Ac unwaith eto enillodd y coleg – sydd wedi’i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain a Llysfasi – fedalau a chafodd ganmoliaeth uchel mewn llu o gategorïau, gan gynnwys:
Weldio: Zac Winn (Aur)
Cynnal a Chadw Awyrennau: Robert Jones (Arian), Aiden Williams (Efydd), a James Prescott (Canmoliaeth Uchel)
Gwneuthurwr Metel: Mark Wright (Arian), Jimmy Smith (Efydd)
Therapydd Harddwch: Darcy Watson (Arian), Lilia Jones (Canmoliaeth Uchel)
Melino CNC: Tomas Ankers (Canmoliaeth Uchel)
Roedd yn ddychweliad anhygoel i’r grŵp o 17 wrth i fwy na 400 o gystadleuwyr y rownd derfynol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig gystadlu mewn 40 categori sgiliau.
Dywedodd Robert Jones Arweinydd Cystadlaethau Sgiliau Cambria ei fod yn “hynod falch” o’r tîm, gan ychwanegu: “Roedden nhw i gyd yn anhygoel ac wedi perfformio mor dda dan bwysau, gan ddangos ymroddiad, sgil ac angerdd am eu gwaith.
“Fel coleg, rydyn ni’n cael ein hadnabod am ddatblygu doniau ifanc mewn partneriaeth ag arweinwyr diwydiant o ledled gogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt, ac nid oedd eleni yn wahanol.
“Diolch yn fawr a llongyfarchiadau i bob un ohonyn nhw, ac i’r darlithwyr a’r staff sydd wedi gweithio’n galed iawn i’w cael nhw yma, a’r mentoriaid, y swyddogion hyfforddiant a’r beirniad hynny – yn enwedig Jamie Mapp-Jones, Rosie Boddy, Caleb Maxfield, Adam Youens, Tony Commins a Ruth Payton – sydd hefyd wedi cynrychioli Coleg Cambria ar y llwyfan cenedlaethol.”
Cynhaliwyd rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn colegau, darparwyr hyfforddiant annibynnol a phrifysgolion ar draws Manceinion Fwyaf, gan gynnwys Bolton, Rochdale, Wigan & Leigh, ac Oldham.
Y dysgwyr a’r prentisiaid eraill a oedd yn cynrychioli Cambria a chyflogwyr lleol yn falch Kleo Pepa, Kieran O’ Loan, Hannah Back (i gyd o Airbus UK/Coleg Cambria), Jamie Duncan, Stephen Jackson, Michael Lewis, Lewis Higgins, a Bartosz Dobrzynski.
Fe wnaeth y Gweinidog Sgiliau Jacqui Smith longyfarch pawb a gymerodd ran yng “nghystadleuaeth ysblennydd” eleni.
“Mae pob un ohonoch chi wedi dangos dawn aruthrol ac addewid o’n gweithlu yn y dyfodol,” meddai.
“Mae cystadlaethau fel WorldSkills UK mor bwysig wrth feithrin doniau, gan roi llwyfan hanfodol i bobl ifanc ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fanteisio ar gyfleoedd a thyfu.”
Ychwanegodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau I enillwyr medalau eleni. Mae cael eich galw y gorau yn eich sgil yn gyflawniad aruthrol ac yn adlewyrchu ymroddiad athrawon yn ein colegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant, sef sylfaen ein systemau sgiliau ar draws y Deyrnas Unedig.”
Ewch i www.worldskillsuk.org i ddysgu rhagor am WorldSkills UK.
Am ragor o newyddion a gwybodaeth am Goleg Coleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.