Siop Flodau Wild Blodyn

“Fe wnes i fwynhau astudio Blodeuwriaeth yng Ngholeg Cambria yn fawr, o ddysgu enwau botanegol, i ofalu am flodau wedi’u torri o’u dechrau gyda’r tyfwyr i baratoi’r dyluniadau i gwsmeriaid. 

“Mae’r cwrs lefel 2 yn mynd i fanylder am egwyddorion ac elfennau dylunio, gan ddarparu dealltwriaeth gadarn ar gyfer creu dyluniadau blodau deniadol i’r llygad fel trefnydd blodau iau. Ar lefel 3 roedd yr agweddau busnes o flodeuwriaeth yn ein paratoi ni ar gyfer swyddi trefnydd blodau uwch. 

“Fel grŵp, fe gawson ni brofiad yn trefnu blodau ar gyfer priodasau, rhwydweithio gyda threfnwyr blodau eraill a chymryd rhan yng Nghystadleuaeth Myfyrwyr Cwpan y Byd Interflora, gan gyfrannu’n fawr at feithrin fy hyder ar hyd y daith.”

“Dechreuodd fy menter Wild Blodyn ar y cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o ddogfennu fy nhaith flodeuwriaeth. 

“Fe wnes i ddechrau cael ceisiadau archebion gan deulu a ffrindiau gan sylweddoli’r potensial ar gyfer twf. 

“Wrth i archebion ehangu i’r cyhoedd a chymryd rhan mewn ffeiriau priodasau a marchnadoedd, mae Wild Blodyn wedi datblygu’n fusnes. Gyda fy lle fy hun rŵan, dwi’n gallu cynnal gweithdai ac agor fy nrysau i’r cyhoedd.”

Dangos Rhagor
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost