Bu mwy na 500 o bobl ifanc o ysgolion a cholegau ar draws Gogledd Cymru yn archwilio gyrfaoedd mewn Nyrsio, Perthynol i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Wrecsam, mewn partneriaeth â Choleg Cambria.
Daeth dysgwyr o bob rhan o’r rhanbarth digwyddiad Arwyr Gofal Iechyd y Dyfodol, a gynhaliwyd yr wythnos hon, i gael cipolwg ar rolau amrywiol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a pha gyfleoedd gyrfa fydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
Roedd y diwrnod yn cynnwys cyfres o sgyrsiau gan academyddion ar y rhaglenni gradd amrywiol a gynigiwyd ym Mhrifysgol Wrecsam – ac roedd rhai ohonynt yn cynnwys Nyrsio, Therapi Lleferydd ac Iaith, Gwyddor Parafeddygon, a Maeth a Dieteteg.
Roedd yna hefyd lu o weithgareddau ymarferol gan gynnwys sesiynau ar gynnal bywyd sylfaenol, rheoli llwybr anadlu, sgiliau clinigol a myfyrwyr yn treialu clustffonau rhith-realiti a sbectol nam ar eu golwg.
Daeth y diwrnod i ben gyda ffair yrfaoedd, yn cynnwys mwy nag 20 o sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth yn y sector yn lleol, gan gynnwys Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), WeCare Wales, Save a Life Cymru, Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt, a mwy.
Meddai Dr Caroline Hughes, Deon Cyswllt Ymgysylltu â Myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam: “Roeddem wrth ein bodd yn cynnal Arwyr Gofal Iechyd y Dyfodol eleni, yma ym Mhrifysgol Wrecsam, mewn partneriaeth â Choleg Cambria.
“Roedd yn wych croesawu cannoedd o bobl ifanc ar y campws, a oedd yn gallu clywed am y cyfleoedd niferus ac amrywiol sydd ar gael ym maes iechyd a gofal cymdeithasol – y gallai llawer ohonynt fod yn genhedlaeth nesaf o arwyr gofal iechyd ein rhanbarth.
“Ein prif nod yn y digwyddiad oedd ysbrydoli ond hefyd cael gwared ar rwystrau i’r bobl ifanc hynny, a thynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa gwerth chweil a hollbwysig hyn, wrth fynd o flaen darpar gyflogwyr y dyfodol.”
Meddai Steven Peacock, Is-Bennaeth Astudiaethau Academaidd yn Coleg Cambria: “Wrth adeiladu ar lwyddiant rhaglen Arwyr Gofal Iechyd y Dyfodol y llynedd, roedd Coleg Cambria yn falch o weithio unwaith eto ar y cyd â Phrifysgol Wrecsam ar y digwyddiad hwn.
“Fe wnaethom groesawu dysgwyr o ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth a myfyrwyr coleg i gwrdd ag ystod eang o gyflogwyr o’r sector gofal iechyd, i ddysgu mwy am y cyfoeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael.”
Ychwanegodd Rosie Kingscott, myfyriwr Blwyddyn 13 yn Ysgol Eirias ym Mae Colwyn: “Roedd yn ddiwrnod gwych. Mae digwyddiadau fel y rhain yn hollbwysig oherwydd maen nhw wedi ehangu fy nealltwriaeth o agweddau ymarferol Therapi Galwedigaethol, sef y llwybr gyrfa rydw i eisiau mynd i lawr.”