Daeth y dysgwyr ynghyd yng Nghanolfan Chweched Dosbarth y coleg yng Nghei Conna i ddathlu canlyniadau Safon Uwch eleni.
Ymhlith y rhai a fydd yn symud ymlaen i addysg uwch oedd Rin Sutton, a fydd yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cyflawni A* mewn Mathemateg, a graddau A mewn Bioleg, Cemeg a Bagloriaeth Cymru.
Dywedodd Ruby Wilson mai dewis Cambria oedd y “penderfyniad gorau” yr oedd hi wedi’i wneud ar ôl cyflawni graddau A yn y Gyfraith, Bagloriaeth Cymru a Seicoleg, a B mewn Llenyddiaeth Saesneg.
Mae hi’n bwriadu cychwyn ar radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Leeds, gyda’r nod o fod yn fargyfreithiwr un diwrnod.
“Dod i Chweched Glannau Dyfrdwy oedd y penderfyniad gorau i mi,” meddai Ruby.
“Mae’r gefnogaeth gan y staff a’r anogwyr cynnydd wedi bod yn anhygoel, yn ogystal â’r cyfle i astudio Safon Uwch yn y Gyfraith, a gadarnhaodd fy newis o yrfa – diolch i chi i gyd.”
Yn y cyfamser, cafodd Emma Leach raddau B mewn Bioleg a Chemeg, ac C mewn Mathemateg, a enillodd le iddi ym Mhrifysgol Nottingham, lle bydd yn astudio Meddygaeth a Llawfeddygaeth Milfeddygol.
Mwynhaodd Emma ei chyfnod yng Ngholeg Cambria – yn enwedig yr “amgylchedd cefnogol a hapus” – a ategwyd gan Harley Noble, na allai “fod wedi gofyn am chweched dosbarth a gofalwyr gwell”.
Bydd Harley yn mynd i Brifysgol Edge Hill ar ôl ennill B ym Magloriaeth Cymru, C mewn Busnes, a graddau D Cyfrifiadureg, a’r Cyfryngau.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Safon Uwch a BTEC a’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf o Goleg Cambria.