main logo
Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
MY10330
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, 21 mis
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Brentisiaeth Defnyddiwr Digidol Lefel 3 wedi’i chynllunio gyda chyflogwyr yng Nghymru i wella ac ehangu eu galluoedd sgiliau digidol yn y gwaith. Mae’r rhaglen Brentisiaeth hon wedi’i chynllunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i ddiwallu anghenion sgiliau digidol sy’n hanfodol er mwyn i weithwyr allu manteisio’n llawn ar gyfleoedd digidol yn y gweithle. Ymdrinnir â llawer o rolau gan y fframwaith hwn a gallent fod o fewn:

• Swyddogaethau gweinyddol sefydliadau'r sector preifat a chyhoeddus sy'n trin data a dogfennau.
• Gweithwyr gofal iechyd, manwerthu, gwasanaethau ariannol, peirianneg ac amaethyddiaeth sydd angen rhyngweithio â systemau digidol ac awtomeiddio.
• Gweithredwyr ac arweinwyr tîm sy'n gweithio mewn unrhyw sector sy'n defnyddio systemau digidol data-ganolog i brosesu a storio data o unrhyw fath mewn rolau iau. Mewn gwirionedd, bron pob un o ddefnyddwyr systemau digidol a data sylfaenol o unrhyw fath.
Asesiadau yn y gwaith
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn. Fodd bynnag, i gael mynediad i Brentisiaeth Lefel 2, rydym yn argymell fod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd G neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth) ac ar gyfer Prentisiaeth Lefel 3 rydym yn argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth).

Fodd bynnag, nid yw’r argymhellion hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol ond nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Mae rhaglenni prentisiaeth data a chynnwys digidol Lefel 4 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus wneud cynnydd pellach yn eu hastudiaethau a’u harbenigedd. Gallant hefyd symud ymlaen yn eu rôl swydd a chyflawni eu dysgu trwy ymgymryd â chymwysterau gwerthwr ychwanegol mewn pecynnau swyddfa digidol a data.
Mae Cyllid Prentisiaeth ar gael
Am gost, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?