Home > Eich Cynorthwyo Chi > Cymorth i Fyfyrwyr > Cymorth i Fyfyrwyr Dysgu yn y Gwaith a Phrentisiaethau
Cymorth Dysgu yn y Gwaith a Phrentisiaethau
Gwasanaethau Myfyrwyr
Llyfrgell a Sgiliau Academaidd
Gyrfaoedd a Chyflogaeth
Y Gymraeg
Iechyd Meddwl a Llesiant
Caplaniaeth
Cynhwysiant a Chymorth Dysgu
Diogelu a Prevent
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysg cynhwysfawr, p’un ai rydych ar y safle neu beidio. Rydym yn deall bod dysgwyr prentisiaethau a dysgu yn y gwaith yn wynebu heriau unigryw yn ystod eu taith, felly dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig ystod o wasanaethau cymorth i helpu ein myfyrwyr prentisiaethau a dysgu yn y gwaith i ffynnu ar y safle, ar-lein ac yn y gwaith.
Mae ein Timau Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’u lleoli ar ein holl safleoedd, ac maent yma i ddarparu cymorth ac arweiniad ar faterion personol, ariannol, ac academaidd, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd cwrs a gyrfa yn y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo chi mewn unrhyw ffordd posib, er mwyn i chi gyflawni eich nodau academaidd a llwyddo mewn bywyd.
Dysgwch isod am sut y gall ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi.
Gallwch gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr wrth ffonio 0300 30 30 007 neu anfon e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk.
Rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl a llesiant yn gallu cael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr ac rydym yn angerddol am ddarparu’r cymorth a’r adnoddau gorau i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl da.
Nid oes unrhyw feini prawf i’w bodloni, gall dysgwyr dderbyn cwnsela a chymorth lles a gallant siarad â’u Hymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith, galwch i mewn i weld y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr neu anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk.
Gallwch ddarganfod rhagor am Gymorth Iechyd Meddwl yma.
Gall ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ac Ymgynghorwyd Gyrfaoedd gynorthwyo dysgwyr gyda’u cwestiynau am newidiadau posib mewn swyddi, neu os ydynt yn ansicr am eu cwrs presennol.
Mae gennym Gydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, a all gynnig arweiniad a chymorth ar hunangyflogaeth a dechrau busnes trwy weithdai, siaradwyr gwadd a chlybiau menter.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at careers@cambria.ac.uk.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu rydych yn poeni am unrhyw un arall, anfonwch e-bost at safeguarding@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 009
Fel dysgwr prentisiaeth a dysgu yn y gwaith Coleg Cambria gallwch gyrchu nifer o lyfrgelloedd ag offer da os ydych angen lle i astudio gartref neu’r gweithle.
Mae’r llyfrgelloedd yn lleoedd diogel, cynhwysol a chroesawgar sydd wedi’u dylunio i gynorthwyo eich anghenion dysgu.
Mae gennym fannau astudio tawel ar gyfer gwaith grŵp neu unigol, gallwch gyrchu cyfrifiaduron a Chromebooks i’w defnyddio ar y safle neu eu benthyca i’w defnyddio gartref neu yn y gwaith.
Mae cyfleusterau argraffu a chymorth i gysylltu eich teclynnau eich hun i Wifi y coleg yn ogystal â chymorth i roi hwb i’ch sgiliau digidol eich hun wrth i chi astudio yn y coleg.
Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu chi dros e-bost neu dros y ffôn.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r tîm ar gyfer unrhyw ymholiadau llyfrgell.
Cysylltwch â ni
0300 3030 006
Byddwch yn cael cyfleoedd i ofyn am gyngor gan dîm sgiliau academaidd proffesiynol profiadol i arwain eich taith ddysgu.
Darperir cefnogaeth academaidd 1:1 grŵp ac wedi’i theilwra ar ystod eang o bynciau academaidd allweddol gan gynnwys ymchwil effeithiol, ysgrifennu academaidd a chyfeirnodi.
Byddwch yn cael llwybrau syml a hygyrch i hunangyfeirio ar gyfer cymorth academaidd ychwanegol a gallwn drefnu sesiynau cymorth i’w cyflwyno ar-lein a thu allan i oriau gwaith.
Yn ogystal ag arweiniad personol byddwch yn gallu cyrchu llenyddiaeth ymchwil o safon uchel sy’n arwain y sector ac amrywiaeth o lwyfannau e-lyfrau ar-lein 24/7 .
Mae’r ystod eang o adnoddau yn galluogi i chi gyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn hyblyg i gwblhau eich asesiadau dysgu yn y gwaith.
Siaradwch â’ch ymarferydd neu dîm y llyfrgell am arweiniad ar sut i gyrchu’r adnoddau hyn.
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn rhoi cymorth i ddarpar fyfyrwyr ar ddewis y cwrs cywir yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad ar ddatblygu eich gyrfa a chynllunio eich cam nesaf ar ôl coleg – boed hynny’n cael swydd neu brentisiaeth neu fynd i’r brifysgol. Ni yw eich porth i gael gwybod am wahanol yrfaoedd a chyfleoedd yn y byd gwaith.
Gallwn eich helpu gyda:
- Dewis y cyrsiau iawn i chi yng Ngholeg Cambria
- Gwneud cais i brifysgol – gallwn eich cynorthwyo i feddwl am yr hyn yr hoffech ei wneud – ac ymhle, a byddwn yn helpu i ysgrifennu datganiadau personol a chyflwyno ceisiadau UCAS.
Mae ein Anogwyr Cyflogadwyedd Siop Swyddi yn cefnogi ein myfyrwyr gyda:
- Darganfod am brentisiaethau a hyfforddiant yn y gwaith os ydych yn dymuno cael gwaith cyflogedig ac ennill cymhwyster ar yr un pryd
- Gwneud cais am swyddi, ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau swydd.
Darganfyddwch ragor am Siop Swyddi Coleg Cambria
Bod yn Ddwyieithog yng Ngholeg Cambria
Yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau dwyieithog a fydd yn arwain at yrfa a bywyd llwyddiannus.
Mae dwyieithrwydd yn agor drysau i chi yn y byd gwaith ac yn cynyddu eich cyflogadwyedd. Gall gyfoethogi eich bywyd cymdeithasol a gwella eich meddwl a’ch creadigrwydd hefyd.
Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog
Os ydych chi wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol, gallwch chi barhau i wneud hynny yng Ngholeg Cambria.
Mae llawer o’n cyrsiau’n cael eu cyflwyno’n ddwyieithog a gallant roi’r cyfle i chi barhau i ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallwch chi wneud y canlynol yn Gymraeg:
- Cyflwyno gwaith ysgrifenedig a chael nodiadau dwyieithog
- Astudio cyrsiau neu fodiwlau penodol
- Cwblhau profiad gwaith mewn amrywiaeth o amgylcheddau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad
- Asesiadau, cyfweliadau mynediad, tiwtorialau, mentora a chyfarfodydd.
Datblygu eich Sgiliau Cymraeg
Os nad oes gennych chi sgiliau Cymraeg neu os hoffech chi ddatblygu eich sgiliau, mae llu o gyfleoedd i chi wella a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich maes pwnc.
Gallwch chi wneud y canlynol:
- Cwblhau unedau sy’n berthnasol i’ch pwnc
- Cwblhau cyrsiau blasu ar-lein
- Mynd i ddosbarthiadau Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau
- Mynd i ddosbarthiadau Cymraeg i ddechreuwyr os nad oes gennych chi wybodaeth.
Os hoffech chi astudio yn Gymraeg neu ddatblygu eich sgiliau, gall ein tîm Cymraeg eich cefnogi chi wrth gynnig mentora ac arweiniad 1-1 i chi. Gallant eich helpu chi i wella eich sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a gallant gyfieithu terminoleg a thermau technegol.
Hwyl yn Gymraeg
Mae gennym ystod o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol ar gael i chi eu mwynhau o wyliau Cymraeg i deithiau dros nos.
Mae ein Swyddog Cangen Cymraeg yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol ar bob safle ac yn cadw mewn cysylltiad trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Diddordeb mewn Dysgu yn Gymraeg?
I wneud ymholiad am ddysgu yn Gymraeg, llenwch y ffurflen isod.
"*" indicates required fields
Am ragor o fanylion cysylltwch â ni
Ein Cymorth
Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn ymdrechu i gynorthwyo ac addysgu dysgwyr am eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Trwy gyflwyno technegau iach sy’n cynorthwyo ein llesiant i’n trefn bob dydd, y mwyaf gwydn y gallwn ei deimlo.
Rydym yn gwybod y gall iechyd meddwl a llesiant gael effaith sylweddol ar eich profiad yn y coleg. Mae ein Tîm Iechyd Meddwl a Llesiant yn angerddol am ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau gorau sy’n hybu eich llesiant ac iechyd meddwl da.
