main logo

City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Parciau, Gerddi a Mannau Gwyrdd)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA11908
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 12 – 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Garddwriaeth a Thirlunio
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno datblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth sgiliau cynhyrchu garddwriaeth i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys arweinydd tîm neu oruchwyliwr mewn:-
● Lledaenu neu gynhyrchu planhigion (meithrinfa)
● Cynhyrchu cnydau bwyd masnachol (Salad, ffrwythau, llysiau)
● Cynnyrch sy’n cael ei gefnogi neu ei rannu gan y gymuned
● Canolfan arddio / man adwerthu
● Cyfanwerthu neu ddosbarthu cnydau
● Cynhyrchu’n organig
● Contractwr yn darparu gwasanaethau i’r sector

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n trefnu, goruchwylio ac adrodd tasgau arferol yn y gweithle ac fe allent ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch gwahanol ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a hyrwyddo sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol, ynghyd â hyrwyddo arfer amgylcheddol da a chyfathrebu yn y gweithle

Gallai’r unedau dewisol gynnwys rai o'r unedau canlynol
● Clirio safleoedd a pharatoi cyfryngau tyfu (gan gynnwys pridd) ar gyfer sefydlu cnydau
● Cynllunio a hwyluso sefydliad cnydau ar gyfer cyfryngau tyfu (gan gynnwys pridd)
● Cynnal tyfiant cnydau i gynnwys defnyddio maethynnau, dŵr, twf cystadleuol a phla a chlefydon.
● Hwyluso cynaeafu, casglu a dosbarthu cynnyrch
● Cynllunio a hwyluso lledaenu drwy ddulliau hadu a thyfiannol i gynnwys casglu deunydd planhigion ac ôl-ofal.
● Trefnu darpariaeth gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid, gwella perthnasau â chwsmeriaid a datrys problemau gwasanaethau i gwsmeriaid
● Paratoi, monitro ac addasu amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau neu blanhigion gwarchodedig.

Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr hwyluso’r gwaith paratoi ar gyfer y tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i ddiwallu eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma yw’r cymhwyster hwn, lle bo angen cyflawni cyfanswm o 57 credyd, 32 o’r unedau gorfodol ac o leiaf 25 credyd o’r unedau dewisol.
Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel.
Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr

Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.

Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas, 16 oed a hŷn i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gyflogedig yn y maes dysgu hwn eisoes ac yn cael cefnogaeth lawn gan eich cyflogwr. Dylech fod mewn safle i oruchwylio neu reoli gwaith yn y gweithle.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir ei ddefnyddio fel cam agosach at lefel uwch fel
● Dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
● Diploma Lefel 4 mewn Garddwriaeth yn y Gwaith neu bwnc cysylltiedig
● Cymhwyster Addysg Uwch lefel 4 neu 5
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?