Home > Eich Cynorthwyo Chi > Cymorth i Fyfyrwyr > Cymorth i Fyfyrwyr
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi ein holl fyfyrwyr lle bynnag y gallwn. Mae dod i’r coleg yn newid mawr, p’un a ydych yn ymuno â ni yn syth o’r ysgol neu’n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant. Mae ein Timau Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’u lleoli ar holl safleoedd y coleg a byddant yn eich cefnogi chi ar hyd eich taith yn y coleg, gan gynnwys darparu cymorth ar faterion personol ac ariannol, a rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyrsiau a chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein myfyrwyr yn wynebu llawer o heriau gan gynnwys bod yn ofalwr, gofalwr ifanc neu blentyn sy’n cael gofal. Rydym yn deall y gall hyn effeithio ar eich profiad yn y coleg, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi mewn unrhyw ffordd posibl. Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth arnoch, mae pob croeso i chi ffonio’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 303 0007 neu anfon e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.
Mae’r llyfrgelloedd ar safleoedd y coleg ac maent yn lle gwych i ddod a bod yn rhan o fywyd y coleg.
Siaradwch â’n tîm cyfeillgar am sut y gallwn eich cefnogi chi gyda’ch astudiaethau.
Mae gennym ystod wych o adnoddau i’ch helpu gyda gwaith cwrs.
Mae’r rhain yn ystyried eich dewis a’ch dull dysgu eich hun a gellir eu defnyddio yn y coleg neu wrth astudio gartref.
Os yw’n well gennych chi gael print mae gennym ystod ardderchog o lyfrau sy’n cefnogi eich cwrs.
Mae ein casgliad digidol yn cynnig platfformau fideo o ansawdd uchel i wella eich gwybodaeth ac mae gennym un o’r casgliadau e-lyfrau sy’n cael ei ddefnyddio amlaf a’r un mwyaf yng Nghymru! Mae ein llyfrgelloedd yn groesawgar, cynhwysol ac wedi’u dylunio i weddu eich anghenion.
Mae gennym ddigon o gyfrifiaduron a Chromebooks ar gael i chi eu defnyddio a gallwch chi fenthyg Chromebooks i astudio gartref.
Os mae angen cymorth arnoch chi gyda’ch gwaith cwrs, aseiniadau, arholiadau neu, rydych yn cael trafferth i fodloni terfynau amser ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch chi gallwn gynnig awgrymiadau defnyddiol ar sut i gynllunio a chadw mewn rheolaeth.
Mae gennym dîm o hwyluswyr sgiliau a allai gael cyfarfod un i un gyda chi i drafod strategaethau i lwyddo. Dyma rai o’r pynciau y gallwn ni roi cymorth i chi arnynt:
Fideos Defnyddiol
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn rhoi cymorth i ddarpar fyfyrwyr ar ddewis y cwrs cywir yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad ar ddatblygu eich gyrfa a chynllunio eich cam nesaf ar ôl coleg – boed hynny’n cael swydd neu brentisiaeth neu fynd i’r brifysgol. Ni yw eich porth i gael gwybod am wahanol yrfaoedd a chyfleoedd yn y byd gwaith.
Gallwn eich helpu gyda:
Mae ein Anogwyr Cyflogadwyedd Siop Swyddi yn cefnogi ein myfyrwyr gyda:
Mae Anogwyr Cynnydd yn cefnogi’r holl fyfyrwyr llawn amser i gyflawni a datblygu sgiliau personol tu hwnt i’w cymhwyster. Mae Anogwyr Cynnydd yn cyflwyno ein rhaglen hyfforddi MADE Cynyddu Cyflawniad a Datblygu Pawb.
Bydd ein hanogwyr cynnydd wrth eich ochr yn eich helpu drwy gydol eich taith coleg, gan roi cymorth i;
Yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau dwyieithog a fydd yn arwain at yrfa a bywyd llwyddiannus.
Mae dwyieithrwydd yn agor drysau i chi yn y byd gwaith ac yn cynyddu eich cyflogadwyedd. Gall gyfoethogi eich bywyd cymdeithasol a gwella eich meddwl a’ch creadigrwydd hefyd.
Os ydych chi wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol, gallwch chi barhau i wneud hynny yng Ngholeg Cambria.
