main logo

Diploma lefel 3 Tillhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51297
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser 2 flynedd, gyda 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg, ac 1 diwrnod o brofiad gwaith.
Adran
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Tilhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth yn rhan o bartneriaeth unigryw rhwng Coleg Cambria Llysfasi a Tilhill Forestry, y cwmni mwyaf o ran rheoli coedwigaeth a choetiroedd yn y Deyrnas Unedig. Wedi ei ddylunio’n arbennig i’ch paratoi chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn coedwigaeth, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi chi ar gyfer y diwydiant ac wedi’ch hyffordd i gael cyflogaeth.

Ym myd uwch-dechnoleg modern coedwigaeth, mae gwybodaeth am goed wrth galon yr hyn a wnawn, boed hynny’n goedwigaeth fasnachol neu’n rheoli coetiroedd. Byddwn yn eich tywys trwy’r agweddau technegol o adnabod gwahanol rywogaethau, i’r gwyddor o sut maen nhw’n gweithio, o sefydlu coed, gofalu amdanynt a’u diogelu rhag plâu ac afiechydon, i reoli coed ar gyfer cynhyrchu, cadwraeth ac amwynder, hyd at y cwympo terfynol, cywain a phrosesu pren. Byddwch yn dysgu sut i weithredu’r offer, cyfarpar a pheiriannau angenrheidiol i weithio yn y diwydiant modern a chyffrous hwn, gan gynnwys llifau cadwyn, naddwyr coed, tractorau, sgidwyr ac anfonwyr.

Byddwch yn gweithio i safonau diwydiant drwyddi draw, ac yn meithrin a datblygu sgiliau ymarferol, yn ogystal ȃ deall materion damcaniaethol yn y diwydiant. Ceir cryn bwyslais ar waith ymarferol yn y cwrs, gyda digonedd o gyfle i fod yn weithredol ac yn agos at goed. Mae tripiau addysgol i Tilhill Forestry a safleoedd BSW trwy gydol y gadwyn gyflenwi yn cynnig cyfleoedd dysgu ychwanegol ar safleoedd masnachol sy’n cynnwys ymweliadau, sesiynau ymarferol a phrofiad gwaith ar safle. Mae ein cysylltiadau agos â diwydiant yn cynnig sefyllfaoedd gwaith go iawn i fyfyrwyr, ynghyd â chyfnodau lleoliadau gwaith sylweddol, a byddwch yn cael yr holl brofiad sydd arnoch ei angen i gael cychwyn da yn eich swydd gyntaf.

I ategu’r prif gwrs, cynigir ystod o gymwysterau ychwanegol (gyda chost) fel llifiau cadwyn, cwadiau ATV, torwyr prysgoed, sglodwyr coed, chwistrellu plaladdwyr a gyrru tractorau.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio ar brosiectau cymunedol, a gweithgareddau eraill, yn ogystal â’ch prosiect unigol eich hun, wrth weithio tuag at gwblhau Bagloriaeth Cymru Uwch.
Mae pob uned y cymhwyster yn cael eu hasesu trwy ystod o aseiniadau, sy’n asesu sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth, fel y bo’n briodol i’r uned.

Rhaid llwyddo ym mhob aseiniad i lwyddo yn yr unedau, ac mae’n rhaid llwyddo ym mhob uned i ennill y cymhwyster. Mae asesiadau’n cael eu cynnal trwy gydol y cwrs, gyda dyddiadau cau gosod ar gyfer tasgau unigol. Rhoddir graddau ar gyfer pob aseiniad, sy’n cyfrannu at radd gyffredinol y cymhwyster.
5 TGAU gradd A*-C / 9-4 gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth, neu gwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus ar lefel Rhagoriaeth.

Yng Ngholeg Cambria, byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at fynediad at gyrsiau lefel uwch
Bydd myfyrwyr llwyddiannus gyda graddau uchel yng ngham cyntaf y Diploma Tilhill yn gymwys i wneud cais am ail gam y Diploma Tilhill yng Ngholeg Llysfasi: Y Radd Sylfaen Tilhill mewn Rheoli Coedwigaeth a Choetiroedd. Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfweld gan staff Tilhill, ac os ydynt yn llwyddiannus, byddant yn derbyn mentora, mewnbwn technegol a chefnogaeth gan Tilhill Forestry, yn ogystal â hyfforddiant wedi ei deilwra a lleoliadau gwaith fel rhan o’r cwrs, ac mewn lle delfrydol i gael eu cyflogi gan y cwmni yn y dyfodol.

Fel arall, gallai cwblhau’r cymhwyster arwain at swydd neu brentisiaeth gyda chwmnïau a sefydliadau coedwigaeth, coedyddiaeth a chefn gwlad. Gallai hyn olygu gweithio i gwmni rheoli coedwigoedd, ystâd, tirfeddiannwr, contractiwr neu awdurdod lleol. Gallech weithio fel contractiwr/gweithredwr coedwigaeth, parcmon coedwig, crefftwr coedwig, goruchwyliwr coedwig, goruchwyliwr, contractiwr ffiniau a llawer mwy.

Neu fe allech benderfynu parhau i astudio mewn prifysgol ar gwrs cysylltiedig megis Gradd mewn Rheolaeth Cefn Gwlad (BSc), Gradd Sylfaen mewn Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd, FdSc mewn Rheoli Cadwraeth Coetiroedd, BSc (Anrh) mewn Rheoli Cadwraeth Coetiroedd, BSc mewn Coedwigaeth, neu Goedwigaeth Drefol (HND) er enghraifft.
Fe allai fod yn ofynnol prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?