main logo

C&G Lefel 3 Diploma Technegol Uwch mewn Blodeuwriaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16819
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Mae’r cwrs rhan-amser hwn yn cael ei gynnal dros ddwy flynedd (64 wythnos), un diwrnod yr wythnos.
Dydd Mercher 9am tan 5pm

Bydd cyfle I gefnogi mewn digwyddiadau a all barhau tan nosweithiau a dros y penwythnos. Bydd y tiwtor yn rhoi’r wybodaeth I chi am ba bryd y bydd rhan yn digwydd.

Cyfleoedd profiad gwaith ar gael ar ddydd Gwener (yn ôl rota ac yn amodol ar angen).
Adran
Blodeuwriaeth
Dyddiad Dechrau
11 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Dyma gwrs rhan-amser sy’n cael ei gynnal dros ddwy flynedd academaidd (64 wythnos) am un diwrnod yr wythnos. Agored i bob dysgwr sy’n meddu ar Dystysgrif Dechnegol/Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth ac mae wedi’i lunio ar gyfer y rhai sydd eisiau ennill y cymhwyster lefel nesaf wrth weithio/cydbwyso bywyd gartref.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl o’r diwydiant blodeuwriaeth, gan ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad ar lefel uwch er mwyn cael gwaith sy’n gysylltiedig â blodeuwriaeth a'ch ymestyn tuag at swydd a chyfrifoldebau ar lefel uwch ym myd Busnes Blodeuwriaeth.

Byddwch yn cymryd rhan mewn creu dyluniadau ar gyfer digwyddiadau a phriodasau, arddangosiadau cyhoeddus ac ar gyfer gwerthiannau masnachol.

Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â blodeuwriaeth, gan gynnwys proses dylunio creadigol, gofal planhigion a blodau, dyluniadau blodau wedi'u clymu, dyluniadau blodau mewn cyfrwng, dyluniadau blodau â gwifrau ac wedi’u gludo, rheoli busnes a marchnata, iechyd a diogelwch, tueddiadau yn y diwydiant blodeuwriaeth a blodeuwriaeth digwyddiadau.

Byddwch yn cael y cyfle anhygoel i elwa ar gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau blodeuwriaeth heriol, fel priodasau bywyd go iawn o'r dechrau i'r diwedd, a chynllunio dyluniadau arloesol sy'n gweddu i'r briodferch. Byddwch hefyd yn cynllunio a chynnal arddangosiadau cyhoeddus ac yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau clodfawr fel Cystadleuaeth Sgiliau’r Deyrnas Unedig.

Bydd y cyfleusterau gwych a’r staff arbenigol brwdfrydig yn rhoi hwb i chi yn eich llwybr gyrfa dewisol. Bydd dysgu mor hwyliog â phosibl, a byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol ac mewn grwpiau, gwaith ymarferol yn ogystal â defnyddio ystod o dechnoleg dysgu fodern.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan hanfodol o’r rhaglen. Byddwn yn gweithio gyda chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ac yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau llythrennedd digidol. Bydd gofyn i chi fynd i’r coleg mewn blociau o ddau ddiwrnod i gwblhau asesiadau drwy gydol y ddwy flynedd. Bydd y tiwtor yn sicrhau bod gennych chi’r dyddiadau hyn mewn digon o bryd ac nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’r cyfnodau prysur yn y diwydiant.

Mae disgwyl y bydd gennych chi eich offer Blodeuwriaeth eich hunain a byddwch yn dod â nhw gyda chi bob wythnos.
Bydd y cwrs yn cael ei asesu drwy arholiad ac asesiad aseiniad synoptig dan reolaeth. Byddwch yn cymryd rhan mewn ystod o asesiadau ac arholiadau ffug trwy gydol y rhaglen, yn ogystal ag asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu chi i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Byddwch hefyd yn treulio cyfnod mewn lleoliad profiad gwaith allanol yn y diwydiant Blodeuwriaeth am 150 awr

Efallai bydd dysgu Saesneg a Mathemateg yn cynnwys sefyll arholiadau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf), Mathemateg / Rhifedd a Gwyddoniaeth.

Gradd llwyddo o leiaf ar gyfer Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth.

Byddwch yn cael eich asesu yn eich sgiliau ymarferol blodeuwriaeth (lle bo’n berthnasol), i arddangos safon foddhaol o sgil a hyder wrth ddylunio.
Symud ymlaen i addysg uwch (prifysgol). Bydd angen i chi gael y pwyntiau UCAS angenrheidiol penodol i’r cwrs o’ch dewis.

I’r dysgwyr hynny sy’n dymuno dechrau gweithio, bydd y cwrs Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau theori ac ymarferol sy’n berthnasol i lawer o swyddi yn y diwydiant blodeuwriaeth, yn ogystal ag ystod o sgiliau personol, sgiliau cymdeithasol a sgiliau ehangach sy’n berthnasol i ystod ehangach o gyfleoedd gyrfa.

Mae enghreifftiau arferol o lwybrau cyflogaeth yn cynnwys uwch-werthwr blodau, goruchwyliwr, arbenigwr digwyddiadau, neu ddarlithydd, neu fel arall, byddwch mewn sefyllfa dda i ystyried hunangyflogaeth, er enghraifft fel gweithiwr llawrydd neu reolwr / perchennog.
£1,500 nad yw’n bosib ei ad-dalu (dros 18 oed)

Bydd gofyn I chi ddod â blodau a deunyddiau gyda chi bob wythnos.

Bydd y tiwtor yn rhoi rhestr I chi bob wythnos a bydd yn costio tua £15 bob wythnos ar gyfartaledd.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?