Peirianneg Amaethyddol

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Somebody pointing towards a screen with a large agricultural vehicle behind them

Bydd ein cyrsiau Peirianneg Amaethyddol yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant hwn sy’n cynyddu’n barhaus. Mae’r gweithdy amaethyddol o’r radd flaenaf safon y diwydiant, ynghyd â’r fferm fasnachol 970 erw yn rhoi’r cyfle i chi ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith masnachol.

Wrth ddefnyddio technoleg arloesol a diweddar, gan gynnwys peiriannau amaethyddol a safle, byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch profiad fel gweithiwr peiriannau neu fecanydd. Bydd y cwrs yn cynnwys pynciau gan gynnwys; gweithredu peiriannau ffermio manwl, awto-lywio GPS, diagnosteg gyfrifiadurol arbenigol, arferion gweithdy, weldio a gwneuthuro, electroneg, hydroleg, brecio, llywio a systemau hongiad.

Rydym wedi cael ein dewis i ddarparu Cynllun Hyfforddi Diploma AGCO ar gyfer Massey Ferguson, Fendt a Valtra, yn ogystal â Chynllun Hyfforddi Diploma Kubota. Byddwch yn cael eich addysgu yn ein gweithdai safon diwydiant gan weithio ar y peiriannau a thechnolegau diweddaraf, gan ddefnyddio offer trwsio a diagnostig o’r radd flaenaf.

 

Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Placeholder image of a headshot

Aled Beech

Wedi Astudio – Lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol 

Erbyn hyn – Yn astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Harper Adams 

“Roedd y cwrs Peirianneg Amaethyddol yn gam agosach at gael fy ngradd, mae’n anhygoel faint ddysgais i yn Llysfasi, y nifer o weithiau rydw i wedi mynd i’r afael â phroblem a chlywed llais y tiwtoriaid Glyn, Gareth neu Simon yn fy atgoffa i o rywbeth a fy nghael i allan o drwbl! Roedd dysgu cymaint o wybodaeth ymarferol a thechnegol wedi galluogi i mi weithio ar lefel uwch yn y diwydiant Peirianneg Amaethyddol. 

“Dwi’n teimlo mod gen i fantais dros fyfyrwyr eraill ar fy nghwrs oherwydd cefais i’r profiad ymarferol yn Llysfasi a chael dealltwriaeth dechnegol well o bethau, hefyd cefais fwy o barch gan bobl yn y diwydiant oherwydd fy mod i’n gallu edrych ar rywbeth a dweud wrthyn nhw “mae hwn yn gweithio fel hyn a gall hyn ei drwsio”.

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.