Background Splash

Gan Alex Stockton

CUC Graduation

Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghanolfan gynadledda Glanrafon y coleg yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, a’i fynychu gan 33 o fyfyrwyr oedd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol.

Ymunwyd â nhw gan ddarlithwyr, ffrindiau a theulu â nhw, a’u croesawu gan Emma Hurst, Deon Addysg Uwch a Mynediad i Addysg Uwch, ynghyd ag Arweinydd y Rhaglen TAR Gary Wyn Jones a’r Pennaeth Sue Price.

“Mae’n bleser mawr gen i’ch croesawu chi i gyd yma’r prynhawn yma i’n digwyddiad Dathlu Canolfan Brifysgol Cambria,” meddai Mrs Price.

“Llongyfarchiadau i bawb ar eich llwyddiant, a diolch yn fawr iawn i’r teuluoedd a’r ffrindiau wnaeth eich cefnogi chi ar eich taith.

“Dyma’r ffordd berffaith i’ch helpu chi i ddathlu eich llwyddiannau, gobeithio y cewch chi amser bendigedig.”

Ychwanegodd Mrs Hurst: “Mae’n rhaid bod heddiw yn ddiwrnod balch iawn, ac rydyn ni’n rhannu’r balchder hwnnw gyda chi i gyd.

“Hoffem ddiolch i’n holl staff sydd wedi cefnogi ein dysgwyr ar hyd y ffordd ac i’n llywodraethwyr hefyd.”

Ymhlith y cyrsiau a’r rhaglenni a gynrychiolwyd roedd Rheoli Anifeiliaid; Diploma mewn Rheoli Pobl; Diploma mewn Arwain a Rheoli; Diploma mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli, a’r Diploma mewn Cyfrifeg Broffesiynol.

Dilynwyd y seremoni gan ddiodydd a chanapés ym Mwyty Iâl, ac roedd y bwth tynnu lluniau yn boblogaidd iawn ymhlith yr ymwelwyr oedd yn awyddus i ddal atgofion o’r diwrnod.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Canolfan y Brifysgol Strategaeth Sgiliau Technegol Uwch newydd gyda’r nod o wella mynediad a chyfranogiad, gan annog arloesi a datblygu’r cwricwlwm, a ffurfio partneriaethau o fewn diwydiannau niferus i lenwi bylchau mewn arbenigedd a phrofiad.

Bydd pynciau newydd yn cychwyn o fis Medi ymlaen – ar y cyd â grŵp dysgu Pearson – yn ogystal â phecynnau modiwlaidd, unedol a darpariaeth gyfunol.

Byddant hefyd yn hyrwyddo 2030 Digidol, sgiliau digidol, hyder ac arloesedd mewn addysgu a dysgu; arfogi dysgwyr fel “gweithlu’r dyfodol” sy’n gallu defnyddio technolegau sy’n esblygu’n gyflym i’w llawn botensial, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial (AI).

“Ein gweledigaeth yw cael gwared ar rwystrau i addysg a helpu i uwchsgilio mewn meysydd lle mae galw, wrth dargedu meysydd polisi allweddol gan gynnwys sero net a’r Gymraeg – mae’r strategaeth hon yn sylfaen ar gyfer cyflawni hynny,” meddai Emma.

Am ragor am y seremoni raddio, dilynwch y coleg ar y cyfryngau cymdeithasol a’r hashnod #DathliadCBCC.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools