Twf Swyddi Cymru Plws

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer unigolion 16 i 19 oed sy’n byw yng Nghymru. Os oes angen help arnoch chi i ddod o hyd i waith neu addysg bellach, mae Twf Swyddi Cymru+ yma i helpu!

Ydych chi eisiau sicrhau prentisiaeth, swydd, neu angen cefnogaeth i fynd ymlaen i gwrs coleg amser llawn? Gallwn ni helpu!

Bydd ein rhaglen yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau personol a goresgyn rhwystrau a allai fod yn eich atal rhag mynd i fyd gwaith.

Ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+, byddwch chi’n gwella’ch hyder, yn ennill cymwysterau, yn canolbwyntio ar ddod o hyd i yrfa sy’n iawn i chi ac yn gwella’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Erbyn i’r cwrs ddod i ben, bydd gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch chi i ddechrau eich gyrfa.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer unrhyw un rhwng 16 i 19 oed, sy’n byw yng Nghymru, nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth llawn amser.

Mae’r rhaglen yn rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru – er mwyn helpu pobl ifanc yng Nghymru i gyflawni eu potensial llawn. Felly p’un ai eich bod chi wedi gadael yr ysgol neu goleg, nid ydych chi’n teimlo’n barod i gymryd y cam i’r byd gwaith, neu rydych chi angen cymorth i ddechrau neu ddarganfod swydd, gall Twf Swyddi Cymru+ eich helpu chi.

Mae’r cymorth yn rhad ac am ddim.

Gallwch chi gael hyd at £42-£60 o lwfans hyfforddi yn dibynnu ar eich cynllun dysgu a datblygu. Os ydych chi’n cael swydd drwy’r rhaglen, byddwch chi’n ennill cyflog go iawn ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf.

 

Oes. Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen hyblyg iawn sydd wedi’i llunio i gefnogi pobl ifanc 16-19 oed ni waeth beth fo’u gallu, cefndir neu amgylchiadau.

Mae cymorth ychwanegol ar gael i’r rhai sydd ei angen fwyaf i sicrhau y gallant gymryd rhan. Cysylltwch â Cymru’n Gweithio i drafod eich amgylchiadau a holi am y cymorth sydd ar gael trwy Twf Swyddi Cymru+.

Darganfyddwch sut i gysylltu â nhw yma https://cymrungweithio.llyw.cymru/cysylltwch-a-ni

Mae gwahanol fathau o gymorth ar gael ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Os nad ydych chi’n barod i ddilyn rhaglen hyfforddi a datblygu mwy dwys eto, mae hynny’n iawn.

Gallech chi ddechrau gyda’r meysydd Ymgysylltu Twf Swyddi Cymru+ oherwydd nid oes isafswm oriau presenoldeb ac mae cymorth wedi’i deilwra ar gyfer eich anghenion.

Mewn meysydd eraill, bydd y nifer o oriau presenoldeb yn dibynnu ar eich amgylchiadau a gallai’r rhain amrywio o 16 awr i tua 40 awr. Eto, bydd y nifer o oriau y mae’n rhaid i chi eu cwblhau yn dibynnu ar y pecyn cymorth sy’n addas i chi.

Byddwch chi’n cael ystod eang o gymorth hyblyg ac am ddim, sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich anghenion unigol.

Bydd y lefel cywir o gymorth yn cael ei bennu ar eich cyfer chi ar ddechrau eich rhaglen. Yna byddwch yn gweithio gyda’r staff i greu eich ‘cynllun dysgu unigol’ eich hunain i’ch helpu i gyrraedd eich nod.

Byddwch chi’n cael dealltwriaeth glir o’r cyfleoedd sydd ar gael i chi a byddwch yn cyflawni gweithgareddau hyfforddi a datblygu amrywiol i’ch helpu i symud ymlaen. Bydd cyfarfodydd mentora un i un rheolaidd ac adolygiadau misol yn eich helpu i aros ar y trywydd iawn, a gallwch wneud newidiadau i’ch cynllun os oes angen.

Hefyd byddwch chi’n cael treialon gwaith a lleoliadau gwaith, ynghyd â chymorth i gael cyflogaeth a chyfleoedd gwaith gyda thâl fel y gallwch chi symud ymlaen i’r profiadau da.

I ddechrau arni gallwch chi naill ai gwblhau’r ffurflen isod a bydd aelod o dîm y coleg yn cysylltu â chi neu, gallwch chi ffonio’r tîm ar 01978 267472 

Play Video
Paige Partington IMG_1209 (1)

Paige Partington

“Roeddwn i’n bwriadu cymryd fy nghamau nesaf mewn addysg heb fod angen gwneud cwrs llawn amser. Roedd yr hyblygrwydd a’r cymorth wedi ennyn fy niddordeb o’r dechrau un. Roedd y cwrs yn cynnig cyfleoedd yn y byd gwaith a hwn oedd y cwrs iawn i mi.
“Mae Twf Swyddi Cymru+ yn fy helpu i aros yn llawn cymhelliant ac i ehangu fy sgiliau Mathemateg. Mae’r cwrs yn fy helpu i ddatblygu syniad o’r hyn hoffwn i ei wneud yn y dyfodol.
“Os ydych chi’n chwilio am gymorth ychwanegol neu eisiau rhoi hwb i’ch hyder, byddwn i’n argymell y cwrs hwn yn fawr. Mae’r staff yn groesawgar a’r myfyrwyr yn gyfeillgar, mae pawb yn un teulu mawr a byddem ni wrth ein boddau’n cael rhagor o bobl i fwynhau’r profiad hwn.”

Dangos Rhagor
Jobs Growth Wales+ (6)

Carrieanne Whyborn

Gwnes i ddewis y cwrs hwn gan ei fod yn swnio’n gyffrous ac mae amserlenni unigol sydd wedi fy helpu i weithio wrth i mi wneud fy nghymwysterau sgiliau hanfodol mewn Mathemateg a Saesneg a sesiynau adolygu.

Mae’r cwrs wedi fy helpu i gael strwythur yn fy mywyd ac wedi fy nghymell i wneud fy nghymwysterau Mathemateg a Saesneg y bydd eu hangen arna’ i yn y dyfodol. Dwi wedi dysgu am y byd gwaith ac ein Gwerthoedd Prydeinig.

Pan wnes i ymuno â’r cwrs hwn, cefais groeso cynnes a dwi wedi cael cyfleoedd i gynyddu fy sgiliau. 

Dangos rhagor
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

A oes gennych chi ddiddordeb? Cysylltwch â ni....
  1. Yn syml, llenwch y ffurflen isod a gallwn eich ffonio’n ôl
Welsh government logo with a white background
Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost