main logo

Tystysgrif Lefel 2 Cynorthwywyr Twtio Cŵn

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA06300
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Dydd Mawrth 9.30am – 2.45pm
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
10 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
17 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r lefel hon yn ddelfrydol os ydych chi eisiau dechrau gweithio yn y diwydiant twtio cŵn, ac eisiau dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio dan oruchwyliaeth mewn salon twtio cŵn.

Er mwyn ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol.

Beth fydd y cwrs yn ei gynnwys?
● Paratoi a thwtio cŵn cyn eu golchi
● Golchi cŵn
● Sychu cŵn a’u paratoi ar gyfer steilio
● Trimio cotiau cŵn a’u paratoi ar gyfer steilio
● Symud a chodi cŵn
● Cynnal glendid a bioddiogelwch yr amgylchedd trin cŵn
● Ymddygiad proffesiynol
● Cyflwyniad i nodweddion anatomegol, nodweddion brîd ac ymddygiad cŵn

Mae’r cwrs wedi’i anelu at:
● Gweithwyr twtio cŵn heb gymhwyso
● Cyhmorthwyr twtio cŵn heb gymhwyso
● Pobl sy'n gadael yr ysgol sydd am ddilyn y llwybr gyrfa hwn neu lwybr yn y diwydiant gofal anifeiliaid
● Oedolion sy'n chwilio am newid gyrfa

Ein cwrs twtio cŵn yw’r cam cyntaf i ddod yn weithiwr twtio cŵn neu adeiladu ar yrfa bresennol yn y diwydiant. Bydd eich hyfforddiant yn canolbwyntio ar egwyddorion ac arferion technegau modern twtio cŵn.
Byddwch yn gweithio â nifer o fridiau a mathau o gotiau gan gynnwys, llyfn, byr, cyfuniad, gwlân,
sidanaidd, dwbl, blew hir a blew cras, gan sicrhau y gallwch eu paratoi ar gyfer eu steilio.
Byddwch yn datblygu sgiliau stripio â llaw, technegau siswrn sylfaenol a thechnegau clipio
sylfaenol fel rhan o’r cwrs hwn.

Mae’r salon yn llawn cyfarpar, gydag offer mwyaf poblogaidd y diwydiant. Bydd angen siaced
twtio â logo arni - gweler y rhestr cit.

Bob blwyddyn, rydym yn ymweld â sioe gŵn fwyaf y byd ‘Crufts’, lle gallwch ymweld â ‘Discover
Dogs’ neu stondinau masnach yn yr NEC.

Bydd gofyn i chi hefyd fynd i ddiwrnodau hyfforddiant gan gynnwys Cymorth Cyntaf i Gŵn.
Bydd asesiadau ymarferol a theori ar gyfer yr holl unedau gorfodol a dewisol. Bydd y cwrs yn cynnwys elfen arholiad hefyd.
Byddant yn casglu portffolio o dystiolaeth.
Mae’r cwrs Tystysgrif Lefel 2 i Gymhorthwyr Twtio Cŵn i unrhyw un sydd eisiau dechrau
gweithio yn y diwydiant. Nid oes angen unrhyw gymwysterau twtio cŵn blaenorol arnoch chi.
Er bod gweithio yn y diwydiant yn fantais, nid yw’n ofynnol.
Dewisiadau Gyrfa.
● Cyflogaeth fel cymhorthydd twtio cŵn
● Diploma Lefel 3 mewn Twtio Cŵn
● Dechrau yn y diwydiant
● Gofal Anifeiliaid Lefel 2 neu 3
£1600

Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.

I gael dyddiadau’r cwrs ac i gadw lle cysylltwch â Choleg Cambria ar 03003030006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?