Mynediad Cyfunol i Ddiploma AU: Addysgu, Gwaith Cymdeithasol, Cwnsela a Gwyddorau Cymdeithasol (Dechrau ym mis Ionawr)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01526
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd.

Mae’r rhaglen Mynediad Cyfun yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy gredydau am fodiwlau y gallwch eu hastudio’n amser llawn dros gyfnod o flwyddyn (34 wythnos academaidd) rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr, gyda gwyliau haf. Cynigir 53% o’r cwrs yn gyswllt wyneb yn wyneb, rhwng 9.15am a 6.30pm ar ddydd Mawrth ar y safle, a’r gweddill fel e-ddysgu ar-lein y gellir ei gwblhau ar adeg sy’n addas i chi yn ystod eich wythnos.
Adran
, Cwnsela
Dyddiad Dechrau
07 Jan 2025
Dyddiad Gorffen
19 Dec 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr ar gyfer astudio ystod o raddau mewn prifysgol, fel Addysgu, Addysg, Gwaith Cymdeithasol, Seicoleg, Troseddeg, Cymdeithaseg, Hanes, Saesneg a llawer rhagor o bynciau. Mae'r cwrs yn cynnwys ystod o bynciau ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd.

Gallai’r modiwlau gynnwys Seicoleg, Cymdeithaseg, Hanes, y Cyfryngau a Saesneg. Bydd tiwtor yn rhoi gwybod am hyn. Mae’r Sgiliau Craidd yn cynnwys Cyfathrebu, Sgiliau Astudio a Rhifedd.
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofiad ateb profion wedi’u hamseru neu sefyll arholiadau. Enillir credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn derbyn Diploma Mynediad I Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU Gradd C/4 mewn Saesneg neu Fathemateg, ac o leiaf Gradd D/3 yn y pwnc arall.
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.

Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn i astudio’r cwrs hwn.

Anogir darpar ymgeiswyr I gysylltu â phrifysgolion unigol I gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Addysgu yn gofyn am radd B/6 mewn cymwysterau TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.

Efallai y byddwch yn cael eich cynghori I ddilyn cwrs Sgiliau Hanfodol cyn dechrau ar y cwrs Mynediad. Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle I gyflawni’r lefel ofynnol o Rifedd a Chyfathrebu ar gyfer Cwrs Mynediad.
Gallwch symud ymlaen i astudio cyrsiau fel Addysg, Gwaith Cymdeithasol, Saesneg, Seicoleg, Troseddeg, Cymdeithaseg, Daearyddiaeth, Hanes, Newyddiaduraeth ac mae sawl opsiwn arall ar gael.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?