Datganiad Swyddogol

Rydym yn cydymdeimlo â’r Teulu Brenhinol heddiw yn dilyn y newyddion trist dros ben bod Ei Huchelder y Frenhines Elizabeth II wedi marw yn 96 oed. Mae hi wedi bod yn rhan o fywyd pob unigolyn yn y coleg trwy gydol ein hoes.

Mae hi wedi cynrychioli gwaith caled, ymrwymiad ac ymroddiad, gan dderbyn nad oedd bob amser yn gwneud pethau’n iawn ond yn ein dysgu i ddysgu o’n gweithredoedd a gwneud newidiadau. Mae hi wedi treulio ei hoes yn hyrwyddo ac yn gweithio i’r Deyrnas Unedig ac mae ein dyled iddi’n fawr.

Bydd yn newid i ni i gyd a bydd yn effeithio arnom ni i gyd.

Bydd y coleg yn parhau i fod ar agor ond byddwn wrth law i gynnig cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sydd ei angen. Bydd Wal Goffa ym mhob safle ar gyfer y rhai sy’n dymuno ysgrifennu rhywbeth.

Byddwn wrth gwrs yn parhau i gyfathrebu beth a sut y bydd y coleg yn ymateb ac yn cefnogi datblygiadau’r wythnosau nesaf.