Mae llawer o’n cyrsiau’n cael eu cyflwyno’n ddwyieithog a gallant roi’r cyfle i chi barhau i ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallwch chi wneud y canlynol yn Gymraeg:
Os nad oes gennych chi sgiliau Cymraeg neu os hoffech chi ddatblygu eich sgiliau, mae llu o gyfleoedd i chi wella a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich maes pwnc.
Gallwch chi wneud y canlynol:
Os hoffech chi astudio yn Gymraeg neu ddatblygu eich sgiliau, gall ein tîm Cymraeg eich cefnogi chi wrth gynnig mentora ac arweiniad 1-1 i chi. Gallant eich helpu chi i wella eich sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a gallant gyfieithu terminoleg a thermau technegol.
Mae gennym ystod o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol ar gael i chi eu mwynhau o wyliau Cymraeg i deithiau dros nos.
Mae ein Swyddog Cangen Cymraeg yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol ar bob safle ac yn cadw mewn cysylltiad trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
I wneud ymholiad am ddysgu yn Gymraeg, llenwch y ffurflen isod.
"*" indicates required fields
Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn ymdrechu i gynorthwyo ac addysgu dysgwyr am eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Trwy gyflwyno technegau iach sy’n cynorthwyo ein llesiant i’n trefn bob dydd, y mwyaf gwydn y gallwn ei deimlo.
Rydym yn gwybod y gall iechyd meddwl a llesiant gael effaith sylweddol ar eich profiad yn y coleg. Mae ein Tîm Iechyd Meddwl a Llesiant yn angerddol am ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau gorau sy’n hybu eich llesiant ac iechyd meddwl da.
Mae hyn yn cynnwys;
Rydym yn goleg arloesol am ymgorffori dulliau sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru.
Rydym wedi cyfrannu at Fframwaith Cymru Sy’n Ystyriol o Drawma ac yn ei ddilyn gan gydweithio gyda Hyb ACE Cymru, gwasanaethau cymorth ehangach a sefydliadau addysgol eraill.
Ar hyn o bryd rydym yn hyfforddi ein holl staff ar draws y Coleg i fod yn ystyriol o drawma ac yn dechrau’r broses o adolygu prosesau a pholisïau wrth sicrhau bod ein diwylliant a’n iaith yn ystyriol o drawma er mwyn cynorthwyo ein staff a’n dysgwyr llawn amser a rhan-amser.
Rydym yn adfyfyrio ar ein cyfeiriad strategol a’n gwerthoedd Coleg ein hunain a sut rydym yn alinio’r rhain â bod yn gynhwysol ac yn wybodus ystyriol o drawma.
Rydym yn dilyn 5 egwyddor lleoliad sy’n ystyriol o drawma:
Rydym yn adnabod y gallwn wneud hyn wrth:
Am ragor o wybodaeth ar y fframwaith ar gyfer Cymru Sy’n Ystyriol o Drawma ewch i: https://hybacecymru.com/
Mae pob croeso i chi gysylltu a ni drwy anfon e-bost at llesiant@cambria.ac.uk am unrhyw ymholiadau.
*Ar gyfer prentisiaid a dysgwyr yn y gwaith gallwn hefyd gynnig apwyntiadau ar-lein, y tu allan i oriau neu oddi ar y safle.
Efallai nad yw Caplaniaeth yn air cyfarwydd i bawb, ond mae’n syml iawn. Mae Caplaniaeth yn bodoli i helpu staff a myfyrwyr deimlo’n gysylltiedig a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi yng nghymuned y coleg. Mae Caplaniaeth yn cydweithio â’r timau cymorth i helpu gwneud Coleg Cambria yn lle cefnogol a chynhwysol i ddysgu a gweithio. Rydym yn chwilio am syniadau ac awgrymiadau gennych chi bob amser am bethau y gallwn ni eu gwneud yn well, neu feysydd yr hoffech chi i’r Gaplaniaeth eu harchwilio.
Rydym yn cynnig llawer o wahanol brosiectau a chymorth gan gynnwys:
Os fyddwch chi’n ymuno â ni fel myfyriwr llawn amser, mae digonedd o gymorth ar gael i chi. Bydd yr ystod o gymorth ariannol yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ble byddwch chi’n astudio.
Mae’r Lwfans Cynnal Addysg (LCA) Cymru ar gael i chi os ydych yn fyfyriwr llawn amser 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru. Os ydych yn gymwys byddwch yn cael lwfans o £40 yr wythnos.
Cyn i chi wneud cais ar gyfer y LCA mae ychydig o bethau y bydd angen i chi wirio i sicrhau eich bod yn gymwys, fel:
Gwnewch gais drwy becyn gwneud cais sydd i’w gael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu drwy lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gael i chi os ydych yn fyfyriwr 19 oed neu’n hŷn ac ar gwrs llawn amser neu ran amser dros 275 awr y flwyddyn ac rydych chi’n byw yng Nghymru. Mae’n grant o hyd at £1,500 sydd wedi’i asesu ar incwm, ac sydd â’r nod o’ch annog chi i barhau gyda’ch addysg, ble na allai hyn fod yn bosibl fel arall. Gwnewch gais drwy becyn gwneud cais sydd i’w gael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu drwy lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gael i chi os ydych yn fyfyriwr llawn amser neu ran amser sy’n 16 oed neu’n hŷn, ac sydd ag anawsterau wrth gwblhau eich cwrs oherwydd heriau ariannol. Gall yr arian eich helpu gyda chostau astudio fel gofal plant neu gyfarpar.
I fod yn gymwys mae angen i chi:
Gwnewch gais drwy gael Ffurflen Gais gan y Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mae gennym ganolfan gofal plant groesawgar a chartrefol yn Cambria, sef Toybox yng Nglannau Dyfrdwy. Gallwn gynnig cymorth ariannol i chi os oes angen. Darllenwch am y feithrinfa a beth allwn ei gynnig i chi a’ch plentyn isod.
Yma ym Meithrinfa Toybox, rydym am wneud yn siŵr eich bod chi a’ch plentyn yn dod i amgylchedd sy’n gynnes a chyfeillgar, a dyna pam rydym yn falch o ddweud ein bod yn cynnig y gofal plant gorau yn y lleoliad harddaf.
Rydym yn darparu ‘gofal addysgol’ i blant rhwng 3 mis a phum mlwydd oed, gyda chymysgedd iach o ddysgu a chwarae. Mae ein cwricwlwm wedi’i adeiladu o amgylch meysydd i gefnogi ac annog llesiant a datblygiad personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol eich plentyn.
Mae gan bob maes o fewn y feithrinfa gwricwlwm i’w ddilyn, sy’n cynnwys datblygu personol a chymdeithasol, iaith a llythrennedd, mathemateg, datblygu corfforol a chreadigol.
Mae gennym bum ystafell ar gyfer pum grŵp oedran gwahanol. Mae’r ystafell lindysyn ar gyfer plant 0-12 mis. Mae’n llawn o deganau confensiynol a gweithgareddau cyfannol fel basgedi trysor, swigod, cerddoriaeth a chwarae dŵr i annog y babanod i archwilio a mwynhau eu hamgylchedd dan do ac yn yr awyr agored.
Mae ein hystafell buwch goch gota ar gyfer plant 12-18 mis oed. Yno maent yn cael eu hannog i symud rhagor trwy chwarae meddal, teganau gwthio ymlaen a rhagor.
Caiff y plant yn yr ystafell pili-pala (18 mis oed – 2½ oed) eu hannog i gyfathrebu, chwarae gyda’i gilydd ac i ddod o hyd i’w llais wrth wneud gweithgareddau megis pobi a chwarae â thywod.
Yn yr ystafell gwenyn, mae plant 2½ – 3 oed yn cael ystod eang o gyfleoedd dysgu trwy dywod, chwarae hydrin, llyfrau, chwarae bloc, chwarae archwiliadol, chwarae rôl a symud.
Mae’r plant yn yr ystafell sioncyn y gwair (3-5 oed) yn dilyn Y Cyfnod Sylfaen, sy’n caniatáu i’ch plant fod yn greadigol, yn ddychmygus ac i gael hwyl wrth ddysgu. Mae hyn yn rhoi sgiliau i blant adeiladu arnynt a datblygu yn barod ar gyfer yr ysgol.
Ein horiau agor yw:
Dydd Llun – 8.00am – 5.45pm
Dydd Mawrth – 8.00am – 5.45pm
Dydd Mercher – 8.00am – 5.45pm
Dydd Iau – 8.00am – 5.45pm
Dydd Gwener – 8.00am – 5.45pm
Mae Meithrinfa Toybox ar agor drwy gydol y flwyddyn ac eithrio Gwyliau Banc, ac un wythnos adeg y Nadolig. Sylwer os bydd y feithrinfa ar agor ar Noswyl Nadolig, yr amser cau fydd 1.00pm.
