Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

LLYSFASIhwbarloesi

Dadorchuddiodd Coleg Cambria Llysfasi yr Hwb Arloesi arloesol radd flaenaf – gyda nawdd o dros £5.9m o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru – dros gyfnod y Nadolig.

Adeiladwyd y cyfadeilad 1,095 metr sgwâr, deulawr, carbon-niwtral gan gwmni Read Construction o Wrecsam ac mae’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, labordai, siop goffi, wal ddringo, mannau cyfarfod, atriwm, canolfan Addysg Uwch a hwb llesiant.

Datgelodd pennaeth Llysfasi, Elin Roberts, y bydd y buddsoddiad o fudd i’r safle yn sgil cynnydd o 70% mewn dysgwyr.

“Mae’r adeilad yn anhygoel ac mae eisoes yn boblogaidd iawn gyda’r myfyrwyr a’r staff, gan fod yr offer, y mannau cyfarfod ac academaidd a gweithdai a’r cyfleusterau i gyd o’r radd flaenaf,” meddai Elin.

“Er bod y safle ei hun yn gwella drwy’r amser, gan gyflwyno peiriannau, dulliau ac arferion cynaliadwy arloesol, y bobl sy’n gwneud Llysfasi yn arbennig, ac mae tiwtoriaid a staff dwyieithog gwych wedi ymuno â ni yn ystod y misoedd diwethaf.

“Maen nhw’n falch dros ben o fod yma, ac yn addysgu yn yr amgylchedd anhygoel hwn, a gyda rhagor o gynlluniau ar y gweill ar gyfer y coleg yn 2025 mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn ar gyfer amaethyddiaeth ac addysg yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt.”

Ymhlith y rhai sydd wedi dechrau’n ddiweddar mae Gethin Jones, o Ruthun, darlithydd mewn Peirianneg.

Yn gyn-athro ysgol uwchradd yng Nghei Connah, ac yn berchennog busnes gwneuthuro, dywedodd: “Mae hwn yn adeilad gwych a gyda’r dechnoleg flaengar sydd yma, dyma’r lle perffaith i addysgu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr amaethyddol.”

Yn ymuno â Gethin mae’r darlithydd Coedwigaeth, Rheoli Cefn Gwlad a Gofal Tir, Geraint Ellis, o Borthmadog, a Gruff Jones o Gyffylliog, Hyfforddwr/Arddangoswr mewn Coedwigaeth, Ystadau a Rheoli Cefn Gwlad.

“Dwi’n ffermwr fy hun ac wedi bod yn ymarfer cadwraeth ac amaethyddiaeth adfywiol ers tro,” meddai Geraint.

“Dwi’n wastad wedi bod yn angerddol am ddiwydiant y tir, felly dwi’n gallu siarad efo’r myfyrwyr gan ddefnyddio fy mhrofiadau fy hun.

“Roedd symud yma i weithio’n wych, pa le gwell i ddysgu nag yn yr adeilad newydd anhygoel hwn, dwi’n falch iawn o fod yma a chael bod yn rhan o’r bennod nesaf hon yn Llysfasi.”

Recriwtiaid newydd eraill oedd Aled Williams, o Lannefydd, Hyfforddwr/Arddangoswr mewn Amaethyddiaeth, a’r darlithydd Amaeth Anna Lewis.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Dewch draw i’n digwyddiad agored Llysfasi a gweld yr Hwb Arloesi drosoch eich hun, dydd Sadwrn 8 Mawrth.

Cadwch eich lle rŵan https://www.cambria.ac.uk/campaigns/openevents/.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost