main logo

Diploma lefel 3 mewn Trin Gwallt

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00332
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 1 flynedd llawn amser.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt Merched yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau Trin Gwallt yn ogystal â’ch creadigrwydd fel steilydd gwallt.

Mae’r cwrs hwn yn gymysgedd o waith theori a sgiliau ymarferol uwch sy’n canolbwyntio ar liwio, torri a thechnegau steilio a fydd yn ehangu eich creadigrwydd a’ch proffesiynoldeb.

Trwy gydol y cwrs, bydd dysgwyr yn datblygu portffolio o’u gwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth asesu wrth weithio gyda brandiau gwallt proffesiynol ac ymgymryd â gwasanaethau gwallt ar gwsmeriaid.
Bydd y rhaglen yn datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau personol y mae cyflogwyr a Sefydliadau Addysg Uwch yn gofyn amdanynt.

Yn ogystal â’r cymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch, bydd angen i chi gwblhau’r canlynol:

● TGAU mewn Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Cymru
● Meithrin sgiliau Cymraeg, trwy Gymraeg Gwaith
● Rhaid i’r holl ddysgwyr ymgymryd â lleoliad gwaith
Byddwn yn asesu’r gwaith cwrs yn barhaus a gall dysgwyr ennill lefelau cyrhaeddiad Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Cwblhau cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2 yn llwyddiannus.
Gall dysgwyr symud ymlaen i addysg uwch neu i weithio yn y sector Trin Gwallt. Bydd angen i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau symud ymlaen i addysg uwch sicrhau fod ganddynt ddigon o bwyntiau UCAS ar gyfer astudiaethau israddedig.

Y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yw gweithio mewn salon fel steilydd, goruchwyliwr neu arbenigwr lliwio.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?