main logo

Dyfarniad Lefel 3 mewn Sgiliau Weldio MIG/TIG/MMA

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA03261
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Gallwch chi gwblhau’r cwrs un noson yr wythnos mewn blwyddyn academaidd.
Adran
Gwneuthuro a Weldio
Dyddiad Dechrau
19 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Dyfarniadau Lefel 3 mewn Sgiliau Weldio Uwch yn ddelfrydol os ydych chi, wedi bod yn gweithio yn y diwydiant weldio, ac eich bod chi’n gwneud hynny ers cryn amser a bod gennych chi ddigon o brofiad. Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau ymhellach, fel y gallwch chi ymgymryd â gwaith weldio cymhleth, codio a rheoli ansawdd. I gofrestru, mae'n rhaid bod gennych chi lefel uchel o sgiliau weldio neu eich bod chi wedi cwblhau disgyblaeth lefel 2 mewn weldio yn llwyddiannus mewn proses debyg.

Mae naw cymhwyster uned sengl ar gael ar y lefel hon. Mae'n rhaid i chi gwblhau pum aseiniad ymarferol a phrawf gwybodaeth ar-lein yn llwyddiannus i ennill un o'r cymwysterau hyn. Rydym yn argymell o leiaf 90 awr o waith ymarferol, y gallwch eu cwblhau dros flwyddyn academaidd rhwng Medi a Mehefin. Bydd angen 10 awr o waith damcaniaethol yn ychwanegol at hyn, yn ogystal â hunan-astudio.

Dyma restr lawn o’r unedau sydd ar gael:
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Arc-weldio Craidd Fflwcs
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Arc-weldio Metel â Llaw (MMA) - Pibellau
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Arc-weldio Metel â Llaw (MMA) - Platiau
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Metel â Nwy Anadweithiol (MIG) - Pibellau
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Metel â Nwy Anadweithiol (MIG) - Platiau
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Ocsi-asetylen
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Twngsten â Nwy Anadweithiol (TIG) - Alwminiwm
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Twngsten â Nwy Anadweithiol (TIG) - Pibellau
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Weldio Twngsten â Nwy Anadweithiol (TIG) – Dalenni
Byddwch chi’n ennill y cymhwyster hwn drwy gyfuniad o aseiniadau ymarferol ac arholiadau ar-lein/ysgrifenedig.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn llythrennog a bod â sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu da. Mae’n rhaid cael cymhwyster lefel 2 perthnasol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu mynd ymlaen i addysg uwch, cyflogaeth neu brentisiaeth.
£750
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?