Mae Coleg Cambria yn galw am gamau gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r “annhegwch” o ran cyllid cludiant i fyfyrwyr ledled Cymru, lle bo “loteri cod post” yn golygu bod nifer o ddysgwyr a’u teuluoedd yn “wynebu costau teithio annheg”.
Fe wnaeth Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria, fynegi ei siom gyda’r system bresennol, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth mawr yn y gefnogaeth, gyda rhai awdurdodau lleol yn ariannu teithiau bws am ddim i ddysgwyr ôl-16 tra bod eraill yn darparu dim.
“Mae’n hollol annheg bod lle mae myfyriwr yn byw yn pennu eu mynediad i addysg,” meddai Ms Williams. “Bydd llawer o’n dysgwyr yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng deunyddiau byw a dysgu hanfodol a thalu am docynnau bws, rhywbeth nad oes rhaid i fyfyrwyr eraill yng Nghymru wneud penderfyniad yn ei gylch. Mae hyn yn annerbyniol.”
“Bydd llawer o’n dysgwyr yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng deunyddiau byw a dysgu hanfodol a thalu am docynnau bws, rhywbeth nad oes rhaid i fyfyrwyr eraill yng Nghymru wneud penderfyniad yn ei gylch. Mae hyn yn annerbyniol.”
O fis Medi, bydd Coleg Cambria yn cael ei orfodi i weithredu cludiant â chymhorthdal, yn hytrach na chludiant am ddim, i fyfyrwyr sy’n byw mwy na thair milltir o’i safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain.
Mae’r “penderfyniad anodd” hwn yn ganlyniad uniongyrchol i gostau cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol.
“Ers blynyddoedd lawer mae Coleg Cambria wedi ariannu holl gostau cludiant ei fyfyrwyr, sy’n faich o dros £2.4 miliwn y flwyddyn,” esboniodd Ms Williams.
“Mae hyn yn cyfateb i tua £400 y dysgwr, cost sy’n dargyfeirio cyllid hanfodol o wasanaethau cymorth hanfodol fel cymorth yn y dosbarth, iechyd meddwl, cymorth ADY, a thechnoleg ddigidol.”
Fe wnaeth Ms. Williams hefyd feirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i’r mater, yn dilyn ei thrafodaeth yn y Senedd.
“Yn hytrach na mynd i’r afael â’r mater craidd o degwch, cafodd y sylw ei symud i’r costau â chymhorthdal y byddai ein dysgwyr yn eu hwynebu,” meddai.
“Mae hyn yn rhwystredig iawn pan rydyn ni’n brwydro i ddileu rhwystrau i addysg, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â thlodi. Mae cynllun cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn cael ei danseilio gan y system bresennol.”
Wrth groesawu’r fenter £1 y daith ddiweddar ar gyfer 2025/26, pwysleisiodd Ms Williams nad yw’n datrys y broblem sylfaenol.
“Mae’r cytundeb tocyn bws am £1 yn fater ar wahân a dydy o ddim yn mynd i’r afael â’r diffyg cludiant am ddim i ddysgwyr ôl-16,” dywedodd.
Mae cynllun cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn cael ei danseilio gan y system bresennol.”
Wrth groesawu’r fenter £1 y daith ddiweddar ar gyfer 2025/26, pwysleisiodd Ms Williams nad yw’n datrys y broblem sylfaenol. “Mae’r cytundeb tocyn bws am £1 yn fater ar wahân a dydy o ddim yn mynd i’r afael â’r diffyg cludiant am ddim i ddysgwyr ôl-16,” dywedodd.
“Ar ben hynny, ni fydd yn helpu pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gwael ac afreolaidd yn uniongyrchol.” “Mae ein safleoedd gwledig a myfyrwyr yn wynebu heriau arbennig,” ychwanegodd Ms Williams. “Hyd yn oed gyda’r pris tocyn yn £1, ni all llawer o ddysgwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd erbyn 9am. Mae’n dal i fod yn £1 y daith yn fwy nag y mae’n rhaid i lawer o ddysgwyr eraill ledled Cymru ei thalu. Mae Coleg Cambria yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu’n bendant a gweithredu polisi ariannu trafnidiaeth deg ar gyfer Cymru gyfan sy’n blaenoriaethu potensial myfyrwyr ac yn sicrhau y gall pob dysgwr ddilyn ei ddyheadau addysgol heb rwystrau ariannol.”