Home > Eich Cynorthwyo Chi > Siop Swyddi i Fyfyrwyr > Gwybodaeth am y Siop Swyddi
SIOP SWYDDI
Gwybodaeth am y Siop Swyddi
Gwybodaeth am Siop Swyddi Coleg Cambria
Mae Siop Swyddi Cambria ar gael ar holl safleoedd Cambria ac mae’n wasanaeth i gefnogi sgiliau cyflogadwyedd pob myfyriwr yn Cambria. Mae’r “gwasanaeth cyflogadwyedd” yn hanfodol i’n myfyrwyr symud ymlaen i yrfaoedd ar ôl astudio yn Cambria.
Mae’r Siop Swyddi yn cefnogi sesiynau galw heibio a gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau 1-1 am gyngor ar gyfer CV/llythyrau eglurhaol, chwilio am swyddi, prentisiaethau, ffurflenni cais ac awgrymiadau cyfweliad. Mae gweithdai ar gael hefyd ar gyfer sesiynau grŵp.
Mae’r Siop Swyddi yn cynnal sawl digwyddiad gyrfaoedd bob blwyddyn academaidd, gan wahodd cyflogwyr lleol a rhanbarthol i holl safleoedd Cambria. Gall myfyrwyr fynd a chyfarfod cyflogwyr posibl y dyfodol, gan arwain at sawl un ohonynt yn llwyddo i gael profiad gwaith a phrentisiaethau.
Mae cyflogwyr yn hysbysebu swyddi gwag llawn amser a rhan amser, prentisiaethau a gwaith gwirfoddol trwy’r Siop Swyddi. Felly mae’r Siop Swyddi yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd i symud ymlaen; nid yn unig ar gyfer ein myfyrwyr ond i’r gymuned leol a thu hwnt hefyd.
Mae dolenni defnyddiol ar wefan Gyrfaoedd Cymru lle gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor ac arweiniad am chwilio am swyddi, paratoi i wneud ceisiadau swyddi ac ati: https://gyrfacymru.llyw.cymru/.
Dechreuodd y gwasanaeth gwerth ychwanegol hwn ym mis Ebrill 2019 ac mae’n parhau i fod yn rhan hanfodol o gymorth i fyfyrwyr yma yn Cambria. Oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd i bawb; mae’r Siop Swyddi yn bodloni disgwyliadau’r agenda hon yn genedlaethol.
Nid yw byth yn rhy gynnar i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol! Felly edrychwch ar ein porth Siop Swyddi ar y wefan, os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost at jobshop@cambria.ac.uk.
Gyda beth allwn ni helpu?
Paratoi ar gyfer Profiad Gwaith
Darganfod am brentisiaethau a hyfforddiant yn y gwaith
Gwneud cais am swyddi
Dod o hyd i'r swydd iawn i chi
Cyfarfod cyflogwyr i
ddeall pa yrfaoedd
sydd ar gael
Llawer rhagor!
Rhowch hwb i'ch gyrfa: Gwybodaeth Bwysig ac Awgrymiadau
Cwestiynau Cyffredin
Mae sawl ffordd y gallwch ddod o hyd i Brentisiaethau. Mae rhai yn cynnwys:
- Chwilio ar-lein yn eich ardal leol/rhanbarthol
- Mynd i’n tudalen Chwilio am Swydd – https://jobshop.cambria.ac.uk/
- Mynd i dudalen Gyrfaoedd Cymru – https://gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau
- Defnyddio’r Gwasanaeth Dod o hyd i Brentisiaeth Gov.UK – https://www.findapprenticeship.service.gov.uk/apprenticeshipsearch?
I sicrhau cyfweliad – nid yn unig swydd!
Yn ddelfrydol mae angen i CV fod yn ddwy dudalen ar y mwyaf; felly bydd llythyr eglurhaol da yn gwella eich cais ac yn eich galluogi i ddarparu rhagor o wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r swydd.
A yw eich CV yn berthnasol ac wedi’i ddiweddaru ac yn cynnwys manylion cyswllt llawn? Ydych chi wedi cynnwys llythyr eglurhaol?
Os ydyn nhw ac rydych chi’n dal i gael trafferth, dylech gysylltu â’r tîm Siop Swyddi drwy fynd atynt wyneb yn wyneb neu drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Yn sicr, os yw’n berthnasol i’ch maes dewisol. Hyd yn oed os yw’n brofiad gwirfoddol neu’n ddi-dâl oherwydd gall hyn arwain at gyfleoedd gyrfa/prentisiaeth.
Mae’n dibynnu ar y cyflogwr a’r swydd; fodd bynnag cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybodaeth am isafswm cyflog: https://www.gov.uk/government/publications/minimum-wage-rates-for-2023