Mae hyn yn cynnwys;
- Cymorth gan staff llesiant ymroddedig sydd ag arbenigedd mewn trawma ar draws holl safleoedd y coleg
- Cymorth wedi’i deilwra ar gyfer pontio i mewn ac allan o’r coleg
- Hybiau Llesiant a hybiau dros dro ar draws ein safleoedd sy’n darparu lleoliadau diogel, tawel i chi ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau meddwlgarwch
- Cymorth gan ein Hanogwyr Gwydnwch a Chymorthyddion Llesiant i helpu i nodi a goresgyn rhwystrau i ddysgu
- Cwnsela wyneb yn wyneb
- Gweithgareddau iechyd meddwl a llesiant trwy gydol y flwyddyn
- Sesiynau a chymorth iechyd meddwl a llesiant 1:1, wedi’u teilwra’n arbennig i ddiwallu’ch anghenion a’ch helpu i lwyddo
- Cymorth i oresgyn gorbryder yn ymwneud â chymdeithasu, mynd i’r coleg neu deithio i’r coleg
- Gwaith aml-asiantaeth gan gynnwys cyfeiriadau a chyfeirio cymdeithasol.
Rydym yn goleg arloesol am ymgorffori dulliau sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru.
Rydym wedi cyfrannu at Fframwaith Cymru Sy’n Ystyriol o Drawma ac yn ei ddilyn gan gydweithio gyda Hyb ACE Cymru, gwasanaethau cymorth ehangach a sefydliadau addysgol eraill.
Ar hyn o bryd rydym yn hyfforddi ein holl staff ar draws y Coleg i fod yn ystyriol o drawma ac yn dechrau’r broses o adolygu prosesau a pholisïau wrth sicrhau bod ein diwylliant a’n iaith yn ystyriol o drawma er mwyn cynorthwyo ein staff a’n dysgwyr llawn amser a rhan-amser.
Rydym yn adfyfyrio ar ein cyfeiriad strategol a’n gwerthoedd Coleg ein hunain a sut rydym yn alinio’r rhain â bod yn gynhwysol ac yn wybodus ystyriol o drawma.
Rydym yn dilyn 5 egwyddor lleoliad sy’n ystyriol o drawma:
- Dull cyffredinol nad yw’n gwneud unrhyw niwed
- Canolbwyntio ar y person
- Canolbwyntio ar y berthynas
- Canolbwyntio ar wytnwch a chryfder
- Cynhwysol
Rydym yn adnabod y gallwn wneud hyn wrth:
- Ymgorffori diogelwch
- Grymuso (llais a dewis)
- Ymddiriedaeth (a thryloywder)
- Mynd i’r afael â materion hanesyddol, rhywedd, diwylliannol a materion ehangach
- Cymorth cyfoedion
- Cydweithio a chydymddibyniaeth
Am ragor o wybodaeth ar y fframwaith ar gyfer Cymru Sy’n Ystyriol o Drawma ewch i: https://hybacecymru.com/
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost atom neu ffoniwch.
Mae pob croeso i chi gysylltu a ni drwy anfon e-bost at llesiant@cambria.ac.uk am unrhyw ymholiadau.
*Ar gyfer prentisiaid a dysgwyr yn y gwaith gallwn hefyd gynnig apwyntiadau ar-lein, y tu allan i oriau neu oddi ar y safle.
Efallai nad yw Caplaniaeth yn air cyfarwydd i bawb, ond mae’n syml iawn. Mae Caplaniaeth yn bodoli i helpu staff a myfyrwyr deimlo’n gysylltiedig a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi yng nghymuned y coleg. Mae Caplaniaeth yn cydweithio â’r timau cymorth i helpu gwneud Coleg Cambria yn lle cefnogol a chynhwysol i ddysgu a gweithio. Rydym yn chwilio am syniadau ac awgrymiadau gennych chi bob amser am bethau y gallwn ni eu gwneud yn well, neu feysydd yr hoffech chi i’r Gaplaniaeth eu harchwilio.
