Mae Coleg Cambria Iâl yn Wrecsam yn cynnal Cynhadledd Pobi Cymru 2025 ar ddydd Mercher, 26 Chwefror o 10am-3pm.
Bydd adeilad Hafod yn croesawu’r goreuon o’r diwydiant ar gyfer arddangosfa undydd a fydd yn cynnwys stondinau gan fasnachwyr, cyfleoedd i rwydweithio a siaradwyr gwâdd.
Yn eu plith y bydd Simon Penson o ADM Milling yn trafod Ffermio Adfywiol a’i Fuddion; Matt Loughrey o The Burnt Chef Project ar Gymorth Iechyd Meddwl yn y Diwydiant Bwyd a Terry Fennel, Prif Weithredwr y corff dyfarnu FDQ ar Brentisiaethau Pobi yng Nghymru – Nodweddion, Buddion a Mentrau.
Meddai Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria: “Mae arbenigwyr pobi yn dod o bob cwr o’r wlad i’r gynhadledd felly mae’n gyfle na ellir ei golli i’r sector pobi yng Nghymru i gyfathrebu, cydweithio a thyfu.
“Os ydych yn gyflenwr rhanbarthol neu’n wneuthurwr anferth; yn fecws bychan neu arbenigwr yn y diwydiant; mae’r digwyddiad hwn yn addas i fusnesau o bob maint.”
Ychwanegodd: “Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal cynhadledd ac mae’n fraint ac anrhydedd mawr i ni. Mae llefydd yn brin felly brysiwch i archebu eich lle!”
Daw’r newyddion wedi’i Naomi Spaven, prif bobydd a chogydd patisserie Becws Iâl Cambria gael ei henwi fel Seren Newydd Gwobrau’r Diwydiant Pobi y llynedd.
Mae Naomi a’r pobydd a chogydd crwst, Ella Muddiman – cydweithwraig a chafodd ei henwebu yn yr un categori – wedi denu cwsmeriaid newydd i’r sefydliad yn Hafod gyda’u dewis blasus o gacennau, bara, bisgedi a llawer mwy dros y 12 mis diwethaf.
Mae’n bosib cofrestru eich lle am ddim yng Nghynhadledd Pobi Cymru trwy fynd ar Tocynnau CYNHADLEDD POBI CYMRU 2025, dydd Mercher, Chwefror 26, 2025 am 10:00 AM | Eventbrite.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan a thrwy eu dilyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol Bwyty Iâl | Bwyty Ciniawa Cyfoes yng Nghanol Tref Wrecsam a Becws Iâl .