Er gwaethaf nifer “aruthrol” o gystadleuwyr mae gan y coleg – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Llysfasi, Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain – bedwar cystadleuydd mewn dau gategori yn y rownd derfynol o Wobrau Bwyd a Diod Cymru eleni.
Mae prentisiaid Becws Iâl, Naomi Spaven ac Ella Muddiman, a Belinda Rossouw o Maelor Foods wedi cael eu henwebu ar gyfer yr adran Seren Newydd tra bod Niki Culkin, Rheolwr Ansawdd yn Knolton Farmhouse Cheese yn Wrecsam yn cystadlu am deitl Prentis y Flwyddyn.
Wrth longyfarch y pedair, dywedodd Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith: “Dwi wrth fy modd fod pedair o’n dysgwyr wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Bwyd a Diod Cymru.
“Mae gwaith caled, ymrwymiad a brwdfrydedd y pedair i’w crefft wedi talu ar ei ganfed a dwi mor falch ohonyn nhw.
“Mae cyrraedd y rownd derfynol yn brawf o’u hymrwymiad a’u doniau ac mae’n wych gweld eu hymdrechion yn cael ei gydnabod ar lwyfan mor uchel ei pharch.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu eu llwyddiant – da iawn i bob un ohonoch!”
Ychwanegodd Tracy Bennett, Ysgrifennydd Cwmni Knolton Farmhouse Cheese: “Mae gwybodaeth ac ymrwymiad Niki yn gonglfaen i’n prosesau ansawdd. Dydw i heb gael fy synnu o gwbl bod Niki wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon.
“Rydym wedi gwirioni bod sylw yn cael ei roi i’w sgiliau yn y diwydiant bwyd ehangach ac yn credu bod y gydnabyddiaeth hon yn wirioneddol haeddianol.”
O gynhyrchwyr artisan sy’n creu blasau unigryw i arloeswyr cynaliadwy sy’n creu newidiadau mae’r amrywiaeth ymysg y cystadleuwyr yn y rownd derfynol eleni yn adlewyrchu tirwedd gyfoethog y sector bwyd a diod yng Nghymru.
Mae cyfanswm o 88 o entrepreneuriaid, sefydliadau, prentisiaid a busnesau wedi cyrraedd y rhestr fer ar draws 16 o gategorïau.
Gyda chefnogaeth Castell Howell bydd yr unigolion buddugol yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni i’w chynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar ddydd Iau, 22 Mai.
Meddai Liz Brookes, Cyd-sylfaenydd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru: “Mae pob cystadleuydd yn y rownd derfynol yn cynrychioli’r gorau o Gymru. Eu hangerdd nhw yw’r grym y tu ôl i ddiwydiant sy’n parhau i ffynnu a gwthio’r ffiniau.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r pencampwyr yn eu diwydiant a’r cynhyrchwyr arbennig hyn yn y noson wobrwyo ym mis Mai.”
Ychwanegodd Cadeirydd y Beirniaid, Rhys Iley: “Mae’r brwdfrydedd a’r ymrwymiad amlwg sy’n perthyn i bob cystadleuydd yn gymaint o ysbrydoliaeth.
“Mae’r cynnyrch, straeon ac arloesi anhygoel wedi gwneud y broses rhestr fer yn gyffrous ond hefyd yn her fawr. Mae’n brawf o gryfder a dyfodol ein diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
“Diolch o galon i bawb sydd wedi cystadlu a llongyfarchiadau mawr i’n cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.”
Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth ac i brynu tocynnau i Wobrau Bwyd a Diod Cymru: Hafan – Gwobrau Bwyd a Diod.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.