Rydym wedi’n lleoli ar safle Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy. Os oes angen i chi gysylltu â ni ffoniwch 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at toybox@cambria.ac.uk
Nid ydym am i anawsterau ariannol amharu ar eich addysg. Os ydych chi’n astudio’n llawn amser yng Ngholeg Cambria (neu’n dymuno gwneud hynny), os oes gennych chi blant sy’n iau nag oedran ysgol a’ch bod ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at gostau gofal plant.
Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.
Mae eich diogelwch a’ch llesiant yn y coleg a thu hwnt yn hynod o bwysig i ni pan rydych yn fyfyriwr gyda ni. Rydym am i chi deimlo eich bod yn gallu siarad ag unrhyw aelod o staff os ydych yn teimlo mewn perygl neu os oes gennych chi unrhyw bryderon. Bydd y staff yn eich cynorthwyo chi gan gynnwys cael cymorth gan ein Tîm Diogelu.
Fel coleg mae gennym ddyletswydd i ddiogelu holl blant, bobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o safbwyntiau eithafol, dylanwad grwpiau terfysgol a pheryglon radicaleiddio. Mae ein Strategaeth Prevent yn trafod ein dull a’n cyfrifoldebau. Mae’n canolbwyntio ar addysg, parch a darparu man diogel i fyfyrwyr drafod materion, gofyn cwestiynau a rhannu eu safbwyntiau a’i nod yw helpu bobl i wybod sut i amddiffyn eu hunain.
Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’r Tîm Diogelu ar 0300 30 30 009, anfonwch e-bost at Safeguarding@cambria.ac.uk neu dewch draw i Gwasanaethau Myfyrwyr.
0300 30 30 009
Yng Ngholeg Cambria rydym yn deall pwysigrwydd gweithio’n weithredol er mwyn gwneud ein coleg yn lle cynhwysol, cydradd a chefnogol i bawb. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cymuned amrywiol o ddysgwyr, staff a rhanddeiliaid i sicrhau fod Coleg Cambria yn gynhwysol i bawb. Mae ein Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gael i gynorthwyo ein staff a’n dysgwyr gydag unrhyw beth sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn ffynnu yma.
Ni waeth pwy ydych chi a beth yw eich nodweddion, rydych chi’n haeddu cael eich trin â pharch, cael cyfleoedd teg wedi’u teilwra a chael eich dathlu am fod yn chi. Ni waeth beth fo’ch hil, crefydd, hunaniaeth rhywedd, oedran, rhywedd, anabledd, dosbarth, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, rydych yn aelod cyfartal, gwerthfawr o’n cymuned.
Rydym wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau yn barhaus i fod yn gynhwysol i bawb. Rydym yn disgwyl i bob aelod o gymuned Coleg Cambria gael eu trin â pharch, ac i drin eraill â pharch. Gweler isod rai o’r ffyrdd y mae staff a myfyrwyr Coleg Cambria yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu
Parchu a dathlu pob cefndir a diwylliant
Ddim yn goddef bwlio nac aflonyddu o gwbl
Trin pawb yn gyfartal ac yn deg
Sicrhau bod dysgu ar gael i bawb
Herio rhagfarn
Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n barhaus tuag at wneud Coleg Cambria y lle mwyaf cynhwysol a chyfartal i bawb. Mae’r dogfennau isod yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gwneud hynny, a’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn.
Os hoffech unrhyw gefnogaeth, i gymryd rhan, neu i ddysgu rhagor am gydraddoldeb ac amrywiaeth yng Ngholeg Cambria, cysylltwch â ni equalityanddiversity@cambria.ac.uk
Mae gwerthoedd gorau Prydeinig yn sail i’r holl addysg a’r gweithgareddau yng Ngholeg Cambria. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod pob dysgwr yn deall gwerthoedd Prydain a nodir yn Strategaeth Prevent y Llywodraeth.
Democratiaeth
Rheol Gyfreithiol
Rhyddid yr Unigolyn
Parchu Pawb
Goddefgarwch crefyddau a chredoau
Mae ein gwerthoedd yn cynnwys ‘annog a dathlu amrywiaeth’ ac i ‘barchu eraill a’n hamgylchedd’. Mae’r coleg yn ‘fuddsoddwr amrywiaeth’ ac rydyn ni’n annog goddefgarwch crefyddau a chredoau gwahanol yn weithredol drwy ein gwasanaethau caplaniaeth, y system fugeiliol, gweithgareddau’r coleg a phwyllgor cydraddoldeb ac amrywiaeth gweithgar iawn.