Rydym yn cynnig llawer o wahanol brosiectau a chymorth gan gynnwys:
- Llesiant Ysbrydol – Gweithdai a digwyddiadau yn edrych ar ysbrydolrwydd a hunaniaeth
- Byw yn y Gwyllt – Archwilio ysbrydolrwydd trwy sgiliau coedwig a chyfarfyddiadau natur
- Ymwybyddiaeth Aml-Ffydd – Gweithdai ac adnoddau rhyngweithiol ar holl grefyddau mawr y byd, gan gynnwys digwyddiadau i nodi gwyliau crefyddol a diwrnodau byd arwyddocaol o Pride i Ddiwrnod Cofio’r Holocost.
- Cymorth Ffydd – Gan gynnwys cyngor arbenigol, ystafelloedd gweddïo a chymorth gweddïo, cymorth argyfwng ffydd a rhagor.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Gwasanaethau Myfyrwyr neu anfonwch e-bost atom ni
Yma yng Ngholeg Cambria, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb yn weithredol ac yn dathlu amrywiaeth.
Gyda’n dull cynhwysol a’r cymorth a’r addasiadau sydd ar gael, rydym yn gallu bodloni ystod eang o anghenion.
Mae cymorth cynhwysiant ar gael ar draws pob un o’n pum safle. Bydd ein dull yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol.
Gallwch siarad â ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio. Un ffordd y gallwch siarad â ni yw trwy anfon e-bost at learning.support@cambria.ac.uk.
Mae cymorth cynhwysiant ar gael ar draws pob un o’n pum safle. Bydd ein dull yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol. Gallwch rannu unrhyw un o’ch anghenion cymorth gyda ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio.
Os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol, gall ein tiwtoriaid arbenigol gefnogi eich dysgu annibynnol.
Gallant eich helpu i ddatblygu sgiliau:
- Defnyddio technolegau cynorthwyol
- Strategaethau dysgu effeithiol
- Rheoli amser
- Techneg arholiadau a gorbryder
- Sgiliau trefnu
- A llawer rhagor
Ar gyfer dysgwyr dysgu yn y gwaith a phrentisiaethau gallwn gynnig apwyntiadau ar-lein, tu hwnt i oriau gwaith, neu oddi ar y safle. Cysylltwch â wblsupport@cambria.ac.uk
Mae meddalwedd darllen ac ysgrifennu ar gael i chi pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, ar ba bynnag gwrs y mae ei angen arnoch.
Yn dilyn cyfarfod ac asesiad cychwynnol, gallwn roi adnoddau i chi i gefnogi eich dysgu, megis benthyca:
- Canllawiau a hyfforddiant am ddefnyddio meddalwedd cynorthwyol
- Gliniaduron/Chromebooks o’r llyfrgell
- Dewisiadau allweddell a llygoden eraill os oes angen
- Dyfeisiau chwyddo cludadwy.
Os ydych chi’n ddysgwyr sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol, anghenion corfforol neu feddygol, gallwch wneud cais am Drefniadau Mynediad i Arholiadau.
Mae’r trefniadau hyn yn rhoi mynediad cyfartal i chi i’r arholiadau heb newid gofynion yr asesiad.
Rhai enghreifftiau o drefniadau mynediad i arholiadau yw:
- Amser ychwanegol
- Defnyddio darllenydd
- Defnyddio ysgrifennydd
- Defnyddio prosesydd geiriau
- Troshaenau lliw neu bapur
- Ystafell lai neu ar wahân.
Os ydych chi wedi cael trefniadau mynediad i arholiadau yn y gorffennol, rhannwch y wybodaeth hon gyda ni yn ystod cofrestru.
Bydd angen i chi roi tystiolaeth o’ch anhawster dysgu neu anghenion meddygol i’ch darlithydd ADY arbenigol.
Byddant yn cyfarfod â chi yn ystod eich tymor cyntaf i roi’r trefniadau hyn ar waith, yn unol â chanllawiau’r partneriaid prifysgol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i’r dudalen Cysylltwch â ni i roi eich manylion cyswllt, neu anfonwch e-bost at learning.support@cambria.ac.uk.
Frequently Asked Questions
Letting us know about your individual needs early on means that we can put support in place immediately. You can disclose your needs at any stage of your learning journey.
You can use this software to assist you to read written text, or to type as you speak. It is linked to your college email account and can be accessed remotely from home.
Yes, if you want us to put support and/or exam access arrangements in place at Coleg Cambria.
We only pass the information on if you have given us consent or requested us to do so. For example consent for exam access arrangements. However, it may be a good idea to make other organisations aware of your needs so that relevant support can be put in place.
Specialist lecturers support learners to develop learning independence. We will make contact with you if you have disclosed a Specific Learning Difference (SpLD). You can seek support from us at any time during your learning journey. You can contact us on wblsupport@
Eich Cadw'n Ddiogel
Mae eich diogelwch a’ch llesiant yn y coleg a thu hwnt yn hynod o bwysig i ni pan rydych yn fyfyriwr gyda ni. Rydym am i chi deimlo eich bod yn gallu siarad ag unrhyw aelod o staff os ydych yn teimlo mewn perygl neu os oes gennych chi unrhyw bryderon. Bydd y staff yn eich cynorthwyo chi gan gynnwys cael cymorth gan ein Tîm Diogelu.
Fel coleg mae gennym ddyletswydd i ddiogelu holl blant, bobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o safbwyntiau eithafol, dylanwad grwpiau terfysgol a pheryglon radicaleiddio. Mae ein Strategaeth Prevent yn trafod ein dull a’n cyfrifoldebau. Mae’n canolbwyntio ar addysg, parch a darparu man diogel i fyfyrwyr drafod materion, gofyn cwestiynau a rhannu eu safbwyntiau a’i nod yw helpu bobl i wybod sut i amddiffyn eu hunain.
Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’r Tîm Diogelu ar 0300 30 30 009, anfonwch e-bost at Safeguarding@cambria.ac.uk neu dewch draw i Gwasanaethau Myfyrwyr.
Os oes angen cymorth arnoch, gallwch gysylltu â ni yma:
Cysylltwch â ni
0300 30 30 009
Yng Ngholeg Cambria rydym yn deall pwysigrwydd gweithio’n weithredol er mwyn gwneud ein coleg yn lle cynhwysol, cydradd a chefnogol i bawb. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cymuned amrywiol o ddysgwyr, staff a rhanddeiliaid i sicrhau fod Coleg Cambria yn gynhwysol i bawb. Mae ein Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gael i gynorthwyo ein staff a’n dysgwyr gydag unrhyw beth sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn ffynnu yma.
Ni waeth pwy ydych chi a beth yw eich nodweddion, rydych chi’n haeddu cael eich trin â pharch, cael cyfleoedd teg wedi’u teilwra a chael eich dathlu am fod yn chi. Ni waeth beth fo’ch hil, crefydd, hunaniaeth rhywedd, oedran, rhywedd, anabledd, dosbarth, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, rydych yn aelod cyfartal, gwerthfawr o’n cymuned.
Rydym wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau yn barhaus i fod yn gynhwysol i bawb. Rydym yn disgwyl i bob aelod o gymuned Coleg Cambria gael eu trin â pharch, ac i drin eraill â pharch. Gweler isod rai o’r ffyrdd y mae staff a myfyrwyr Coleg Cambria yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu
Parchu a dathlu pob cefndir a diwylliant
Ddim yn goddef bwlio nac aflonyddu o gwbl
Trin pawb yn gyfartal ac yn deg
Sicrhau bod dysgu ar gael i bawb
Herio rhagfarn
Yr hyn rydym yn gweithio arno
Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n barhaus tuag at wneud Coleg Cambria y lle mwyaf cynhwysol a chyfartal i bawb. Mae’r dogfennau isod yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gwneud hynny, a’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn.
Cysylltwch
Os hoffech unrhyw gefnogaeth, i gymryd rhan, neu i ddysgu rhagor am gydraddoldeb ac amrywiaeth yng Ngholeg Cambria, cysylltwch â ni equalityanddiversity@cambria.ac.uk
Coleg Cambria yn Hyrwyddo Gwerthoedd Prydeinig
Mae gwerthoedd gorau Prydeinig yn sail i’r holl addysg a’r gweithgareddau yng Ngholeg Cambria. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod pob dysgwr yn deall gwerthoedd Prydain a nodir yn Strategaeth Prevent y Llywodraeth.
Democratiaeth
Rheol Gyfreithiol
Rhyddid yr Unigolyn
Parchu Pawb
Goddefgarwch crefyddau a chredoau
Mae ein gwerthoedd yn cynnwys ‘annog a dathlu amrywiaeth’ ac i ‘barchu eraill a’n hamgylchedd’. Mae’r coleg yn ‘fuddsoddwr amrywiaeth’ ac rydyn ni’n annog goddefgarwch crefyddau a chredoau gwahanol yn weithredol drwy ein gwasanaethau caplaniaeth, y system fugeiliol, gweithgareddau’r coleg a phwyllgor cydraddoldeb ac amrywiaeth gweithgar iawn.