main logo

Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifiadureg (Peirianneg Meddalwedd Uwch/Technoleg Ddigidol)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00897
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae astudio cwrs Cyfrifiadureg yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi i weithio gyda chynnyrch arloesol a thechnoleg newidiol yn y sector sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae’n eich rhoi chi yn y lle gorau un i wneud y mwyaf o’r amgylchedd digidol hwn ac elwa’n llawn ar eich potensial CHI.

Mae cyfrifiaduron yn bodoli ym mhob agwedd o’n byd. Gallai gyrfa mewn peirianneg, fforenseg, gêmau, amlgyfryngau, neu unrhyw fath o wyddoniaeth fod yn eiddo i chi.

Bydd y cwrs hwn yn eich darparu gyda’r cyfuniad cywir o sgiliau i ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant hwn sy’n symud yn gyflym. Byddwch yn dysgu am lawer o agweddau ar galedwedd a meddalwedd, a’r modd y mae’r rhain yn berthnasol i’r byd go iawn.

Mae’r meysydd y byddwch yn dysgu amdanynt ar y cwrs yn cynnwys;

● Egwyddorion Cyfrifiadureg
● Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol
● Diogelwch ac Amgryptio Systemau TG
● Cymwysiadau Busnes Cyfryngau Cymdeithasol
● Datblygu Gwefannau
● Graffeg ac Animeiddio Digidol
● Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadurol
● Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd
● Effaith Cyfrifiadura
● Datblygu Cronfa Ddata Berthynol
● Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
● Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol
● Rhithwiroli

Yn ail flwyddyn y cymhwyster cewch ddewis rhwng gwneud cais am le mewn Prifysgol trwy’r broses UCAS, neu ymuno â’r rhaglen TG Uwch, a fydd yn eich darparu gyda sgiliau a chefnogaeth ychwanegol gyda’r nod o symud ymlaen i brentisiaeth neu swydd.
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o arddulliau asesu er mwyn rhoi’r hyder i chi allu cymhwyso eich gwybodaeth i lwyddo yn y gweithle, a chael y sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch. Mae’r ystod hon o asesiadau galwedigaethol ymarferol ac ysgrifenedig yn golygu y gallwch arddangos eich dysg a’ch cyraeddiadau yn y ffordd orau wrth gymryd eich cam nesaf, boed hynny yn gais ar gyfer cyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.

Mae BTEC yn defnyddio tri math o asesiad – aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Mae pedwar arholiad/tasg, I gyd wedi’u hasesu’n allanol, wedi’u gwasgaru ar draws y 2 flynedd lawn.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 2 flynedd llawn mewn Cyfrifiadura yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS, gan roi dewis eang o opsiynau cynnydd i fyfyrwyr.

Gallwch fynd ymlaen i brifysgol, prentisiaeth neu waith cyflogedig a pharhau i ddatblygu eich gyrfa Cyfrifiadureg…pwy a ŵyr ble fydd yn dod i ben?

Dyma rai cyfleoedd posibl ym maes cyfrifiadura:

Dylunydd Gemau
Dylunydd Gwe
Technegydd Cymorth Systemau
Technegydd Cymorth TG
Technegydd Seilwaith TG
Dadansoddwr Data
Ymarferydd Technoleg Ddigidol Ddatblygol
Dylunydd Meddalwedd
Dadansoddwr Systemau
Peiriannydd Meddalwedd
Cymorth Systemau
Datblygwr Apiau
Rheolwr Systemau Gwybodaeth
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer sy’n atodedig i gael gwybodaeth bellach.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?