Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A New Era for Culinary Training as We Launch a Cutting-Edge Kitchen in partnership with The Savoy Educational Trust

Cafodd y cyfleuster blaengar ei ariannu’n rhannol gan yr Ymddiriedolaeth ac mae wedi’i leoli yn ymyl Bwyty Iâl yn adeilad Hafod (gwerth £21 miliwn) ar safle Wrecsam.

Yn cael ei gyflwyno’n swyddogol gan Vicki Howells AS, Gwenidog Addysg Bellach ac Uwch, bydd y ‘cegin gynhwysol’ yn atgyfnerthu ymrwymiad Cambria i ddarparu cyfleoedd hygyrch i bawb ac yn helpu i hyfforddi cenhedlaeth o weithwyr proffesiynol yn y sector lletygarwch.

Meddai Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol Coleg Cambria: “Rydym yn falch o ddathlu ein partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Addysg The Savoy lle rydym wedi cydweithio i gael cegin hyfforddiant cynhwysol, o’r radd flaenaf yma yn Iâl.

“Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn nodi carreg filltir sylweddol yn ein hymrwymiad i addysg hygyrch ac o’r safon uchaf mewn lletygarwch ac arlwyo gan sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y diwydiant.

“Diolch i gyfraniad hael yr Ymddiriedolaeth (sydd wedi ariannu rhan o’r prosiect hwn) gall y coleg rŵan gynnig amgylchedd ddysgu fodern gyda chyfleusterau blaengar sy’n cwrdd ag anghenion yr holl ddysgwyr yn cynnwys y rheiny ag anghenion cymorth ychwanegol.

“Trwy weithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth mae Coleg Cambria yn sicrhau fod y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol lletygarwch yng Ngogledd Cymru a thu hwnt yn derbyn yr hyfforddiant gorau posib ac yn eu paratoi nhw am yrfaoedd gwobrwyol mewn diwydiant sy’n esblygu.”

Ychwanegodd Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria: “Mae’r cyfleuster gwych yn ein galluogi ni i ehangu ein cynnig gyda gweithdai arbenigol ar gyfer gweithwyr a’u staff yn cynnwys gweithdai sgiliau defnyddio cyllyll, pobi a gwneud selsig.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Addysg The Savoy am eu cefnogaeth yn ein helpu i ddyrchafu hyfforddiant lletygarwch i’r lefel nesaf.”

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Addysg The Savoy ym 1961 ac mae ganddi hanes o hybu addysg a hyfforddiant yn y sector lletygarwch.

Fel ymddiriedolaeth elusennol annibynnol maen nhw wedi ymrwymo i ariannu mentrau sy’n gwella cyfleoedd dysgu mewn arlwyo a lletygarwch, gan gyfarparu unigolion gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ei angen i ffynnu yn y diwydiant.

Trwy ddosbarthu grantiau maen nhw’n cefnogi prosiectau sy’n gwella cyfleusterau ac yn darparu hyfforddiant ymarferol ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol mewn lletygarwch.

Meddai Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth, Angela Maher: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi addysg hygyrch ac o safon uchel sy’n meithrin dyfodol lletygarwch ac rydym yn falch o helpu i ariannu cegin hyfforddi o’r radd flaenaf yng Ngholeg Cambria. Bydd y gegin hon yn sicrhau fod cyfle i bob dysgwr, beth bynnag eu cefndir neu allu, i ddatblygu sgiliau sy’n barod ar gyfer y diwydiant, cyflawni cymwysterau a chael eu hysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y sector lletygarwch.

“Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at ein hymroddiad ar y cyd i addysg lletygarwch rhagorol ac ysbrydoli talent y dyfodol.”

Ewch i Ymddiriedolaeth Addysg Savoy – Datblygu addysg, hyfforddiant a chymwysterau er budd diwydiant lletygarwch y DU am fwy o wybodaeth.

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost