Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

MeganLeeLLYSFASI2

Roedd Megan Lee yn arwain y digwyddiad Culture Collective diweddaraf a gynhaliwyd yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ger Rhuthun.

Yn raddedig o Cambria Iâl, dechreuodd Megan berfformio yn 11 oed gyda’i theulu ac erbyn hyn mae’n aml-offerynnwr medrus a fydd yn ymddangos mewn gwyliau mawr yr haf nesaf, gan gynnwys Roadhouse Weekender ac In It Together.

Ymunodd â myfyrwyr a staff am noson o gerddoriaeth, bwyd ac iaith, yn dilyn y newyddion bod ei halbwm Origin wedi cael ei enwebu am Wobr CMA (Country Music Association) Prydain.

Mae’r Culture Collective wedi mynd o nerth i nerth, ac mae’r trefnwyr Tim Feak, Prif Gaplan y coleg, a Judith Alexander, Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, yn dweud bod ganddyn nhw fwy fyth ar y gweill yn y misoedd sydd i ddod.

Meddai Judith: “Rydym wedi ymrwymo i wella rhagor ar ein cyflawniadau blaenorol a’n mentrau dan arweiniad myfyrwyr, gyda phwyslais ychwanegol ar ddathlu diwylliant Cymru.

“Mae’r ffocws hwn yn cydnabod yr Eisteddfod Genedlaethol, yr ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, a fydd yn cael ei chynnal yn Wrecsam fis Awst nesaf.

“Mae Megan yn ymgorffori ysbryd entrepreneur ifanc o Gymru, gan ddilyn ei breuddwydion gydag angerdd wrth iddi greu ei llwybr gyrfa ei hun. Mae hi i bob pwrpas yn defnyddio ei sgiliau Cymraeg i dynnu sylw at draddodiad cyfoethog ysgrifennu a pherfformio caneuon Cymraeg – roedd hi’n bleser ei chael hi gyda ni.”

Dyluniodd y cogydd Gavin Williams wledd thema Gymreig o stiw Cig Oen Cymru, stwnsh a dipwyr caws pob Cymreig gyda bara brith cartref i bwdin, a mwynhaodd y dysgwyr ddetholiad o ganeuon a gweithgareddau ar y noson.

Ychwanegodd Tim: “Mae wedi bod yn wych gweld y Culture Collective yn tyfu dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd yn hwyl cychwyn y rhaglen eleni gyda bwyd blasus a cherddoriaeth wych.

“Mae ‘na gymaint o ddyfnder a chyfoeth yng Nghymru o ran bwyd, diwylliant a’r celfyddydau ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig ar gyfer y digwyddiadau hyn.”

Am restr lawn o ddigwyddiadau, anfonwch e-bost at judith.alexander@cambria.ac.uk or tim.feak@cambria.ac.uk.

Ewch www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost