Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > E-chwaraeon
E-chwaraeon
E-chwaraeon

Mae’r diwydiant E-chwaraeon yn ddiwydiant byd-eang, dynamig, cyffrous, sy’n tyfu’n gyflym. Mae ein cyrsiau E-chwaraeon yn cynnig y cyfle i chi ddysgu am y sector a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr y dyfodol yn y diwydiant.
Mae ystod eang o gyfleoedd gyrfa amrywiol, cyffrous a gwerth chweil ar gael i chi mewn nifer o sefydliadau yn lleol, yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol. Mae gyrfa mewn E-chwaraeon yn gofyn am ddatblygu llawer o sgiliau, fel arwain, datrys problemau, meddwl yn strategol, cyfathrebu, gwaith tîm, a sgiliau dadansoddi.
Bydd eich tiwtoriaid yn dysgu’r sgiliau a fydd yn eich paratoi ar gyfer byd cyflym, deinamig E-chwaraeon, a chewch gyfleoedd i ymarfer y sgiliau hyn yn ystod eich amser ar y cwrs.

Tim
Wedi Astudio – Diploma Lefel 3 mewn E-chwaraeon
Ar Hyn o Bryd – Myfyriwr yn NTU Confetti, ond hefyd yn grëwr cynnwys llawrydd (ffotograffiaeth, sinematograffi, golygydd, rheolwr cyfryngau cymdeithasol a strategydd)
“Roedd fy mhrofiad yng Ngholeg Cambria yn wych! Cefais lawer o help gan y tiwtoriaid pan oedd ei angen arna’i ac roedd amgylchedd gwych i mi ddysgu ynddo yn ogystal â gwneud ffrindiau anhygoel.
“Mae’r cwrs wedi fy helpu i weithio gyda thwrnameintiau E-chwaraeon, brandiau coffi lleol, modelau, bandiau a’r BBC. Roedd y cwrs e-chwaraeon yn help mawr i mi yn y maes hwn gan fy mod i wedi llwyddo i ddysgu hanfodion fideograffeg a golygu ac wedi datblygu fy hyder yn sylweddol.”

Frankie McCamley
Wedi Astudio – Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg Safon Uwch
Ar Hyn o Bryd – Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ar gyfer y BBC
“Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly fe wnes i ddewis pynciau gwahanol i’w hastudio ar lefel Safon Uwch. Dw i rŵan yn gweithio i’r BBC fel Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion, ac fe wnaeth astudio yn Chweched Iâl roi’r hyder a’r sgiliau i mi fynd i’r brifysgol. Dw i wedi gwneud ffrindiau da, wedi cael athrawon gwych na fydda’ i fyth yn eu hanghofio, ac amser gwych yn Wrecsam!
“Dwi’n edrych yn ôl ar fy amser yn Iâl gyda balchder a hoffter a fydda’i fyth yn ei anghofio!”