Dawnsio ar gyfer clefyd Parkinson

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA15351
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Sesiynau wythnosol: 1 awr 15 munud
Adran
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Dyddiad Dechrau
30 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
16 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Gwybodaeth am ein dosbarthiadau

Mae’r dosbarthiadau hyn yn para 1 awr a 15 munud, yn hwyl ac yn anffurfiol.

Mae wedi ei brofi fod dawns yn helpu datblygu hyder a chryfder, wrth liniaru symptomau cyfranogwyr dros dro yn eu bywydau bob dydd. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo’r teimlad o ryddhad gan gyfyngiadau corfforol a chymdeithasol o gael Parkinson’s

Dyddiadau: Yn dechrau 30.09.2024

Coleg Cambria, Wrecsam: Dydd Llun 1.00-2.15pm
Pris: £3.50 (ar gyfer lluniaeth)

CYSWLLT: Jamie.Jenkins@cambria.ac.uk

Mae Parkinson’s yn effeithio 1 mewn 37 o bobl yn y DU gyda 2 person arall yn cael eu diagnosio bob awr.

Buddion gwneud ymarfer corff i bobl sydd â Parkinson’s

Mae ymarfer corff yn dda i bawb, p’un a ydym ni’n berffaith iach, mewn perygl o gael problemau iechyd penodol neu yn dioddef o salwch cronig. Ond i bobl sydd â Parkinson’s, gall ymarfer corff fod yn hyd yn oed mwy buddiol. I ddweud y gwir, mae’r Parkinson’s Foundation yn dweud bod ymarfer corff yn
“rhan hanfodol i gynnal balans, symudedd a gweithgareddau byw o ddydd i ddydd, ynghyd ag effaith niwroamddiffynnol posib.”

Mae’r buddion yn cynnwys;
● Lleihad mewn symptomau echddygol
● Gwella cryfder a ffyrfder cyhyrau, ynghyd â gwytnwch
● Llai o darfu ar gerddediad

Pam dewis ein dosbarth ni?

Gall elfennau ein dosbarth dawnsio, rhyddhad artistig a’r agwedd gymdeithasol o’r dosbarth, helpu gyda rheoli bywyd o ddydd i ddydd gyda Parkinson’s. Gall dawnsio helpu cynyddu llifedd symudiad, datblygu sadrwydd osgo, ystwythder asgwrn y cefn a gwella balans. Gall y defnydd o rythm a llais helpu rhoi arwydd ar gyfer symudiad a mynegiant.

Roedd Dance for Parkinson's ENB yn fodel ar gyfer ymchwil arloesol a gafodd ei gyhoeddi yn 2015 gan Dr Sara Houston o Brifysgol Roehampton: English National Ballet, Dawnsio ar gyfer Parkinson’s: Astudiaeth Archwilio 2

https://www.ballet.org.uk/wp-content/uploads/2017/03/English-National-Ballet-Dance-for-Parkinsons-research-report.pdf

“Am sesiwn hyfryd a chysyniad diddorol i bawb sy’n gweithio, byw ac ymdrin â phobl sydd gyda Parkinson’s. Dwi mor falch yr oeddwn i’n gallu cymryd rhan. Mae’r sesiwn wedi fy ysbrydoli i deimlo y buaswn i’n hoffi parhau gyda dawns gyda phobl sy’n byw gyda’r cyflwr hwn.”
- Cyfranogwr, Nyrs Arbenigol mewn Parkinson’s, Caerdydd

“Mae’r cyfnod clo hwn wedi bod yn anodd iawn, gan nad oeddwn i’n gallu gweld pobl nac fy nheulu. Roeddwn i’n teimlo’n ynysig ac roeddwn i’n cael trafferth gyda’n lleferydd. Roeddwn i’n teimlo bod y sesiynau Zoom wedi fy helpu i ailgysylltu ac roedd hi’n hyfryd gweld Yvette a Helen a holl gyfranogwyr ein grŵp. Roedd y sesiynau yn codi fy hwyliau ac roeddwn i’n edrych ymlaen atyn nhw bob amser. Gwnaethoch chi wir wneud gwahaniaeth.”

- Cyfranogwr

“Mae’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n gallu ymdopi’n well; dwi’n gallu cerdded yn well... Dyna’r feddyginiaeth orau.”

- Cyfranogwr
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?