Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau mewn perfformio, theatr dechnegol, neu gynhyrchu cefn llwyfan?
I fentro i’r diwydiant hwn rydych chi angen ysfa, agwedd benderfynol a llawer o ffydd ynoch chi eich hun i lwyddo. Os oes gennych chi’r agweddau hyn, bydd ein tiwtoriaid yn siŵr o ddatblygu eich sgiliau actio, dawnsio a theatr gerdd, wrth gynyddu eich dealltwriaeth o’r diwydiant. Erbyn i chi orffen eich cwrs, chi fydd seren y llwyfan, sgrin neu gynhyrchiad.
Cyfleusterau Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Stiwdio ddrama
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho
A oes gennych chi gwestiwn?
Thomas Hughes Lloyd
Wedi astudio – Diploma Estynedig Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio
Erbyn hyn – Astudio Dawns ym Mhrifysgol Caer
“Fe wnes i ddewis astudio celfyddydau perfformio yng Ngholeg Cambria gan fy mod i eisiau bod yn fwy na dawnsiwr ac roeddwn i eisiau dysgu ystod o wahanol sgiliau fel actio, canu, theatr gerdd a ffurfiau eraill o ddawnsio.
“Wrth astudio fe wnes i ddarganfod fy mod i’n mwynhau perfformio y tu hwnt i ddawnsio, ac fe wnaeth y gwaith theatr gerdd fy helpu i ddysgu sgiliau newydd a ffyrdd eraill o berfformio.
“Fe wnaeth y cymhwyster fy helpu i ddatblygu fy hyder ac agor fy llygaid i ffyrdd newydd o berfformio, a fy helpu i ddatblygu sgiliau newydd a mireinio rhai oedd gen i’n barod. Rydw i wedi addysgu gweithdai yn Cambria hyd yn oed ac mae’r cysylltiadau oeddwn i wedi’u meithrin trwy fy nghyd-ddisgyblion a fy narlithoedd yn dal i fod yno heddiw. Fe helpodd fi i weld bod posibiliadau newydd a rhoddodd flas i mi o wahanol feysydd y diwydiant. Yn ddiweddar rydw i wedi gwneud gwaith teledu ar BBC Young Dancer a Got to Dance ar Sky 1 a gwaith arall yn addysgu dosbarthiadau dawns a gweithdai.
“Roeddwn i wrth fy modd yn y coleg a dwi eisiau mynd yn ôl mewn amser a’i wneud eto. Roedd yn gymaint o hwyl ac yn un o brofiadau gorau fy mywyd.”
Frankie McCamley
Studied – A Level English, Drama, Maths and French
Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC
“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham!
“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”