Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | MY10008 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Rhan Amser, 15 mis Caiff y cymwysterau hyn eu hennill trwy gwblhau unedau sgiliau a gwybodaeth. Rydyn ni’n annog dysgwyr i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gydag arweiniad a chefnogaeth asesydd. Bydd yr amser mae’n ei gymryd i gwblhau yn amrywio, ond mae gan ddysgwyr 15 mis i gwblhau’r holl gydrannau gofynnol. |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Busnes a Gweinyddu yn rhoi’r hyblygrwydd i’r dysgwr allu datblygu eu dealltwriaeth am ystod eang o weithgareddau gweinyddu fel rheoli gwybodaeth, cydlynu digwyddiadau a gweithredu systemau a gweithdrefnau. Mae’n rhoi cyfle i unigolion feithrin sgiliau busnes hanfodol mewn gwneud penderfyniadau a rheoli adnoddau a phrosiectau. Yn ystod y rhaglen mae dysgwyr yn ymdrin ag ystod eang o destunau o bob agwedd ar waith gweinyddol. Yna gallant adeiladu ar eu cyflawniadau i ennill rhagor o sgiliau technegol a rheoli, yn ogystal â goruchwylio eraill a chyfrannu at strategaeth ehangach eu sefydliad neu adran.
Mae cymwysterau Lefel 3 wedi'u hanelu'n gyffredinol at swyddogion/gweithwyr gweinyddol, arweinwyr timau gweinyddol, cymhorthyddion personol neu ysgrifenyddion, gan gynnwys ysgrifenyddion cyfreithiol neu feddygol.

Bydd asesiad manwl yn cael ei gynnal i ddechrau. Mae’r Tîm Asesu yng Ngholeg Cambria yn gweithio’n agos gyda busnesau, adrannau, rheolwyr a gweithwyr i gyflwyno cymwysterau wedi’u teilwra yn seiliedig ar swyddi unigol.
Bydd cymorth ar gael ar sail strwythuredig yn y gweithle ac ar sail hyblyg yn y coleg.
Bydd cymorth asesydd ar gael dros y ffôn / e-bost hefyd.
Bydd cymorth ar gael ar sail strwythuredig yn y gweithle ac ar sail hyblyg yn y coleg.
Bydd cymorth asesydd ar gael dros y ffôn / e-bost hefyd.
Sesiwn ymsefydlu 3 awr o hyd, sy’n cynnwys Holiadur Cyn Cwrs a chofrestru. Mae’n bosibl teilwra’r asesiad o unedau i fodloni anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Mae’n bosibl cyflwyno asesiadau yn y gweithle.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwr gael gwaith mewn swydd weinyddol/goruchwylio o fewn unrhyw fath o sefydliad a gall gynnig dilyniant i Ddiploma Lefel 4 a Phrentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
19/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025