Cymorth i Fyfyrwyr

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

a student in Yale speaking with a member of staff in the student services team, showing the full time guide
Myfyrwyr Llawn Amser

Os fyddwch chi’n ymuno â ni fel myfyriwr llawn amser, mae digonedd o gymorth ar gael i chi. Bydd yr ystod o gymorth ariannol yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ble byddwch chi’n astudio.

Beth sydd angen i chi ei wybod
  • Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Cynnal Addysg (LCA).
  • Os ydych chi’n 19 oed neu’n hŷn gallech fod yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
  • Hefyd gallech fod yn gymwys ar gyfer y Gronfa Ariannol Wrth Gefn.

Mae’r Lwfans Cynnal Addysg (LCA) Cymru ar gael i chi os ydych yn fyfyriwr llawn amser 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru. Os ydych yn gymwys byddwch yn cael lwfans o £40 yr wythnos.

Cyn i chi wneud cais ar gyfer y LCA mae ychydig o bethau y bydd angen i chi wirio i sicrhau eich bod yn gymwys, fel:

  • Dyddiad geni – rhaid i chi fod yn 16-18 oed ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs
  • Cwrs – rhaid i chi fod yn astudio mewn ysgol neu goleg ar gwrs ‘cymwys’
  • Incwm y cartref – rhaid i hwn fod yn is na lefel benodol er mwyn cael y LCA
  • Cenedligrwydd a phreswylfa – os ydych chi’n ddinesydd y DU yn byw yng Nghymru, dylech fod yn gymwys am LCA

Gwnewch gais drwy becyn gwneud cais sydd i’w gael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu drwy lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os ydych yn byw y tu allan i Gymru gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyllid yma
Egluro Cyllid Myfyrwyr
Sut i wneud cais am Gyllid Myfyrwyr
Gofal plant

Mae gennym ganolfan gofal plant groesawgar a chartrefol yn Cambria, sef Toybox yng Nglannau Dyfrdwy. Gallwn gynnig cymorth ariannol i chi os oes angen. Darllenwch am y feithrinfa a beth allwn ei gynnig i chi a’ch plentyn isod.

Toybox

Yma ym Meithrinfa Toybox, rydym am wneud yn siŵr eich bod chi a’ch plentyn yn dod i amgylchedd sy’n gynnes a chyfeillgar, a dyna pam rydym yn falch o ddweud ein bod yn cynnig y gofal plant gorau yn y lleoliad harddaf.

Rydym yn darparu ‘gofal addysgol’ i blant rhwng 3 mis a phum mlwydd oed, gyda chymysgedd iach o ddysgu a chwarae. Mae ein cwricwlwm wedi’i adeiladu o amgylch meysydd i gefnogi ac annog llesiant a datblygiad personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol eich plentyn.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Mae gan bob maes o fewn y feithrinfa gwricwlwm i’w ddilyn, sy’n cynnwys datblygu personol a chymdeithasol, iaith a llythrennedd, mathemateg, datblygu corfforol a chreadigol.

Mae gennym bum ystafell ar gyfer pum grŵp oedran gwahanol. Mae’r ystafell lindysyn ar gyfer plant 0-12 mis. Mae’n llawn o deganau confensiynol a gweithgareddau cyfannol fel basgedi trysor, swigod, cerddoriaeth a chwarae dŵr i annog y babanod i archwilio a mwynhau eu hamgylchedd dan do ac yn yr awyr agored.

Mae ein hystafell buwch goch gota ar gyfer plant 12-18 mis oed. Yno maent yn cael eu hannog i symud rhagor trwy chwarae meddal, teganau gwthio ymlaen a rhagor.

Caiff y plant yn yr ystafell pili-pala (18 mis oed – 2½ oed) eu hannog i gyfathrebu, chwarae gyda’i gilydd ac i ddod o hyd i’w llais wrth wneud gweithgareddau megis pobi a chwarae â thywod.

Yn yr ystafell gwenyn, mae plant 2½ – 3 oed yn cael ystod eang o gyfleoedd dysgu trwy dywod, chwarae hydrin, llyfrau, chwarae bloc, chwarae archwiliadol, chwarae rôl a symud.

Mae’r plant yn yr ystafell sioncyn y gwair (3-5 oed) yn dilyn Y Cyfnod Sylfaen, sy’n caniatáu i’ch plant fod yn greadigol, yn ddychmygus ac i gael hwyl wrth ddysgu. Mae hyn yn rhoi sgiliau i blant adeiladu arnynt a datblygu yn barod ar gyfer yr ysgol.

Cyllid

Nid ydym am i anawsterau ariannol amharu ar eich addysg. Os ydych chi’n astudio’n llawn amser yng Ngholeg Cambria (neu’n dymuno gwneud hynny), os oes gennych chi blant sy’n iau nag oedran ysgol a’ch bod ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at gostau gofal plant.

Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk am fanylion y Gronfa Cymorth i Ddysgwyr; gallwch wneud cais am gymorth cyn gynted ag y byddwch yn cofrestru ar gwrs amser llawn yng Ngholeg Cambria. Byddwn ni’n gofalu amdanoch chi a’ch plentyn.

Accessibility Tools
SunMonTueWedThuFriSat
303112345678910111213141516171819202122232425262728293012345678910