Mynediad Cyfun i AU - Gofal Iechyd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00578
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd.

Mae’r rhaglen Mynediad Cyfun yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy gredydau am fodiwlau y gallwch eu hastudio’n amser llawn dros gyfnod o flwyddyn (34 wythnos academaidd) rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr, gyda gwyliau yn ystod yr Haf. Cynigir y cwrs gyda 53% o gyswllt wyneb yn wyneb, yn cael ei gynnal rhwng 9.15am a 6.30pm ar ddydd Mercher ar y safle, y gweddill fel e-ddysgu ar-lein y gellir ei gwblhau ar adeg sy’n addas I chi yn ystod eich wythnos.

Agwedd bwysig o’r rhaglen hon yw eich sgiliau rheoli amser eich hunain ac mae’n hanfodol eich bod yn cynllunio ymlaen llaw o ran dyrannu eich astudiaethau yn y dosbarth ac yn annibynnol. Bydd cael cynllun fel hyn ar waith yn eich cynorthwyo chi a’ch llwyddiant.
Adran
, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl
Dyddiad Dechrau
08 Jan 2025
Dyddiad Gorffen
14 Nov 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr i astudio mewn prifysgol. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau gorfodol yn y pynciau arbenigol, ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd.

Mae’r unedau’n cynnwys pynciau fel Anatomi a Ffisioleg, Cymdeithaseg / Seicoleg ac Iechyd. Bydd y sgiliau craidd yn cynnwys sgiliau fel cyfathrebu ac astudio.
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofiad ateb profion wedi’u hamseru neu sefyll arholiadau. Enillir credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn derbyn Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU gradd C (4) mewn Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg, gyda gradd D (3) o leiaf yn y pwnc arall neu Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.

Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn i astudio’r cwrs hwn.

Dylai’r dysgwyr ymrwymo i raglen lefel 3 amser llawn ac i ddatblygu eu gallu i astudio. Mae sgiliau TG yn hanfodol oherwydd bod rhan sylweddol o’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein.

Anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion i gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Nyrsio yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg.
Cafodd y cymhwyster Gofal Iechyd ei lunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i astudio cyrsiau gradd a dilyn gyrfaoedd yn y sector gofal, fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg neu Reoli Iechyd.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?