main logo

Peirianneg Lefel 2 (Uwch)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01465
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser (5 diwrnod yr wythnos)

Dyma raglen 40 wythnos. Treulir 35 wythnos yn y coleg am hyd at 30 awr yr wythnos ar y prif gymwysterau, a bydd gweddill y cwrs yn gymysgedd o brofiad gwaith ac ymweliadau diwydiannol.
Yn ogystal bydd dysgwyr yn cael eu cysylltu â chwmni ar gyfer lleoliadau profiad gwaith. Bydd hyd ac amseroedd yn dibynnu ar y cwmni.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Rhaglen Cyn-Brentisiaeth Lefel 2 (Uwch) yn gwrs ymarferol a seiliedig ar theori sydd wedi'i anelu at lwybr Crefft a Chynnal a Chadw. Ceir pwyslais mawr ar yr elfen ymarferol gydag ystod eang o dechnegau Peirianneg yn cael eu cyflwyno (Trydanol a Mecanyddol). Mae dysgwyr ar y rhaglen hon yn dilyn yr un llwybr â Phrentis L2 a bydd yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen I fynd I ddiwydiant yn uniongyrchol yn L3 (Rhaglen Diwrnod Astudio).

Diploma/Tystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg (2850-20)
(Unedau Enghreifftiol)

2850-201 Gweithio mewn peirianneg
2850-202 Egwyddorion technoleg peirianneg
2850-205 Peiriannu cydrannau gan ddefnyddio technegau turnio
2850-207 Defnyddio prosesau Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur
2850-208 Egwyddorion technoleg cynnal a chadw
2850-209 Cydosod a chynnal systemau pŵer hylif

Diploma Lefel 2 NVQ City & Guilds mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (7682-20)
(Unedau Enghreifftiol)

7682-201 Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
7682-202 Cynnal gweithgareddau peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
7682-203 Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol
7682-205 Cynhyrchu Cydadrannau gan ddefnyddio Technegau Ffitio â Llaw
7682-211 Paratoi a Defnyddio Turniau ar gyfer Gweithrediadau Turnio
7682-214 Paratoi a phrofi rhaglenni offer peiriannau CNC
7682-220 Cydosod a phrofi systemau pŵer hylif

Datblygu Sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol.

Profiad Cysylltiedig â gwaith.

Mae'r cwrs cyn-brentisiaeth ymarferol a seiliedig ar theori hwn yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen I wneud y gwaith, y gallu I drefnu gwaith ac adnabod ac atal problemau.
Mae’r cwrs yn gofyn am asesu aseiniadau yn y coleg yn barhaus a byddant yn cael eu casglu fel tystiolaeth portffolio i fodloni gofynion y corff dyfarnu.

Yn ogystal, bydd arholiadau wedi eu gosod a’u marcio yn allanol yn cael eu trefnu ar adegau allweddol trwy gydol y cwrs.

Bydd Sgiliau Hanfodol yn cael eu hasesu’n gyson yn ystod y cwrs.
Fel sy’n ofynnol gan Gyngor Sgiliau’r Sector.

4 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf). Wedi cwblhau cymhwyster Peirianneg Llawn Amser/Lefel 1 perthnasol a Sgiliau Hanfodol cysylltiedig yn llwyddiannus a/neu TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C/4

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd y cymhwyster yn gallu meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau eich taith tuag at Brentisiaeth. Mae sawl cyflogwr yn cydnabod y sgiliau, y wybodaeth a’r sgiliau ymddygiadol y byddwch yn eu meithrin wrth gyflawni’r rhaglen hon, gan arwain at waith.

Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn y diwydiant Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu bellach yn gweld gwerth mewn Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) perthnasol.
Efallai y bydd cyfleoedd yn bodoli i gael cyflogaeth hyfforddeion yn unrhyw un o’r disgyblaethau masnach ganlynol:
● Gosod
● Peirianwyr
● Gweithredwyr peiriannau CNC
● Mecanyddol / Cydosod

Gall dysgwyr sy’n cael gwaith hefyd, yn dibynnu ar yr amodau a gynigir gan eu cyflogwr, gael cyfle i symud ymlaen i’n lefelau uwch mewn Peirianneg a fyddai’n cwblhau eu prentisiaeth.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?