Dywedodd y Prif Weithredwr, Yana Williams, fod ffigurau cyffredinol gan gynnwys graddau A*-C yn “wych” a thynnodd sylw at wytnwch dysgwyr wrth bontio’n llwyddiannus o’r ysgol uwchradd i’r coleg yn ystod y cyfnod clo a mynd ymlaen i gwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus.
“Rydyn ni’n falch iawn o’r myfyrwyr, maen nhw wedi llwyddo i oresgyn heriau’r blynyddoedd diwethaf ac unwaith eto maen nhw wedi dangos gwaith caled a’u bod wedi canolbwyntio er mwyn gwneud eu gorau glas, gyda chefnogaeth ein staff a’n tiwtoriaid rhagorol,” meddai Ms Williams.
“Maen nhw wedi dangos cryfder ac wedi llwyddo i sicrhau canlyniadau eithriadol ac ysbrydoledig yn gyffredinol.
“Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw a dwi’n gobeithio y byddan nhw’n mynd ymlaen i fyw bywydau llawn a hapus, yn bersonol ac yn broffesiynol – mi fyddan nhw’n rhan o gymuned Cambria am byth.”
Gwnaeth y Pennaeth Sue Price longyfarch pawb am gael eu graddau heddiw (dydd Iau) a dywedodd eu bod yn edrych ymlaen at groesawu’r criw nesaf o ddysgwyr i Lannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi a Wrecsam yn dilyn canlyniadau TGAU yr wythnos nesaf.
“Mae’r myfyrwyr wedi gwneud yn wych eleni, ac maen nhw’n glod i Goleg Cambria,” meddai Mrs Price.
“Wrth i ni adfyfyrio ar gyflawniadau ein grwpiau Safon Uwch – sydd wedi bod yn fendigedig – rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at y misoedd nesaf a’r disgyblion a fydd yn ymuno â ni o ysgolion ar draws y rhanbarth.
“Ar ran pawb yn Cambria hoffwn ddiolch i’r myfyrwyr, eu teuluoedd a’n cymuned am eu cefnogaeth a da iawn chi unwaith eto ar ganlyniad mor anhygoel er gwaethaf yr holl rwystrau – rydyn ni’n falch ohonoch chi i gyd.”