main logo

Lefel 2 Gofal, Dysgu trwy Chwarae a Datblygu Plant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00296
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Dyddiad Dechrau
05 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Cafodd y cymhwyster hwn ei lunio ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y sectorau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant, neu sy'n bwriadu gweithio ynddynt.

Bydd y cymhwyster hwn yn cynnwys yr wybodaeth graidd a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gefnogi plant. Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarferion gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant.

Byddwch yn cwblhau Theori ac Ymarfer Lefel 2 ochr yn ochr â’r cymhwyster craidd, a fydd yn eich darparu gyda’r cyfleoedd i brofi gweithio gyda phlant yn y sector gofal plant ac addysg.

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal Plant, bydd angen I chi gwblhau’r canlynol
● TGAU mewn Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg, trwy gynllun CymraegGwaith.
Asesir y cymhwyster trwy gyfres o dasgau wedi’u hasesu’n fewnol. Bydd tasgau asesu wedi’u marcio’n allanol hefyd gan gynnwys papur atebion amlddewis.

Byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith gorfodol yn ystod y cwrs hwn lle byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, rhaid I ymgeiswyr gael Lefel 1 mewn Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg neu berfformiad boddhaol.

Rhaid I chi allu dangos y potensial I weithio’n annibynnol ac yn ddiogel mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus gallwch chi symud ymlaen i astudio;
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Ymarfer a Theori

Mae enghreifftiau o rolau swydd yn cynnwys y rhai sy’n gweithio dan oruchwyliaeth, fel Cynorthwyydd Cylch Chwarae, Cynorthwyydd Meithrin, Cynorthwyydd Crèche, Gweithiwr Gofal Plant y Tu Allan i’r Ysgol a Chynorthwyydd Cylch Meithrin.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?