Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
MY10025
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Tua 16 mis
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio a dysgu ar yr un pryd. Mae’n addas i’r rheiny sy’n gweithio mewn swydd rheolwr rheng flaen sydd â’r cyfrifoldeb dros reoli gweithredoedd tîm o ddydd i ddydd, a allai gynnwys cyfathrebu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gwaith, rheoli perfformiad unigolion a’r tîm, cadeirio cyfarfodydd, a meithrin perthnasau gwaith gyda rhanddeiliaid. Dylai dysgwyr gael cymorth eu cyflogwyr er mwyn bod yn llwyddiannus wrth gwblhau’r rhaglen hon.

Unedau Gorfodol:

300 Rheoli Perfformiad a Datblygiad Personol
301 Rheoli Perfformiad Tîm
302 Egwyddorion Arwain a Rheoli*
303 Egwyddorion Rheoli Pobl*
204 Egwyddorion Busnes*

Unedau Dewisol:

402 Datblygu Perthnasau Gwaith gyda Rhanddeiliaid
307 Rheoli Datblygiad Unigolion yn y Gweithle
308 Arwain a Chadeirio Cyfarfodydd
313 Gweithredu a Chynnal Cynlluniau a Phrosesau Dilyniant Busnes
314 Gweithio gydag Adrannau Eraill
306 Rheoli Perfformiad Unigolion

*Mae’n dynodi uned wybodaeth lle nad oes angen tystiolaeth o berfformiad. Mae'r unedau dewisol a ddangosir yn sampl fach o unedau sydd ar gael
Gweithio mewn swydd briodol er mwyn gallu casglu tystiolaeth
Cymorth gan eich cyflogwr ar gyfer ymweliadau i’r gweithle gan eich asesydd
Bydd asesydd yn cael ei bennu i bob dysgwr, a fydd yn dod i’r gweithle unwaith y mis i arwain a chynorthwyo’r dysgwr i gyflawni’r cymhwyster. Ar gyfer y Diploma Lefel 3 mewn Rheoli, bydd angen i’r dysgwr lunio portffolio o dystiolaeth i ddangos eu cymhwysedd. Gan mai gwybodaeth yn unig yw tair o’r unedau, byddwn yn cynnig sesiynau a addysgir am ddim ar ein safle Llaneurgain. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn orfodol ac os yw’r dysgwr yn dewis peidio â mynd i’r rhain, bydd yr Asesydd yn rhoi cymorth ac yn darparu adnoddau i’r dysgwr i sicrhau eu bod yn caffael y wybodaeth i gyflawni’r unedau hyn. Bydd tystiolaeth yn cael ei hennill drwy arsylwi uniongyrchol ar y dysgwr, gan ddarparu dogfennaeth y mae’r dysgwr yn ei chwblhau neu’n ymwneud â nhw, cydweithwyr a rhanddeiliaid sy’n darparu tystiolaethau tyst i gadarnhau bod y dysgwr wedi cyflawni tasgau, trafodaethau rhwng y dysgwr a’r asesydd ar dasgau a gwblhawyd a datganiadau ysgrifenedig neu drafodaethau wedi’u recordio i gwmpasu’r wybodaeth ym mhob uned.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sy’n dechrau ar eu cam cyntaf o’r ysgol i mewn i Reoli. Bydd cwblhau hyn yn agor rhagor o gyfleoedd i symud ymlaen trwy’r lefelau rheoli.
£1,000.00 ar gyfer yr NVQ ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, os caiff ei wneud fel rhan o fframwaith prentisiaethau, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn yn amodol ar rai gofynion cymhwysedd.

I gael rhagor o fanylion, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
19/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?